Ewch i’r prif gynnwys

Tirluniau dŵr croyw

Mae ecosystemau dŵr croyw (afonydd, llynnoedd, pyllau, dyfroedd daear a thiroedd gwlyb) a'u dalgylchoedd yn darparu gwasanaethau o bwys.

Er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig, mae, 389,000 km o afonydd yn cludo dŵr, mater, ynni ac organebau rhwng yr awyr, y tir a'r môr. Gan fod gwerth dŵr y Deyrnas Unedig yn £200 biliwn y flwyddyn (Water UK), gellir dadlau mai dyma'n hasedau naturiol, pwysicaf.

O'u rheoli'n iawn, dylai tirluniau dŵr croyw roi dŵr i'w ddefnyddio gan bobl neu anifeiliaid, bwyd, hamdden ac ynni; rheoleiddio llifogydd, llif gwaddodion, cylchoedd biogeogemegau, ansawdd dŵr a gwaredu gwastraff; cynnal yr ecosystemau cyfagos drwy gyflenwi dŵr, ynni a maetholion; a darparu gwerth diwylliannol drwy gyfrwng hamdden, twristiaeth ac addysg. Er hynny, ac er gwaethaf y manteision y maen nhw'n eu cynnig, mae tirluniau dŵr croyw wedi'u darnio ac wedi'u datgysylltu, o dan effaith drwm peirianneg, gan gynnwys argloddiau atal llifogydd ac addasiadau ar sianeli, ac wedi'u diraddio drwy gael eu llygru a'u draenio.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae grŵp o ymchwilwyr blaenllaw sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad, wrthi'n cydweithio. Eu nod yw i ymchwilio i sut y gall tirluniau dŵr croyw gael eu rheoli i roi gwasanaethau yr ydyn ni'n dibynnu arnyn nhw, gan gadw'n hadnoddau naturiol yr un pryd. Mae'r ymchwilwyr hyn yn gofyn cwestiynau allweddol am gynaliadwyedd adnoddau a thirluniau dŵr croyw. Maent yn edrych ar raddfeydd gofodol sy'n amrywio o ddalgylchoedd arbrofol bach i ranbarthau cyfan. Yn oygstal maent yn ystyried graddfeydd amserol sy'n amrywio o lai na blwyddyn, i fwy na thri degawd, Mae'r prosiectau sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd yn cynnwys y canlynol:

  • Dangosodd ymchwil ar gyfer yr adroddiad ar yr Asesiad Cenedlaethol o Ecosystemau 2011 gan Steve Ormerod (Awdur Cydlynol y Bennod ar Ddŵr Croyw), Isabelle Durance (prif awdur y Bennod Synthesis ar Ddŵr Croyw a Chymru) ac Ian Vaughan, er enghraifft, fod afonydd yn dal o dan bwysau. A hyn er bod mapiau o dueddiadau yn ansawdd afonydd yn dangos gwelliant graddol ers y 1980au (gweler Ffigur 1).Mae gan afonydd mewn ardaloedd trefol neu ardaloedd amaethyddol dwys ansawdd iechydol gryn dipyn yn is a lefel uwch o faetholion (e.e. nitradau yn fwy na 5 miligram i bob litr) nag mewn mannau eraill, mae rhai ardaloedd tir uchel yn dal i gael eu heffeithio gan lygryddion amaethyddol gwasgaredig, mae problemau i'w cael o hyd ynglŷn â llygredd nitradau a ffosfforws ac mae'r adferiad biolegol yn arafach na'r adferiad cemegol. Gan fod defnyddio tir a newid yn yr hinsawdd yn debyg o roi rhagor o bwysau ar y tirluniau hyn, bydd rheolaeth gynaliadwy ar ddyfroedd croyw yn dibynnu ar fwy na dim ond gwella'r rhestr a'r gwaith asesu. Caiff y gwaith hwn ei ddatblygu yn ystod ail gyfnod yr NEA.
  • Ymchwil i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar y pwnc: "Landscape Connectivity of Freshwater Ecosystems: Strategic Review and Recommendations yn 2011 gan Ormerod, S. J., Durance, I., Hatton-Ellis T.W., Cable J., Chadwick E.A., Griffiths S., Jones T. H, Larsen S., Merrix F.L., Symondson W.O.C., Thomas R.J a Vaughan I.P." Nid oes digon o sylw wedi'i roi i ddyfroedd croyw yn y drafodaeth ar gysylltedd yn ddiweddar. Felly'n yr adroddiad hwn fe aethon ati i gynnig diffiniad mwy holistig o gysylltedd dyfroedd croyw, sef: "Trosglwyddo mater, ynni a/neu organebau yn ffafriol drwy gyfrwng dŵr o fewn neu rhwng unedau yn y gylchred hydrolegol, ynghyd â chysylltiadau gweithredol ar raddfa tirluniau ymhlith cynefinoedd, rhywogaethau a chymunedau dyfroedd croyw". Er bod rôl cysylltedd yn symudiadau organebau dŵr croyw yn ymestynnol, dangosodd ein hadroddiad ni mor bwysig yw cysylltedd ar gyfer prosesau mewnol dyfroedd croyw megis llif ynni drwy weoedd bwyd, y cydadwaith rhwng parasitiaid a'u horganebau lletyol, y ddolen feicrobaidd, energeteg ecosystemau dŵr croyw, deinameg gwaddodion, llif llygrynnau, a maetholion. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen:
    • i ddatblygu dulliau a thechnegau addas ar gyfer organebau a llifoedd a swyddogaethau allweddol eraill
    • i ymchwilio i sut y gall dulliau ecolegol tirlun ddatgelu problemau cysylltedd sydd wedi'u seilio ar ddosbarthiad genynnau, rhywogaethau a chynefinoedd o ansawdd amrywiol
    • i ddeall yn well sut mae organebau dŵr croyw sydd o flaenoriaeth yn symud o gwmpas, yn ogystal â ffactorau sy'n effeithio ar athreiddedd, coloneiddio ac anweledigrwydd.
  • Mae gwaith ôl-ddoethurol yn cael ei wneud hefyd yn y grŵp gweithgar iawn hwn ar amryw o bynciau sy'n ymwneud â thirluniau dŵr croyw. Mae'r mwyafrif o'r prosiectau doethurol hyn yn amlddisgyblaeth eu natur ac yn deillio o gydweithio rhwng ysgolion gwahanol yn y Sefydliad, sef Ysgolion y Biowyddorau, Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a Seicoleg.

Ymchwilwyr

  • Stephen Thomas – Addasu afonydd at newid yn yr hinsawdd i gefnogi pysgod a physgodfeydd uchel eu gwerth (efrydiaeth KESS y Deyrnas Unedig).
  • Matthew Dray – Canlyniadau cynyddu CO2 yn yr atmosffer ar ansawdd gwasarn a phrosesau dŵr croyw (Prifysgol Caerdydd, efrydiaethau'r Llywydd).
  • Kate Walker – Argraff y cyhoedd o gynlluniau rheoli cynefinoedd yn achos cregyn gleision perlog dŵr croyw mewn ymateb i newid amgylcheddol (ESRC/NERC).
  • Rebecca Marsh – Newid hinsawdd a rheolaethau deinamig gwaddodion ar organebau mewn nentydd (Prifysgol Caerdydd, efrydiaethau'r Llywydd).
  • Paul Sinadurai – Ffactorau sy'n effeithio ar ecoleg Carabidae a Coleoptera mewn amgylchedd afonol wedi'i addasu (Awdurdod Bannau Brycheiniog).