Ewch i’r prif gynnwys

Diwygio bwyd ysgol

Helpu i greu gwasanaeth bwyd ysgol iachach a mwy cynaliadwy.

School dinners

 Ein nod oedd ystyried beth oedd o'i le ar ffyrdd o ddarparu bwyd ysgol yn y DU.

Mae dadansoddiad Prifysgol Caerdydd o arferion da rhyngwladol wedi ein helpu i lunio gwell gwasanaethau bwyd ysgol, ac mae hyn wedi effeithio’n uniongyrchol ar ein rhaglen trawsnewid bwyd ysgol ein hunain drwy raglen Food for Life.

Helen Browning Prif Weithredwr y Soil Association

System fwyd addas

Mewn ymchwil astudiaeth o dan arweiniad yr Athro Kevin Morgan a Dr Roberta Sonnino, cynigiwyd system fwy cynaliadwy ar sail profiad yn Ewrop a Gogledd America.

Dangosodd yr astudiaeth sut gallai cadwyn fwyd yr ysgol gael ei diwygio drwy greu system gaffael well sy'n cysylltu cynhyrchu a defnyddio bwyd yn lleol.

Gwella deiet plant y DU

Mae'r gwaith ymchwil wedi arwain at drawsnewid prydau ysgol mewn dros 4,300 o ysgolion.

Awydd i newid

Mae'r gwaith ymchwil hwn wedi arwain at ddiwygio polisi cyhoeddus ar lefelau cenedlaethol a lleol ar draws y DU. Enillodd Wobr Dathlu Effaith mewn Polisi Cyhoeddus y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ac mae bellach yn gyfeirnod i ddiwygwyr ledled y byd.

Helpodd i lywio Partneriaeth 'Food for Life' Lloegr sydd wedi trawsnewid prydau mewn miloedd o ysgolion. Rhaglen pum mlynedd a sefydlwyd gan y Soil Association yn 2007 yw 'Food for Life'. Dyma'r rhaglen bwyd ysgol fwyaf trawsnewidiol yn Ewrop. Mae wedi'i hariannu gan grant o £16.9 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr ac mae'n cynnwys pedair elusen. Mae'n cael ei rhoi ar waith mewn dros 4,300 o ysgolion yn Lloegr, ac yn effeithio ar dros 500,000 o blant.

Mae'r canlyniadau cychwynnol yn dangos bod y fenter wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, gyda mwy o blant ysgol gynradd yn benodol yn bwyta pump ffrwyth neu lysieuyn y dydd. Yng Nghymru, ysgogodd yr ymchwil Lywodraeth Cymru i ddiwygio polisi bwyd ysgol, 'Blas am oes.'

Mae Rhaglen Bwyd y Byd y Cenhedloedd Unedig wedi gwneud defnydd helaeth o'r ymchwil i lywio ei rhaglen gaffael creadigol ei hun, 'Prynu ar gyfer Cynnydd.'


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Kevin Morgan

Yr Athro Kevin Morgan

Athro Llywodraethu a Datblygu

Email
morgankj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6090

Cysylltau cysylltiedig

Yn ogystal â chreu prosiectau a phartneriaethau gyda chymunedau, rydym hefyd yn croesawu’r cyhoedd i nifer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau.