Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil anifeiliaid

White rat in a scientist's hands

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth agored a thryloyw am ein gwaith ymchwil sy'n defnyddio anifeiliaid, a safonau'r gofal a gaiff yr anifeiliaid, a'u lles.

Rydym wedi llofnodi'r Concordat ar Onestrwydd Ynghylch Ymchwil Anifeiliaid yn y DU.

Rydym yn defnyddio celloedd wedi'u tyfu mewn labordy, modelau cyfrifiadur a meinweoedd dynol ar gyfer peth o'n hymchwil biofeddygol. Fodd bynnag, ar gyfer rhai achosion, anifeiliaid sy'n darparu'r unig ffordd i ni ddatblygu ein gwybodaeth wyddonol a chynhyrchu triniaethau ar gyfer nifer o gyflyrau difrifol. Mae ymchwil sy'n defnyddio anifeiliaid wedi achub a gwella bywydau miliynau o bobl ac anifeiliaid.

Heb ymchwil sy'n cynnwys anifeiliaid ni fyddai gennym unrhyw anaestheteg fodern, triniaethau i osod cluniau newydd na modd o gynnal bywyd babanod a anwyd cyn pryd. Ni fyddai unrhyw drawsblaniadau arennau neu'r galon, dim dialysis yr arennau neu reolyddion calon, dim triniaeth ar gyfer diabetes, dim brechlynnau ar gyfer polio, difftheria neu falaria – neu ar gyfer nifer o glefydau anifeiliaid.

Rydym yn gallu defnyddio dulliau ymchwil amgen, ac rydym ar flaen y gad o ran datblygu nifer o'r dulliau hyn. Rydym hefyd wedi ymrwymo i egwyddorion amnewid, mireinio a lleihau. Fodd bynnag, mae astudiaeth anifeiliaid yn dal i fod yn hanfodol. Yn yr achosion hyn, mae ein hymchwilwyr sy'n gweithio ag anifeiliaid yn dilyn pob safon moeseg uchel a'r ddeddfwriaeth lem sy'n diogelu lles anifeiliaid yn y DU.

Rydym yn llawn cefnogi ac yn cymeradwyo canllawiau ARRIVE, wedi'u datblygu fel rhan o fentergarwch NC3Rs i wella dyluniad, dadansoddiad ac adrodd ar ymchwil anifeiliaid.

Deddfwriaeth

Mae ein holl ymchwill sy'n cynnwys anifeiliaid yn cael ei gynnal o dan gofyniadau llym y gyfraith. Rydym ym cydymffurfio'n llwyr â ac yn cefnogi bwriad y Ddeddf Anifeiliaid (Triniaethau Gwyddonol) 1986, sy'n cwmpasu Cyfarwyddeb yr UE 2010/63/EU.

Cyn y gall ein hymchwilwyr gynnal unrhyw driniaeth sy'n ymwneud ag anifeiliaid, mae gofyn am dair lefel o awdurdod:

  • Trwydded y Sefydliad sy'n rheoli mannau labordy yn y Brifysgol
  • Trwydded Prosiect yn awdudodi rhaglen waith wedi'i hunioni'n dda
  • Trwydded Bersonol, yn caniatáu i berson cymwys wedi ei hyfforddi i gynnal technegau diffiniedig ar rywogaethau ag enwau fel pigiadau, samplu gwaed neu fridio.

Mae arolygwyr o Uned Rheoleiddio Anifeiliaid mewn Gwyddoniaeth y Swyddfa Gartref yn ymweld â ni drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod y deddfau'n cael eu gorfodi.

Aelod uwch o'n tîm rheoli sy'n dal trwydded ein sefydliad, ac o dan y Ddeddf, mae'n rhaid iddynt benodi nifer o bobl a enwir, gan gynnwys Swyddogion Gofal Anifeiliaid a Lles Anifeiliaid (NACWOs) a'r Milfeddyg. Maent yn derbyn cyngor wrth ein Corff Lles Anifeiliaid ac Adolygiad Moeseg er mwyn gwneud penderfyniadau ar ran y Brifysgol, yn ystyried diddordebau anifeiliaid.