Ewch i’r prif gynnwys

Arweinyddiaeth a rheoli

Mae ein rhaglen sydd wedi ennill gwobrau yn rhoi'r sgiliau i academyddion i arwain timoedd ymchwil arloesol.

Mae'r Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheoli yn chael ei chynnal dros gyfnod o 4-6 mis ac yn helpu cyfranogwyr i:

  • adeiladu ac arwain tîm ymchwil
  • ysbrydoli a chefnogi ymchwilwyr unigol
  • cynllunio eu hymchwil yn glir ac yn gyd-drefnedig
  • cynnal cyfarfodydd ymchwil sy'n fwy effeithiol
  • datblygu eu rolau fel arweinwyr a'u hunanymwybyddiaeth

Bydd y nodweddion hyn yn helpu i wella gallu ein hymchwilwyr fel arweinwyr ymchwil ac i ddatblygu eu potensial gyrfaol i'w helpu i gyflwyno eu hymchwil ar amser ac o fewn cyfyngiadau'r adnoddau sydd ar gael.

Times Higher Awards 2010

Mae'r rhaglen wedi ei chydnabod gyda dyfarniad uchel ei barch 'Times Higher Education' yn 2010, gyda'r panel o feirniaid yn disgrifio ein dull o weithredu yn "drylwyr ac yn gynhwysfawr". Dywedon nhw ein bod ni "yn fwy na thebyg y mwyaf ymroddedig yn y math hwn o weithgaredd datblygu yn y DU."

Fel ymchwilydd iau oedd ond yn dechrau arwain timoedd ymchwil bychan, roedd y rhaglen hon yn wych. Rhoddodd y cyfle a’r gofod i mi fyfyrio ar fy arferion gwaith fy hun

Dr Andy Williams Darlithydd, cyfranogwr y Rhaglen Datblygu Sgiliau Arwain a Rheoli

Mae rhaglenni fel Dyfodol Caerdydd a Crwsibl Cymru hefyd yn rhoi cyfleoedd unigryw ar gyfer datblygu gyrfa ymchwil a chefnogi cydweithio ar draws y disgyblaethau.