Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Gwybodaeth Academia Europea Caerdydd

Mae Canolfan Wybodaeth Caerdydd Academi Europaea wedi’i leoli yn ein Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd.

Mae Hyb Gwybodaeth Caerdydd Academia Europaea wedi’i leoli yn ein Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd.

Mae gan Hyb Gwybodaeth Caerdydd Academia Europaea rôl hollbwysig er mewn gwneud cyngor gwyddonol ar gael i lunwyr polisïau yn Ewrop. Mae hefyd yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd.

Mae’n rhan o rwydwaith Ewropeaidd o hybiau sy’n codi proffil ymchwil ryngwladol ragorol, ac yn ysgogi rhwydweithiau rhyngddisgyblaethol newydd.

Academia Europaea

Cymdeithas anllywodraethol sy'n gweithredu fel academi draws-Ewropeaidd yw Academia Europaea a chafodd ei sefydlu ym 1988.

Gwyddonwyr ac ysgolheigion arweiniol sy'n hyrwyddo ymchwil, dysgu ac addysg ar y cyd yw’r aelodau. Mae aelodau Academia Europaea, o’r enw MAEs, yn cael eu hethol ar sail rhagoriaeth academaidd. Bellach, mae gan Academia Europaea dros 5000 o aelodau ar draws y byd, gan gynnwys dros 70 o enillwyr Gwobr Nobel.

Mae aelodaeth yn agored i’r gwyddonwyr a’r ysgolheigion gorau yn y byd.

Aelodau yng Nghymru

Hybiau gwybodaeth rhanbarthol

Mae Academia Europaea’n gweithredu drwy rwydwaith o hybiau gwybodaeth rhanbarthol:

Hyb Caerdydd

Sefydlwyd Hyb Caerdydd yn 2016 ar ôl llofnodi cytundeb cydweithio rhwng Academia Europaea a Phrifysgol Caerdydd.

Nod yr Hyb yw cyfeirio diddordeb at ragoriaeth ymchwil ar draws Ewrop a bod o les i’r Brifysgol a’r rhanbarth ehangach drwy ysgogi cysylltiadau a rhwydweithiau newydd o arbenigedd.

Partneriaid

Mae’r Hyb wedi bod yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys:

  • Academi Ifanc Ewrop, Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW), Y Gymdeithas Frenhinol
  • Partneriaid strategol Prifysgol Caerdydd yn Ewrop, gan gynnwys KU Leuven
  • Canolfannau ymchwil ac ysgolheictod ym Mhrifysgolion Cymru
  • Sefydliadau GW4 (Prifysgolion Bryste, Caerfaddon, Caerdydd a Chaer-wysg)

Ein gwaith

Mae gennym raglen waith uchelgeisiol sy’n ceisio cryfhau cydweithio ac isadeiledd gwyddonol ar draws pob disgyblaeth ledled Ewrop. Mae cefnogi llunwyr polisïau’n rhan hanfodol o’n cenhadaeth.

Mae’r Hyb yn gweithio ar wyddoniaeth ar gyfer polisi drwy brosiect SAPEA (Cyngor Gwyddonol gan Academïau Ewropeaidd i Lunwyr Polisïau), sy’n rhan o Fecanwaith Cyngor Gwyddonol y Comisiwn Ewropeaidd. Mae Grŵp o Brif Gynghorwyr Gwyddonol y Comisiwn Ewropeaidd yn defnyddio adroddiadau SAPEA i wneud argymhellion ynghylch polisïau i’r Comisiwn. Mae’r broses dryloyw hon yn gwneud yn siŵr bod cynigion y Comisiwn ynghylch polisi a deddfwriaeth yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r Hyb yn bartner allweddol ym mhrosiect CALIPER, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd.

Cyflawniadau

Cydlynwyd adroddiad adolygiad tystiolaeth cyntaf SAPEA, Bwyd o’r Cefnforoedd gan Hyb Caerdydd. Ers hynny mae'r Hyb wedi arwain y gwaith o gydlynu dau adolygiad tystiolaeth arall ar Gwneud synnwyr o wyddoniaeth ar gyfer polisi o dan amodau cymhlethdod ac ansicrwydd a Bioddiraddadwyedd plastigion yn yr amgylchedd agored.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, mae Hyb Caerdydd yn rheoli adolygiadau systematig dros brosiect SAPEA. Yn 2019, cynhaliodd Caerdydd adolygiad systematig mawr ar gyfer y prosiect Tuag at system fwyd gynaliadwy i’r UE. Yn 2020/21, cynhyrchodd adolygiad mapio ar Fioddiraddadwyedd plastigau yn yr amgylchedd agored ac, yn 2021/22, tri adolygiad cyflym ar gyfer Gwella Sgrinio Canser yn yr Undeb Ewropeaidd.  Mae Caerdydd hefyd yn gwneud gwaith mapio sy’n ymwneud â phwnc o dirwedd polisïau Ewropeaidd, mewn cydweithrediad agos rhwng yr Hyb a’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd.

Mae Hyb Caerdydd wedi cynhyrchu cyfres o fideos ar gyfer prosiect CALIPER, sy’n cynnwys menywod rhyfeddol yn gweithredu’n fodelau rôl ar gyfer cydraddoldeb rhwng dynion a menywod ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Digwyddiadau

Rydym yn cynnig rhaglen gyffrous o weithgareddau, sy’n rhad ac am ddim fel arfer, ac yn agored i bawb. Mae digwyddiadau blaenorol wedi canolbwyntio ar bynciau cyfoes megis gwyddoniaeth ar gyfer polisi, arloesi mewn arferion ymchwil, gwyddoniaeth agored a meddygaeth drosiadol.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i wefan Hyb Gwybodaeth Caerdydd Academia Europaea

Cysylltu

Juliet Davies

Executive Officer