English Troi'r llanw ar lygredd plastig

Troi'r llanw ar lygredd plastig

Prin fod wythnos yn mynd heibio heb bennawd arall am y don gynyddol o blastig yn ein cefnforoedd.

Fe welwn ddelweddau o grwbanod y môr yn bwyta bagiau plastig wrth iddyn nhw eu camgymryd am slefrod môr, morfilod yn cyrraedd y lan gyda stumogau'n llawn sbwriel plastig, a riffiau cwrel brau gyda darnau plastig wedi'u taenu drostynt.

Mae'r delweddau hyn wedi ychwanegu elfen o frys i broblem sydd wedi datblygu dros ddegawdau. Mae deunydd a grëwyd i bara wedi gwneud hynny, a bydd yn parhau i wneud hynny am gannoedd, os nad miloedd o flynyddoedd.  

Does dim golwg bod ein harchwaeth am blastig yn arafu. Ers i gynhyrchu ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au cynnar, rydyn ni wedi creu dros 8.3biliwn o dunelli o blastig. Cynhyrchwyd dros hanner ohono dros y 13 blynedd ddiwethaf.

Mae 8 miliwn o dunelli o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd pob blwyddyn.

Bellach mae gwyddonwyr yn dod o hyd i blastig ym mhob cornel o'r cefnfor, ac mewn amrywiaeth cynyddol o bethau byw,gan gynnwys y rhai sy'n cyrraedd ein bwrdd bwyd.

Mae adroddiad diweddar gan Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd baich plastig yn y cefnfor yn treblu dros y degawd nesaf, oni cheir ymyrraeth frys.

Erbyn 2050, gallai’r plastig yng nghefnforoedd y byd bwyso mwy na'r boblogaeth gyfan o bysgod.

Mae'r adroddiad yn amlinellu'n blaen yr angen i atal plastig rhag mynd i'r môr yn y lle cyntaf. I wneud hynny, rhaid i ni ddeall sut mae'n cyrraedd yno.

Morlo wedi'i hanafu gyda frisbee o amgylch ei gwddf yn Horsey Gap yn Norfolk, DU.

Dolffin Risso wedi'i glymu mewn llinell pysgota a bagiau plastig, Sri Lanka.

Brân yn tynnu bag plastig allan o bin sbwriel yn Rwsia.

Afonydd o blastig

Afon yn Y Pilipinas wedi'i gorchuddio gan blastig. Afon yn Y Pilipinas wedi'i gorchuddio gan blastig.

Mae'n bosibl fod rhan o'r ateb o leiaf i'w chanfod yn rhydwelïau’r blaned - ei hafonydd.

Mae ymchwil yn awgrymu bod hyd at un rhan o bump o'r plastig sy'n cyrraedd y môr yn dod o afonydd.

Mae dros 90% o'r llwyth hwnnw wedi'i briodoli i ddim mwy na deg o afonydd hynod lygredig, dwy yn Affrica ac wyth yn Asia. Ond canfu dadansoddiad diweddar o system afon Irwell yng ngogledd orllewin Lloegr y crynodiadau uchaf o blastig a gofnodwyd mewn unrhyw afon yn y byd.

Mae hyn yn bryder nid yn unig i fywyd gwyllt y môr, ond i ecosystemau'r afonydd eu hunain. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd eisoes wedi dod o hyd i blastig yn y gadwyn fwyd dŵr croyw - o intefetebratau bach i adar yr afon sy'n ei fwyta. Nid yw effaith y plastigau hyn wedi'i ddeall yn llawn eto, ond mae pryderon y gall fod yn cyfrannu at drychineb amgylcheddol.

"Mae cyfraddau difodiant mewn organebau dŵr croyw ddwywaith yn gyflymach nag yn yr amgylchedd morol ac ar y tir," dywedodd yr ecolegydd dŵr croyw yr Athro Steve Ormerod.

"Ond mae hon yn drasiedi sydd wedi'i guddio o dan yr wyneb dŵr. Ac mewn gwirionedd, mae rôl blastig yn cael ei guddio'n ddwbl oherwydd gall y gronynnau sy'n gwneud y difrod mwyaf fod y darnau lleiaf. Y plastigau yma yw'r rhai mwyaf cyffredin, a'r mwyaf galluog i fynd i wefannau bwyd."

Mae'n bryder i'r cwmnïau dŵr hefyd. Yn ogystal â'r posibilrwydd fod plastig yn cyrraedd y cyflenwad dŵr domestig, ceir pryder hefyd y gall plastig ddychwelyd i dir fferm mewn slwtsh carthion a ddefnyddir fel cyflyrydd pridd.

Er gwaethaf y pryder cynyddol am y plastig hwn, rydyn ni'n dal i fod ar gam cymharol gynnar o ran deall o ble mae'n dod.

Mae'r achosion arferol - poteli, bagiau, cwpanau coffi - heb os yn rhan o'r broblem. Dan belydrau uwchfioled yr haul, mae'r bondiau cemegol sy'n dal y plastigau mwy o faint at ei gilydd yn dadfeilio yn y pen draw, gan gynhyrchu llawer o ddarnau mân a elwir yn ficroblastigau.

Canfu  astudiaeth a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018 ddarnau plastig mewn 93% o'r dŵr potel abrofwyd.

Ond dim ond rhan o'r stori yw gwastraff domestig. Canfu astudiaeth yn 2016 ym masn y Thames yn ne Lloegr fod plastig a olchwyd i'r afon o hen baent ar arwyneb ffyrdd yn gwneud cyfraniad sylweddol i lawr yr afon o ardaloedd trefol.

"Os ydych chi'n gyrru ar hyd y ffordd, yn edrych am le i barcio, ac yn meddwl bod y paent melyn yn edrych braidd yn denau, wel dyna arwydd mae'r deunydd yna wedi mynd i rywle - mwy na tebyg i lawr y draen," dywedodd Ormerod.

Mae ffibrau dillad synthetig, teiars sy'n treulio a nwyddau cosmetig hefyd wedi chware rhan. Ond dyw hi ddim yn glir eto i ba raddau mae pob un o'r gwahanol ffynonellau hyn yn gyfrifol am y broblem.

Mae Ormerod yn meddwl bod y bwlch hwn yn ein dealltwriaeth yn llesteirio ymdrechion i ymdrin â'r broblem.

"Mae gennym fan ddall fawr," meddai. "Mae angen inni fuddsoddi i ddeall y ffynonellau a'r llwythi amgylcheddol o wahanol ddeunyddiau. Beth sy'n digwydd i'r deunyddiau hyn? Faint sy'n cael ei amlyncu gan organebau? Pa mor bell mae'n treiddio i'r gweoedd bwyd? Pa effeithiau sydd ganddo ar hyd y ffordd? A yw'n cyrraedd ni yn y bwyd rydym yn ei fwyta neu'r dŵr rydym yn ei yfed?

"Tua dwy flynedd yn ôl, aeth ein grŵp ymchwil ni i weithdy gyda'r Asiantaeth Amgylcheddol er mwyn gallu asesu ble'r oedd y wyddoniaeth o ran yr amgylchedd dŵr croyw a dalgylch afonydd. Wnaethom ni sgorio ein dealltwriaeth un neu dau allan o ddeg, felly mae ffordd bell i fynd."

Newid arferion

"" ""

Hyd yma mae ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd plastig wedi canolbwyntio ar wastraff plastig defnydd untro mwy o faint.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn ceisio newid arferion manwerthu a defnydd.

Yn 2003, Iwerddon a Denmark oedd y ddwy genedl gyntaf i gyflwyno ardoll ar fagiau plastig. Erbyn 2016, roedd pedair cenedl y DU wedi cyflwyno tâl o 5c am fagiau plastig.

Mae canlyniadau'r polisi ymyrryd hwn ar raddfa fawr wedi bod yn ddramatig. Chwe mis ar ôl cael ei gyflwyno yn Lloegr, roedd defnydd o fagiau plastig untro wedi disgyn 85%.

A chafwyd arwyddion bod hyn wedi arwain at effaith wirioneddol ar yr amgylchedd. Ers 2010, mae'r nifer o fagiau plastig a ganfuwyd ar wely'r môr yng ngogledd Ewrop wedi gostwng bron i draean.

Bu'r Athro Wouter Poortinga, seicolegydd amgylcheddol yn Ysgol Pensaernïaeth Caerdydd, yn ymwneud â'r gwaith o fesur effaith y tâl ar ymddygiad defnyddwyr. Cafodd ei synnu i weld pa mor gyflym a dramatig y newidiodd arferion pobl.

"Roedden ni'n meddwl y byddai'n gweithio, ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddai 5c yn ddigon i bobl newid eu hymddygiad i'r fath raddau," dywedodd.

"Dwi i ddim yn meddwl ei bod yn fater fod pobl yn anfodlon talu'r ffi.

"Os cofiwch chi fel oedd pethau mewn archfarchnadoedd cyn cyflwyno'r tâl, roedd yr holl fagiau plastig defnydd untro wedi'u gosod wrth y til neu'r peiriant. Byddech chi'n nôl eich bwyd, talu am y nwyddau, cydio mewn bag a cherdded oddi yno heb feddwl am y peth.

"Nawr, gyda'r ffi o 5c rhaid i chi feddwl a oes wir angen y bag arnoch chi. Mae'n newid yr arfer o gydio yn y bag."

Mae llwyddiant y tâl am fagiau plastig wedi arwain at arbrofion ar blastigau defnydd untro eraill.

Cysylltodd cwmni Bewley â Poortinga a'i dîm i'w helpu i leihau defnydd o gwpanau coffi tafladwy yn eu caffis mewn safleoedd prifysgol a busnes - mae gan gwpanau coffi yn nodweddiadol leinin plastig i gadw'r gwres, a'r coffi, yn y cwpan.

Treialwyd tri mesur mewn 12 caffi - negeseuon amgylcheddol, darparu dewisiadau cynaliadwy, a chymhellion ariannol.

Roedd y tri mesur yn effeithiol, yn enwedig o'u cyfuno, a doedd dim effaith negyddol i'w gweld ar werthiant. Ond roedd y cymhelliad ariannol ddim ond yn gweithio os oedd yn cael ei gyflwyno fel tâl, yn hytrach na gostyngiad.

"Mae pobl yn fwy sensitif i golledion nag enillion," esboniodd Poortinga. "Os ydych chi'n ennill 10c ychwanegol, fyddai'r rhan fwyaf o bobl ddim yn poeni. Ond os oes rhaid i chi dalu 10c ychwanegol, mae'n cael ei weld fel colled. Yn y bôn, mae'r ddau yr un peth, ond mae'n cael ei gyflwyno mewn ffordd wahanol."

Mae Poortinga yn rhybuddio yn erbyn rhagdybio y bydd yr un mesurau'n gweithio ar gyfer gwahanol gynhyrchion plastig - gallai costau ychwanegol fod yn llai effeithiol ar gyfer newidiadau ymddygiad sy'n gofyn mwy gan y defnyddiwr. Mae hefyd yn rhybuddio rhag disgwyl gormod gan y defnyddiwr yn rhy fuan.

"Gallwch ddod â'ch bag eich hun," dywedodd. "Mae gan bobl fag yng nghefn y car, neu yn eu bag gwaith. Mae'n beth hawdd iawn ei wneud. Ond mater gwahanol yw cael cwpan coffi amlddefnydd yn eich bag, yn ogystal â bag siopa a photel ddŵr amlddefnydd, er enghraifft. Gall hynny fod yn afrealistig."

"Nid y defnyddwyr yw'r unig rai sy'n gorfod newid eu hymddygiad. Mae'n rhaid i'r llywodraeth hefyd wneud y peth iawn o ran polisi a rheoleiddio. Ac mae'n rhaid i'r manwerthwyr wneud eu rhan. Os ydyn ni'n sôn am ddeunydd pacio plastig er enghraifft, neu ddeunydd pacio untro, cyfrifoldeb y man-werthwyr yw hynny."

Ymgyrch gwellt plastig

"" ""

Mae Nia Jones a Douglas Lewns hefyd yn awyddus i dynnu'r pwyslais oddi ar y defnyddiwr.

Mae'r myfyrwyr Daearyddiaeth Amgylcheddol ail flwyddyn yn lobïo caffis a thai bwyta yng Nghaerdydd i roi'r gorau i weini diodydd gyda gwell plastig defnydd untro.

Hyd yma mae eu hymgyrch #NoStrawStand wedi gweld dros 40 o fusnesau yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwellt plastig, ac yn ddiweddar roeddent yn rhan o'r ymgyrch i berswadio'r gadwyn fwyd genedlaethol Wahaca i'w tynnu o'u 25 safle yn y DU.

"Ein nod oedd symud y cyfrifoldeb fel bod y busnes yn gwneud y penderfyniad i fod yn gynaliadwy, yn hytrach na'r unigolyn," dywedodd Lewns.

"Mae cymaint o bwyslais ar wneud i unigolion deimlo'n gyfrifol am eu hailgylchu a'u gwastraff eu hunain," dywedodd Jones. "Maen nhw'n cael y neges 'dydych chi ddim yn ailgylchu'n gywir, ac rydych chi'n prynu gormod o blastig, ac rydych chi'n gwneud hyn, ond nid y llall.' Gall deimlo'n llethol.

"Os ewch chi i archfarchnad a cheisio bod yn ddi-blastig - mae'n teimlo'n amhosibl. Felly mae tynnu'r dewis hwnnw i ffwrdd yn ei gwneud yn llawer haws i'r defnyddiwr fod yn gynaliadwy."

Mae eu hymgyrch yn dibynnu ar bwysau gan ddefnyddwyr ar-lein, yn hytrach nag wrth y til. Mae hyn yn eu helpu i osgoi’r lletchwithdod o orfod siarad â'r busnesau yn uniongyrchol.

"Os oes rhywun yn rhoi gwelltyn i chi mewn tŷ bwyta, rydych chi'n tueddu i feddwl, o wnaf i ei ddefnyddio, dwi i ddim eisiau achosi trafferth," dywedodd Lewns.

"Mae'n anodd mynd at reolwr tŷ bwyta pan fydd y lle’n brysur," dywedodd Jones. "Dyna lle mae Twitter a'r math yna o beth yn helpu, achos gallwch chi ofyn i fusnes newid heb orfod eistedd mewn tŷ bwyta.

"Y peth da am hynny yw bod pobl eraill yn ei weld, mae trafodaeth yn dechrau ac maen nhw'n dechrau rhoi pwysau ar fusnesau ar eich rhan chi. Yna mae busnesau eraill yn ei weld ac mae'n cael effaith ehangach."

Canlyniadau anfwriadol

Gwylan gyda bag yn ei geg. Gwylan gyda bag yn ei geg.

Mae ymgyrchoedd tebyg i waredu caffis a thai bwyta o wellt wedi ymddangos ar draws y DU. Yn ddiweddar wynebodd yr ymgyrchoedd feirniadaeth gan ymgyrchwyr hawliau'r anabl, a rybuddiodd am ganlyniadau anfwriadol i bobl sy'n dibynnu ar wellt plastig i yfed yn annibynnol.

Mae'n sgwrs y mae Jones a Lewns yn awyddus i'w chael, ac maen nhw'n annog busnesau i gadw dewisiadau amgen, gan gynnwys gwellt bambŵ, metel neu bapur y gellir eu hailddefnyddio a'u compostio, i'r bobl sydd eu hangen.

Ond dyw'r perygl o ganlyniadau annisgwyl ddim wedi'i gyfyngu i ymgyrchoedd y gwellt. Mae perygl o ddadwneud peth o'r gwaith mae plastig wedi'i wneud i leddfu problemau amgylcheddol eraill.

"Gadewch i ni dybio, yn lle dillad synthetig, ein bod yn dychwelyd at gotwm a gwlân wedi'u lliwio,' dywedodd Ormerod. 'Wel gall rhai o'r llifynnau rydyn ni'n eu defnyddio'n fod yn wenwynig ac mae angen defnyddio llawer iawn o ddŵr i gynhyrchu cotwm. Yn yr un modd, dychmygwch y costau carbon o gludo hylifau mewn gwydr yn lle plastig. 

"Felly hoffwn i wybod mwy am beth fyddai'r dewisiadau amgen - ynghylch effeithiau amgylcheddol y camau y gallem eu cymryd."

Gall dyfodol heb unrhyw blastig fod yr un mor annymunol ag y mae'n afrealistig. Mae plastigau'n rhan hanfodol o ffabrig ein bywydau yn y 21ain ganrif. Maen nhw wedi chwarae rhan fawr mewn datblygiadau meddygol a datblygu technoleg bob dydd sydd wedi newid y ffordd rydyn ni'n byw.

"Dwi i ddim yn meddwl bod byd heb blastig yn bosibl," dywedodd Poortinga. "Yr hyn y dylen ni fod yn gweithio ato yw defnydd cynaliadwy o blastigau."

Mae'n nôl blwch cinio tupperware o'i fag. ''Mae hwn yn blastig. Mae hyn yn ffordd dda o ddefnyddio plastig oherwydd gallwch ei ddefnyddio dro ar ôl tro ar ôl tro. Ac os ydych chi'n ei daflu, yn dechnegol gallwch chi ei ailgylchu. Mae hynny'n ddyfodol mwy realistig na dyfodol heb unrhyw blastig."

Rhan fawr o apêl plastig yw ei fod yn gwrthsefyll y bacteria sy'n dinistrio deunyddiau eraill fel pren, gwair a gwastraff bwyd. Dyma yw sail ei wytnwch.

Y nodwedd hon sy'n ei ddiffinio yw ei anfantais fwyaf. Ond bydd rhai plastigau'n dadelfennu dros gyfnodau byrrach.

Mae llawer o'r plastigau mwyaf cyffredin yn deillio o olew crai. Mewn ymateb yn rhannol i bryderon amgylcheddol, ac yn rhannol i anwadalrwydd prisiau olew byd-eang, mae rhai cynhyrchion yn newid i blastigau sy'n deillio o blanhigion.

Asid polylactig (PLA) a wneir o startsh ŷd yw un o'r dewisiadau mwyaf cyffredin sydd ar gael. Mae wedi'i ddefnyddio i wneud pob math o blastigau defnydd untro, gan gynnwys bagiau, boteli a gwellt.

Dan rai amodau, gall PLA ddadelfennu'n ddŵr a charbon deuocsid mewn mater o wythnosau neu fisoedd, ond mae'r amodau hyn yn fwy cyffredin mewn cyfleusterau compostio masnachol nag yn yr amgylchedd.

O'i gladdu mewn safle tirlenwi neu yng ngwaelod y cefnfor, er enghraifft, gall bag plastig bioddiraddadwy bara'r un mor hir â bag cyfatebol yn deillio o betroliwm.

Nawr yw'r cyfle

"" ""

Mae'n annhebygol y ceir datrysiad syml i broblem mor gymhleth â llygredd plastig. Ond i'r rheini sy'n awyddus i geisio ei datrys, mae'r hinsawdd wleidyddol a diwylliannol yn ymddangos yn ffafriol.

Mae cyfres Blue Planet II BBC, wedi ennyn ymdeimlad newydd o frys ynghylch y mater. Mae hwn yn ogystal â llwyddiant a phoblogrwydd y tâl am fagiau plastig wedi calonogi gwleidyddion i ystyried mesurau tebyg ar gyfer plastigau cyffredin eraill.

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar gynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli plastig, ac mae fersiynau o'r cynllun wedi gwella cyfraddau ailgylchu yn Norwy a'r Almaen yn ddramatig.

Caiff 20,000 o boteli diod plastig eu gwerthu bob eiliad ar draws y byd - miliwn y funud.

Ym mis Ionawr, amlinellodd y Prif Weinidog Theresa May ymrwymiad i ddileu plastigau defnydd untro diangen o'r DU erbyn 2042.

Fel rhan o'r ymrwymiad hwn gofynnwyd i weision sifil edrych ar sut y gellid defnyddio'r system dreth i gymell defnydd mwy cynaliadwy o blastigau, a bydd y llywodraeth yn annog archfarchnadoedd i gyflwyno eiliau di-blastig.

Cafodd y mesurau groeso eang gan grwpiau amgylcheddol, ond cafwyd beirniadaeth hefyd am y diffyg brys a manylion yn y cynlluniau.

"Mae'r gair diangen yn gamarweiniol," dywedodd Jones. "Mae rhywbeth sy'n anorfod i un person yn ddiangen i rywun arall. Ac mae 2042 yn bell i ffwrdd, mae'n rhy hir. Hyd yn oed os nad yw hyn yn digwydd ar unwaith, rhaid iddo fod yn gyflym iawn iawn, ac rwy'n credu bod gennym ni'r gallu yn ein gwlad i arwain ar hyn."

Mae agweddau manwerthwyr i'w gweld yn newid hefyd. Yn dilyn llwyddiant Blue Planet II, mae'r ymgyrchwyr yn erbyn gwellt plastig yn dweud bod busnesau'n cysylltu â nhw'n ddigymell bellach.

Mewn cyfweliadau cyn ac ar ôl cyflwyno'r tâl am fagiau plastig, gwelodd tîm Poortinga newid tebyg mewn agweddau ymhlith defnyddwyr.

"Dywedodd pobl wrthym ni eu bod wedi sylwi cymaint o blastig maen nhw'n ei ddefnyddio o ddydd i ddydd ers cyflwyno'r tâl," dywedodd. "Maen nhw'n son am boteli a chwpanau coffi plastig a phob math o bethau gwahanol. Rwy'n credu bod yr hinsawdd yn iawn i wneud rhywbeth am blastigau a deunydd pacio defnydd untro."

Mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr â buddsoddiad newydd mewn ymchwil ac arloesi. Yn ogystal â’r hyn sy’n achosi llygredd plastig, mae ymchwilwyr yn gwneud eu gorau i ddeall ei effeithiau ar iechyd y rhestr gynyddol o rywogaethau mae wedi’i ganfod ynddynt, gan ein cynnwys ni.  

Maen nhw hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd i fynd i'r afael â'r plastigau sydd eisoes yn bodoli. Mewn arbrofion diweddar ym Mhrifysgol Portsmouth, yn anfwriadol fe greodd ymchwilwyr ensym sy'n amlyncu plastig, gan gynnig gobaith am ddull newydd o ddadelfennu plastigau'n seiliedig ar betroliwm.

Yn y cyfamser, bob dydd mae plastig yn parhau i gael ei olchi i afonydd a moroedd y byd, gan ymledu yn y pen draw i bob cornel o'r cefnfor.

Bydd rhywfaint yn cael ei ddal yn systemau treulio bywyd gwyllt. Bydd rhywfaint yn gwneud ei ffordd drwy'r we fwyd - a hyd yn oed yn cyrraedd ein platiau ni o bosibl. Bydd rhywfaint yn aros yn y môr, am ganrifoedd neu filoedd o flynyddoedd, mewn chwyrliadau trwchus o gawl plastig.

Mae'r amser i droi'r llanw plastig yn ymddangos fel pe bai’n prysur ddiflannu.

Rhannwch

Twitter
Facebook
WhatsApp
E-bost
LinkedIn
Reddit

Darllenwch fwy

Darganfyddwch beth mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud i leihau plastigion untro ar y campws yn ein strategaeth gynaliadwyedd.