Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio mathemateg i achub bywydau

Mae ein modelau mathemategol newydd yn lleihau amseroedd aros mewn ysbytai er mwyn achub bywydau.

Doctors moving a patient

Ceisiodd ymchwilwyr adeiladu a datblygu modelau mathemategol newydd i fynd i'r afael â'r rhesymau cymhleth dros oedi ar wardiau ysbytai, lleihau amseroedd aros ac arbed bywydau yn y pen draw.

Helpodd ymchwil Caerdydd i wella gofal cleifion yn sylweddol. Mae cyfraddau marwolaeth wedi gostwng o ganlyniad i gyflwyno'r Ganolfan Trawma o Bwys a’r Uned Strôc Uwch-acíwt.

Jen Goddard Dadansoddwr Busnes yn Ysbyty St. George

Rhoi mathemateg wrth wraidd meddygaeth

Aeth y tîm o'r Ysgol Mathemateg, o dan arweiniad yr Athrawon Jeff Griffiths a Paul Harper, ati i gyflwyno gwelliannau sy'n achub bywydau mewn systemau gofal iechyd. Creodd y tîm fodelau mathemategol newydd a'u defnyddio mewn systemau iechyd yng Nghymru a Lloegr, gan wella amrywiaeth eang o wasanaethau drwy astudio ciwiau a llif cleifion. Adeiladwyd model enghreifftiol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i astudio llif cleifion drwy'r Uned Damweiniau ac Achosion Brys. Yn ne Llundain, cafodd gwaith y tîm effaith amlwg ar leihau nifer y marwolaethau ymhlith cleifion oedd wedi cael strôc. Llwyddodd yr ymchwil i greu arbedion effeithlonrwydd net hefyd yn ogystal â gwell defnydd o adnoddau mewn dau ysbyty yn ne Cymru.

Effaith sy’n achub bywydau

Helpodd yr ymchwil i arbed bywydau a lleihau costau. Roedd y modelau o gymorth wrth gynllunio adnoddau, cwtogi ar amseroedd aros a gwella effeithlonrwydd mewn Canolfan Trawma o Bwys newydd a'r Uned Strôc Uwch-Acíwt yn Ysbyty St George yn ne Llundain.

Helpodd y modelu yn yr uned uwch-acíwt i leihau 60% ar farwolaethau ymhlith cleifion strôc. Cafodd yr uned newydd a'r gwasanaeth gofal strôc eu henwi fel y gorau yn y wlad yn Archwiliad Cenedlaethol Sentinel 2010 gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr.

Gwnaethpwyd arbedion effeithlonrwydd net o £1.6m y flwyddyn yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae gofal i gleifion ac adnoddau ysbyty hefyd wedi gwella'n sylweddol yn Ysbyty Rookwood – canolfan adsefydlu niwrolegol o bwys yn ne Cymru.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Jeff Griffiths

Yr Athro Jeff Griffiths

Honorary Distinguished Research Professor

Email
griffiths@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4202
Yr Athro Paul Harper

Yr Athro Paul Harper

Deputy Head of School, Professor of Operational Research

Email
harper@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6841

Gall eich rhodd ein helpu ni i wneud datblygiadau arloesol a mynd i’r afael â heriau byd-eang pwysig; o ddarganfyddiadau fydd yn helpu i frwydro canser i dechnolegau fydd yn lliniaru newid hinsawdd.