Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgelloedd ac adnoddau

Mae ein casgliad helaeth o lyfrgelloedd a’u gwasanaethau amrywiol yn galluogi ein hymchwilwyr i fod yn flaenllaw yn eu disgyblaethau ac i gael help i ddatblygu eu sgiliau.

Mae ein llyfrgelloedd modern wedi’u rhannu ar hyd y gwahanol gampysau ac mae gennym rai arbenigol mewn gwahanol feysydd, fel pensaernïaeth, iechyd, y gyfraith, cerddoriaeth a gwyddoniaeth.

Mae yna mwy na 1.3 miliwn o lyfrau ac adnoddau eraill yng nghasgliad y llyfrgell ac rydym yn cynnig ystod eang o adnoddau ar-lein sy’n prysur gynyddu. Mae’r casgliad yn cynnwys dros 30,000 o eGyfnodolion mewn testun llawn a 35,000 o eLyfrau, yn ogystal â mynegeion, cronfeydd data, casgliadau o ystadegau ac archifau testun llawn.

Rhai o'r llyfrau o gasgliad Llyfrgell Salisbury.
Rhai o'r llyfrau o gasgliad Llyfrgell Salisbury.

Gall ymchwilwyr elwa o gasgliad helaeth o gynnwys unigryw yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys 100,000 o lyfrau Cymraeg a Cheltaidd yn Llyfrgell Salisbury, dros 15,000 o lyfrau prin o Brydain a'r cyfandir, ac archifau ymchwil modern am hanes meddygaeth a gwyddoniaeth.

Mae gennym hefyd gasgliadau mawr o archifau hanesyddol a modern, gan gynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, llawysgrifau a ffotograffau sy’n ymwneud ag Edward Thomas, Morfydd Owen, W. G. Collingwood, a mwy.

Mae tîm o Lyfrgellwyr Pwnc penodol ar gael i gynnig hyfforddiant, help ac arweiniad i gynorthwyo ymchwilwyr. Gall ein Hymgynghorwyr Gwybodaeth roi cyngor arbenigol ar gyhoeddiadau mynediad agored, defnyddio a chael mynediad at Gasgliadau Arbennig ac Archifau, cynnal adolygiadau systematig, bibliometrigau a mesur effaith yn ogystal â delio â chyfeiriadau.

Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn cyfrannu at raglenni’r Academi Ddoethurol ac Ymchwilydd Caerdydd i helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a phroffesiynol. Dyma rai o’r sesiynau a gynigir: chwilio am wybodaeth, ymwybyddiaeth o’r deunyddiau diweddaraf, dod o hyd i ddata am ddyfyniadau, gwerthuso gwybodaeth a chyhoeddiadau mynediad agored.

Ein Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ynglŷn ag Ewrop, ei gwledydd a’i rhanbarthau, ei sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys gweithgareddau a pholisïau'r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Canolfan yn cael mynediad i gymysg o adnoddau argraffu ac ar-lein, ac arbenigedd pwnc. Mae’n cefnogi ymchwilwyr, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd i ddod o hyd at ac yn defnyddio gwybodaeth ar unrhyw fater ynglŷn ag Ewrop. Mae’r Canolfan hefyd yn gyfrifol am wasanaeth wybodaeth y llyfyrgell European Sources Online.

Woman using laptop with book in the library

Mynediad Agored

Mae cyhoeddiadau Mynediad Agored yn allbynnau ymchwil sydd ar gael yn agored, sy’n agored i ddarllen a defnyddio o amrywiaeth o wahanol ffynonellau ar-lein.