Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau REF 2014

Roedd Prifysgol Caerdydd yn 5ed yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 yn seiliedig ar ansawdd ein hymchwil.

Fe wnaethom godi 17 safle ar y mesur ansawdd, gan olygu mai ni oedd y sefydliad a gododd gyflymaf ymhlith prifysgolion ymchwil blaenllaw Grŵp Russell.

Am y tro cyntaf yn 2014, fe geisiodd y cynghorau ariannu fesur effaith ein gwaith ymchwil, ac fe gyrhaeddodd y Brifysgol yr 2il safle yn y DU.

Fe aseswyd bod 87% o'n gwaith ymchwil o'r radd flaenaf neu'n rhagorol ar lefel ryngwladol.

Uchafbwyntiau

Roedd rhai o'n huchafbwyntiau o REF 2014 yn cynnwys:

  • Peirianneg Sifil ac Adeiladu - 1af yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 97% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 100% o ran ei effaith.
  • Seicoleg, Seiciatreg a Niwrwyddoniaeth - 2il yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 92% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Cafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 90% o ran ei effaith.
  • Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a’r Cyfryngau - 2il yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 89% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil sgôr o 100% o ran ei effaith.
  • Cymdeithaseg - 3ydd yn y DU. Fe aseswyd bod 80% o’r ymchwil a gyflwynwyd yn ‘rhagorol’ am ei heffaith o ran ei chyrhaeddiad a’i dylanwad.
  • Addysg - cydradd 5ed yn y DU. Fe aseswyd bod 100% o’r amgylchedd ymchwil yn helpu i gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf o ran ei bywiogrwydd a’i chynaliadwyedd.
  • Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth - cydradd 4ydd yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 94% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 90% o ran ei effaith.
  • Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth - 1af yn y Deyrnas Unedig o ran effaith. Fe aseswyd bod 84% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 100% o ran ei effaith.

Uned asesu

% 4 seren 

% 3 seren 

% 2 seren 

% 1 seren 

% Diddosbarth 

UA 1 Meddygaeth Glinigol

38.0

51.0

10.0

0.0

1.0

UA 2 Iechyd Cyhoeddus, Gwasanaethau Iechyd a Gofal Sylfaenol

37.0

39.0

22.0

2.0

0.0

UA 3 Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth

48.0

46.0

6.0

0.0

0.0

UA 4 Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddorau

60.0

32.0

8.0

0.0

0.0

UA 5 Gwyddorau Biolegol

42.0

42.0

14.0

1.0

1.0

UA 7 Systemau’r Ddaear a’r Gwyddorau Amgylcheddol

24.0

60.0

15.0

1.0

0.0

UA 8 Cemeg

32.0

65.0

3.0

0.0

0.0

UA 9 Ffiseg

31.0

68.0

1.0

0.0

0.0

UA 10 Gwyddorau Mathemategol

18.0

72.0

10.0

0.0

0.0

UA 11 Cyfrifiadureg a Gwybodeg

26.0

53.0

20.0

1.0

0.0

UA 14 Peirianneg Sifil ac Adeiladu

47.0

50.0

3.0

0.0

0.0

UA 15 Peirianneg Gyffredinol

36.0

61.0

2.0

0.0

1.0

UA 16A Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio - Daearyddiaeth a Chynllunio

34.0

51.0

14.0

1.0

0.0

UA 16B Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio - Pensaernïaeth

45.0

30.0

16.0

9.0

0.0

UA17 Daearyddiaeth, Astudiaethau Amgylcheddol ac Archaeoleg

28.0

44.0

25.0

3.0

0.0

UA 19 Astudiaethau Busnes a Rheolaeth

43.0

43.0

13.0

1.0

0.0

UA 20 Y Gyfraith

36.0

48.0

16.0

0.0

0.0

UA 21 Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol

26.0

55.0

14.0

5.0

0.0

UA 23 Cymdeithaseg

37.0

49.0

13.0

1.0

0.0

UA 25 Addysg

48.0

36.0

14.0

2.0

0.0

UA 28 Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

37.0

47.0

16.0

0.0

0.0

UA 29 Saesneg Iaith a Llenyddiaeth

42.0

45.0

11.0

2.0

0.0

UA 30 Hanes

37.0

46.0

16.0

1.0

0.0

UA 32 Athroniaeth

20.0

49.0

27.0

4.0

0.0

UA 33 Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

33.0

43.0

21.0

3.0

0.0

UA 35 Cerddoriaeth, Drama, Dawns a Chelfyddydau Perfformio

43.0

42.0

15.0

0.0

0.0

UA 36 Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a'r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

61.0

28.0

10.0

1.0

0.0