Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad o Waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe, 2013

Nod yr adolygiad yw llunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru ar waith y mentrau, gwaith y Cynlluniau Gweithredu Iaith a gwaith Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe. Disgwylir i’r argymhellion effeithio ar bolisïau Llywodraeth Cymru ym maes cynllunio ieithyddol cymunedol yn y tymor canol. Darllenwch yr adroddiad.

Manylion

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog yn 2003, cafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg  arian ychwanegol i feithrin gallu i gefnogi prosiectau ar lawr gwlad. I’r perwyl hwn, datblygodd y Bwrdd ymhellach ei bartneriaethau ag amrywiol gyrff ledled Cymru, gan gynnwys y mentrau iaith, Urdd Gobaith Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr, Mudiad Meithrin a chyrff eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.