Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil rhyngddisgyblaethol

Mae taclo'r heriau ymchwil presennol yn dod â thimoedd rhyngddisgyblaethol at ei gilydd i ddatrys problemau.

Rydym yn annog ac yn cefnogi gweithio rhyngddisgyblaethol ar draws y Brifysgol. Mae'n cynhyrchu ymchwil cyffrous ac arloesgar sy'n denu staff o safon sy'n mwynhau gweithio ar draws wahanol ddisgyblaethau.

Mae creu cyfleoedd i'n hymchwilwyr i ddod â'u gwybodaeth ynghyd yn rhan o'n hymrwymiad i symbylu cydweithrediad.

Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil

Mae ein Sefydliadau Ymchwil yn cynnig ffordd newydd o ddatrys problemau o bwysigrwydd byd-eang. Maent yn adeiladu ar gryfderau presennol ac yn dod â thalentau academaidd at ei gilydd o amrywiaeth o ddisgyblaethau.

Ceir nifer o ganolfannau amlddisgyblaethol yn gweithio ar draws y Brifysgol ar amrywiaeth eang o bynciau. Maent yn cynnwys Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC) a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).

Dyfarniadau rhyngddisgyblaethol Ôl-raddedig

Ceir cynllun dyfarnu a drefnwyd gan ymchwilwyr ôl-raddedig i annog ymchwilwyr doethuriaeth o wahanol ddisgyblaethau i ddod at ei gilydd i drafod diddordebau ymchwil cyffredin. Mae hefyd yn helpu datblygu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr drwy roi'r cyfle iddynt gydweithio.

Defnyddiwyd y dyfarniadau i helpu i ariannu'r gynhadledd 'Removing the Divide'. Yn y digwyddiad hwn daeth pedair rhwydwaith amlddisgyblaethol o fyfyrwyr ôl-raddedig at ei gilydd i drafod eu gwaith ymchwil am y gwahanol agweddau diwylliannol o fewn y Gymanwlad.

Rydym yn datblygu datrysiadau go iawn yn llwyddiannus drwy fynd y tu hwnt i rwystrau traddodiadol a rhannu drwy greu rhwydweithiau, cyfnewid gwybodaeth a chydweithio mewn timoedd rhyngddisgyblaethol. Fe wnaeth yr arian hwn ein galluogi i wneud hyn.

Dacia Leslie Myfyriwr PhD, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyd-drefnydd Cynhadledd Deall Diwylliannau