Helsinki, y Ffindir

Mae aelodau o'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, sy'n gweithio gyda chydweithwyr o Ysgol Swedeg y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Helsinki, wrthi'n astudio addasiadau a thrawsnewidiadau dinas-ranbarthau a hynny yn Ninas-Ranbarth Helsinki Fwyaf.

Ar ôl iddi lofnodi Siarter Aalborg yn gynnar (sef Siarter Dinasoedd a Threfi Ewrop tuag at Gynaliadwyedd) ym 1995, yn sgil cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd Helsinki gan Gyngor y Ddinas ym mis Mehefin 2002, Helsinki oedd y brifddinas gyntaf yn Ewrop â chynllun gweithredu cynhwysfawr ar ddatblygu cynaliadwy.

Ar hyn o bryd, o dan Strategaeth Cyngor y Ddinas ar gyfer 2009-12, lleddfu newid yn yr hinsawdd yw prif sbardun y polisïau. Ond ar yr un pryd, mae dyfodiad polisïau Ewropeaidd a chenedlaethol ar newid yn yr hinsawdd er mwyn ymateb i fygythiadau newid hinsawdd yn creu cryn her i Helsinki yn y tymor bur a'r tymor hirach. Mae hyn yn cynnwys yn benodol yr her o gyrraedd targedau cynaliadwyedd pur ymestynnol ar gyfer amryw o swyddogaethau'r fwrdeistref, gan gynnwys cynhyrchu a defnyddio ynni, defnyddio tir y rhanbarth, trafnidiaeth, codi a chynnal adeiladau, rheoli gwastraff, hamdden ac addysg.

Cafodd taith astudio gychwynnol ei chynnal ym mis Mai 2011, gan gynnal cyfweliadau ymchwil ag un o ddirprwy feiri dinas Helsinki, aelodau o Adran Cynllunio Dinas Helsinki, ac aelodau o Adran Gynllunio dinas gyfagos Vantaa.

Dinasoedd Vantaa a Helsinki, ynghyd ag Espoo a Kauniainen, sy'n ffurfio Ardal Fetropolitanaidd Helsinki, a chyfanswm poblogaeth o 1 miliwn. Maen nhw hefyd yn ffurfio craidd trefol Rhanbarth Helsinki Fwyaf, sy'n cynnwys wyth bwrdeistref arall ac sydd â phoblogaeth o ryw 1.2 miliwn. Rhoddodd y cyfweliadau ymchwil doreth o wybodaeth am yr heriau cyfredol sy'n wynebu cynllunwyr dinas yn Helsinki a Vantaa, ond hefyd o ran Rhanbarth Helsinki Fwyaf yn fwy cyffredinol. Roedd y materion a gododd yr ymatebwyr yn cynnwys:

  • anawsterau ynglŷn â phenderfyniadau di-fwlch rhwng y nifer fawr o fwrdeistrefi yn Ninas-ranbarth Helsinki Fwyaf
  • diffyg haen ranbarthol gref o lywodraeth i helpu i ddatblygu strategaeth integredig ar dwf cynaliadwy i'r ddinas-ranbarth
  • yr angen i gyrraedd y targed o fod yn garbon-niwtral erbyn 2050
  • pwyslais ar effeithlonrwydd ynni yn hytrach na defnyddio ynni adnewyddadwy, a hynny yn bennaf am fod yna system gwres a phŵer cyfun – sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi rhyw 90% o'r ddinas
  • y ffaith bod achos Helsinki yn gymharol unigryw, gan fod 80% o'r tir i gyd yn perthyn i lywodraeth y fwrdeistref
  • y pwysigrwydd diwylliannol mawr sy'n cael ei roi i gynnal a diogelu mannau gwyrdd yn y ddinas – sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod rhyw 40% o'r arwynebedd yn cael ei ddisgrifio fel mannau gwyrdd
  • buddsoddi ar raddfa fawr mewn trafnidiaeth ar y rheilffyrdd fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig i ranbarth Helsinki – mae dinas Helsinki eisoes yn cael ei chydnabod fel un o'r dinasoedd gorau yn Ewrop o ran y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus
  • y diwylliant ailgylchu sydd wedi ennill ei blwyf yng nghymdeithas y Ffindir