Ewch i’r prif gynnwys

Wrth i ddiwydiant alcohol y Deyrnas Unedig (DU) barhau i wneud elw iach, mae’r genedl yn dal i gyfrif cost gynyddol ein perthynas afiach â’r ddiod feddwol.

O roi gormod o bwysau ar adrannau achosion brys i nifer cyson o achosion o glefydau cysylltiedig ag alcohol, mae ffigurau diweddar yn datgelu bod niwed cysylltiedig ag alcohol yn costio rhyw £3.5 biliwn i’r GIG bob blwyddyn.

Maeniwed cysylltiedig ag alcohol yn costio rhyw £3.5 biliwn i’r GIG bob blwyddyn.

Mae’r amgylchedd a diogelwch canol ein trefi yn dioddef hefyd. Cerddwch i lawr unrhyw stryd fawr yn y Deyrnas Unedig ar nos Sadwrn a byddwch bron yn sicr o orfod osgoi sawl rhwystr, o yfwyr ymosodol i wydr wedi torri.

Amcangyfrifwyd bod 1.1 miliwn o ymweliadau ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol yn 2015/16, ac felly mae’r achos dros ymyrryd yn un cryf. Fodd bynnag, gan fod llawer ohonom ni’n mwynhau llymaid, a dim ond wedi profi arlliw o’r broblem, efallai na fyddwn yn tueddu i gefnogi agwedd lem pan ddaw’n fater o gyfyngu ar alcohol.

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n gweld ein hunain fel yfwyr cymedrol neu achlysurol, ac felly’n teimlo’n ddiogel yn gwybod na fydd ein hyfed yn niweidio ein hiechyd yn yr hirdymor. Ond mae tystiolaeth yn dangos y gallai yfed, hyd yn oed o fewn symiau’r canllawiau cenedlaethol, gael effaith sylweddol ar ein hymennydd.

Cyngor Prif Swyddogion Meddygol y DU yw i ddynion a merched beidio ag yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos, wedi’u gwasgaru’n hafal dros dri diwrnod neu ragor.

Man with head injury being treated by a paramedic
Mae niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn creu pwysau ychwanegol ar y GIG.

Ond mae gwaith ymchwil newydd yn dangos y gall yfed mwy na dim ond un uned y dydd gael effaith gwybyddol andwyol ar rai. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer pobl canol oed a hŷn.

Gan ddefnyddio data o Fanc Bio’r DU, edrychodd ymchwilwyr ar y berthynas rhwng yfed alcohol a pherfformiad o ran ymateb i dasgau amser gyda mwy na 13,000 o bobl dros gyfnod o bum mlynedd.

Yr Athro Simon Moore oedd un o awduron yr astudiaeth. “Prin yw’r amheuaeth fod alcohol yn niwrotocsig a bod yfed lefelau uchel yn gysylltiedig â dirywiad gwybyddol.” meddai. “Mae’n dod yn fwyfwy clir bod dirywiad gwybyddol yn debygol o ddod yn amlwg ar lefelau yfed alcohol llawer is na gredwyd yn flaenorol."

“Dylai argymhellion ar gyfer yfed alcohol yn ddiogel gymryd hyn i ystyriaeth, yn arbennig mewn perthynas â phobl canol oed a phobl hŷn sy’n llawer mwy agored i ddirywiad gwybyddol.”

A pint of beer sitting on a bar
Mae peint nodweddiadol o gwrw neu seidr yn cynnwys 2-3 uned o alcohol.

Mae llawer ohonom ni’n credu ein bod ni’n gwybod ein terfynau – ein bod ni’n gwybod pan ein bod wedi cael digon a phryd i roi’r gorau iddi. Ond gall hynny ddibynnu ar bwy sy’n cadw cwmni i ni.

Datgelodd ymchwil diweddar gan grŵp Moore bod ein canfyddiad o ba mor feddw ydyn ni yn ymwneud fwy a sut mae ein meddwdod ein hunain yn cymharu a’r rheiny o’n cwmpas, yn hytrach na’r hyn rydym ni wedi’i yfed mewn gwirionedd.

Yn yr astudiaeth, roedd pobl yn fwy tebygol o fychanu eu meddwdod eu hunain pan fyddent yng nghanol pobl eraill feddw, ond yn teimlo eu bod yn wynebu risg fwy pan fyddent yng nghanol pobl oedd yn fwy sobr.

"Yn hanesyddol mae ymchwilwyr wedi gweithio dan y rhagdybiaeth bod y rhai sy’n yfed fwyaf o alcohol yn ‘dychmygu’ yn anghywir bod pawb arall hefyd yn yfed yn ormodol.” meddai Moore."

“Ond rydym ni wedi gweld, faint bynnag mae rhywun wedi’i yfed, os byddan nhw’n gweld eraill sy’n fwy meddw, y byddan nhw’n teimlo eu bod yn wynebu llai o risg yn sgîl yfed mwy.”

"Mae gan hyn oblygiadau pwysig iawn o ran sut gallem ni weithio i atal pobl rhag yfed gormod o alcohol. Gallem naill ai weithio i leihau nifer y bobl feddw iawn mewn amgylchedd yfed, neu gallem ni gynyddu nifer y bobl sydd yn sobr. Mae ein damcaniaeth yn rhagweld mai’r olaf fyddai’n cael yr effaith fwyaf."

A bottle of wine being poured into a glass
Mae gwydraid safonol o win (175ml) ar 12% ABV yn cynnwys 2.1 uned.

Ai rhoi isafbris ar alcohol yw’r ateb?

O fis Mai 2018, mewn ymdrech i atal goryfed, daeth isafbris newydd fesul uned o alcohol i rym yn yr Alban. Golyga y mae’n rhaid i fusnesau godi o leiaf 50 ceiniog am bob uned o alcohol yn y diodydd maent yn eu gwerthu.

Bydd Cymru yn gweithredu’r un camau yn 2019, tra bo cynigion tebyg yn destun trafod yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cred Gweinidogion yng Nghymru y gall rhoi isafbris ar alcohol achub un bywyd yr wythnos, ac oddeutu 1,400 o ymweliadau â’r ysbyty bob blwyddyn.

Fodd bynnag, mae’r Athro Moore o’r farn bod cyfyngiadau i’r broses o’i weithredu ar draws y DU. "Mae dau brif rwystr pan ddaw’n fater o isafbris cenedlaethol,” meddai. "Yn gyntaf, mae’r diwydiant alcohol wedi ceisio atal mentrau, gan amlaf drwy heriau cyfreithiol.

"Mae’r ail rwystr yn ymwneud â math penodol o ddefnyddiwr alcohol – y rhai sy'n gwrthwynebu’n groch unrhyw ymyrraeth â’u peint haeddiannol."

“Yr hyn sy’n anarferol am yr ail grŵp hwn yw bod isafbris fesul uned yn annhebygol o effeithio ar bris eu diod arferol, gan na fydd y prisiau mewn tafarndai yn newid."

A phan esbonnir effaith sylfaenol isafbris – i bob pwrpas dileu’r seidr cryf sy’n hurt o rad neu wirodydd pris isel – mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod isafbris yn syniad da. Mae’n targedu’r math o frandiau nad yw’r rhai sydd â blasbwyntiau neu sydd heb ddibyniaeth ar alcohol yn debygol o fynd ar eu cyfyl.

Mae Dr Adrian Boyle yn feddyg brys ymgynghorol yn Ysbyty Addenbrookes yng Nghaergrawnt. Mae’n hen gyfarwydd â’r niwed y mae yfed gormodol yn ei achosi, drwy effeithiau uniongyrchol ar ein hiechyd a thrais a sbardunir drwy alcohol.

Er ei fod yn derbyn y gallai fod rhwystrau i weithredu’r polisi, mae’n credu y gallai symud at isafbris yn unol â’r Alban wneud gwahaniaeth sylweddol i nifer y bobl feddw sy'n pasio drwy ei adran damweiniau ac achosion brys.

Mae hefyd yn myfyrio tybed a fyddai modd efelychu llwyddiant yr Alban o drin trais fel problem iechyd y cyhoedd, yn hytrach na phroblem cyfiawnder troseddol, ar draws gweddill y DU.

Mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r elfennau cymdeithasol sy’n achosi trais. Ers sefydlu’r Uned Lleihau Trais yn Glasgow yn 2005, mae nifer y cleifion sydd wedi dioddef trawma i’r wyneb yn ysbytai’r ddinas wedi haneru.

“Mae’r Alban wedi gweld gostyngiadau gwirioneddol drawiadol mewn lefelau trais yn ystod y degawd diwethaf, fwy o lawer nag yng ngweddill y DU," dywedodd Boyle. “Felly efallai ei bod hi’n bryd i wledydd eraill y DU ystyried mabwysiadu dull yr Alban.”

Mae’r Athro Moore yn cyfaddef ei fod yn rhyfeddu’n barhaus bod, yng Nghymru a Lloegr o leiaf, alcohol a thrais yn parhau'n faterion cyfiawnder troseddol. "Ein gwasanaethau iechyd sy'n delio gyda chanlyniadau alcohol a thrais, felly mae angen gwneud llawer mwy i annog iechyd i chwarae rôl fwy gweithredol," meddai.

Toll alcohol

Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan yr Athro Moore a'i dîm y gallai diwygio’r dull o drethu alcohol fod yn ddewis ymarferol yn lle isafbris.

Canfu’r astudiaeth y gallai cynnydd o ddim ond 1% uwchlaw chwyddiant ar alcohol a werthir drwy siopau a sefydliadau yfed arwain at 6,000 yn llai o ymweliadau â’r adran damweiniau ac achosion brys o ganlyniad i drais bob blwyddyn.

"Mae ein canfyddiadau'n awgrymu y byddai diwygio'r system bresennol o drethu alcohol yn fwy effeithiol na phennu isafswm fesul uned o ran lleihau anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais a niwed arall cysylltiedig ag alcohol,” meddai Moore. "Fodd bynnag, byddai angen i unrhyw bolisi o'r fath godi pris alcohol mewn cyrchfannau yfed a siopau.

“Gallai’r refeniw treth ychwanegol o tua £1 biliwn y flwyddyn gael ei ddefnyddio tuag at gostau niwed cysylltiedig ag alcohol i’r GIG, a weithredir gan y rheiny na effeithir arnynt gan isafbris.”

Ystyriodd yr astudiaeth effaith prisiau alcohol masnachol (tafarndai/clybiau/bariau) ac anfasnachol (safleoedd manwerthu) ar y gyfradd sy’n mynd i unedau achosion brys o ganlyniad i drais yng Nghymru a Lloegr. Fe edrychodd hefyd ar ffactorau cymdeithasol ac economaidd.

Rhwng 2005 a 2012, gwnaed ychydig o dan 300,000 o ymweliadau gan oedolion i 100 o adrannau brys o ganlyniad i anafiadau a gafwyd o ganlyniad i drais. Mae hyn o gwmpas 2.1 miliwn o ymweliadau ar draws Cymru a Lloegr.

Dynion rhwng 18 a 30 oed oedd tri o bob pedwar, ac roedd cyfraddau’r anafiadau bob mis dair gwaith yn uwch ymysg dynion o’u cymharu â menywod.

Gwelwyd amrywiadau rhanbarthol a thymhorol hefyd. Roedd rhagor o anafiadau yn gysylltiedig â thrais yng Nghymru ac yng ngogledd Lloegr, a dros fisoedd yr haf o Fehefin i Awst.

Dangosodd dadansoddiad o’r data bod prisiau alcohol masnachol ac anfasnachol is yn gysylltiedig â niferoedd uwch o anafiadau o ganlyniad i drais. Yn bwysicach fyth, roedd hyn yn parhau i fod yn wir ar ôl cymryd i ystyriaeth tlodi, gwahaniaethau yn incwm y cartref, grym gwario ac adeg y flwyddyn.

Awgryma’r data y gallai cynnydd o 1% uwchlaw chwyddiant ym mhrisiau alcohol masnachol leihau nifer yr ymweliadau gofal brys blynyddol o ganlyniad i drais o 4,260. Gallai cynnydd cyfatebol mewn prisiau anfasnachol atal 1,788 o ymweliadau pellach, gan ychwanegu cyfanswm o hyd at 6,000 yn llai o ymweliadau.

Ond nid pris alcohol yn unig sy’n effeithio ar y defnydd ohono – mae ei argaeledd yn chwarae rôl hefyd. Yn benodol, pa mor bell y mae gofyn i bobl deithio i brynu’r ddiod o’u dewis.

Mae tystiolaeth gadarn i ddangos, pan fo rhaid i rywun deithio’n bellach i gael alcohol, mae lefel y niwed o achos alcohol yn is.

“Nid yw hyn yn syndod,” meddai Moore. “Beth sy’n syndod yw, tra bod ymchwil helaeth sy’n sail i isafbris unedau alcohol wedi ystyried pris manwerthu alcohol, nid oes yr un wedi edrych ar y cysylltiadau posibl rhwng argaeledd a phris."

“Mae hyn yn broblem am ddau reswm. Yn gyntaf, mae’n bosibl bod amcangyfrifon ar effaith isafbris ar yfed alcohol yn anghywir gan mai dim ond newidiadau bychain mewn argaeledd alcohol dros amser y maent wedi’u nodi."

“Yn ail, ac yn fwy pryderus, ei bod yn bosibl y gall y diwydiant alcohol agor mwy o safleoedd i wneud yn iawn am unrhyw effaith y caiff isafbrisiau. Mae gofyn ymgymryd â gwaith sy’n cynnwys argaeledd alcohol mewn ymyriadau pris i leihau’r niwed a achosir gan alcohol.

An entrance to A&E at a hospital
Mae trais sy’ngysylltiedig ag alcohol yn rhoi baich ychwanegol ar adrannau damweiniau acachosion brys sydd eisoes dan y lach.

Tanciau meddw

Er bod trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn gostwng yn gyffredinol yng Nghymru a Lloegr, mae dal yn faich sylweddol ar wasanaethau iechyd a’n hadrannau achosion brys.

Felly beth yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r broblem? Mae’r Athro Moore yn teimlo bod llawer o resymau dros y problemau rydym yn eu gweld yng nghanol dinasoedd ac nad oes un ateb unigol.

Mae'n credu bod llawer o bobl yn meddwl mai effaith gyfyngedig sydd i’w gweithgareddau ar nos Wener neu nos Sadwrn – a bod yfed yn ormodol ac ymladd yn ymddygiadau dilys.

“Mae mwy a mwy o bwysau ar wasanaethau brys,” meddai. “Ac yn aml caiff nyrsys, parafeddygon a swyddogion yr heddlu eu henllibio’n rheolaidd. Ond nid dyna ddiwedd y stori – mae'r gymuned gyfan yn dioddef."

“Ni all ambiwlans sy’n cael ei ddargyfeirio i ganol tref ar gyfer pobl sydd wedi yfed yn ormodol ymateb i alwadau yn y gymuned. Mae ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys o dan warchae oherwydd y meddwon sy’n effeithio ar gleifion eraill.”

“Rydw i wedi clywed am gleifion oedrannus yn rhyddhau eu hunain o adrannau damweiniau ac achosion brys oherwydd eu bod yn methu goddef bod yno ar nos Wener. Felly dyw beth sy'n digwydd yn y dref ar nos Wener ddim yn aros yn y dref ar nos Wener – mae sgil-effeithiau i bob un ohonom ni."

Tanciau meddwon yw un ateb posibl y mae tîm yr Athro Moore yn ymchwilio iddo. Bydd canfyddiadau astudiaeth newydd, a fydd yn cael eu cyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf, yn helpu i lywio penderfyniadau ar p’un a ddylid cyflwyno gwasanaethau rheoli pobl feddw ar draws y DU.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod mwy o bobl feddw nag sydd angen yn mynd i unedau achosion brys, efallai oherwydd bod y rhai sy’n eu cyfeirio yn amharod i gymryd risg, a hefyd oherwydd nad oes unrhyw le arall i bobl feddw fynd.

Byddai hyn yn awgrymu bod lle ar gyfer tanciau meddw, hyd yn oed fel mannau diogel nad ydynt yn cynnig gwasanaethau unedau achosion brys llawn.

“Fodd bynnag, tystiolaeth gyfyngedig sydd ar gael o hyd ynghylch pa mor effeithiol yw canolfannau trin alcohol,” meddai Moore. “Trwy gymharu data o ddinasoedd sydd â gwasanaethau penodol a’r dinasoedd hynny sydd hebddynt, ein gobaith yw cael darlun cliriach o’u heffeithiolrwydd i gleifion, eu heffeithlonrwydd o ran cost, a’u heffaith ar staff rheng flaen.

"Er bod presenoldeb tanciau meddw yn golygu bod pobl feddw yn cael eu trin ar wahân i gleifion eraill, mae’r ffaith bod y bobl hyn yn faich ar ein gwasanaethau brys yn dal yn broblem, gan fod angen staff ac adnoddau ar y canolfannau trin hyn. Mae gofyn penderfynu a yw hwn yn ddatrysiad cyfiawn.”

A St Johns ambulance
Gallai rhoitanciau meddwon yng nghanol ein trefi helpu i leihau’r baich ar adrannau brys.

Newid agweddau

Er y gallai mesurau fel cyflwyno isafbris a chanolf"annau trin alcohol leddfu’r broblem, efallai bod gofyn i’n hagweddau a'n harferion newid hefyd os ydym am gael perthynas genedlaethol iachach gydag alcohol.

I lawer ohonom ni, yn aml mae ein profiad cyntaf o alcohol yn rhan o’r broses o ddiosg y cadwyni haniaethol a roddir arnom ni gan ein rhieni. Er bod tystiolaeth yn dangos fod pobl ifanc nawr yn yfed llai nag oeddent ddeng mlynedd yn ôl, mae goryfed mewn pyliau ar noson allan yn parhau i fod yn ddefod reolaidd i lawer.

“Ond yr hyn sydd gennym heddiw yw diwydiant alcohol rheibus yn gwthio’r syniad y dylai pobl ifanc yfed brand penodol o alcohol i lefelau gormodol os ydynt eisiau amser da,” meddai Moore. “Mae’r diwydiant hwn wedi gwneud hwyl yn un o’u nwyddau, er mwyn ei werthu fesul peint, potel, pen mawr ac ymweliadau ag adrannau achosion brys."

Dyn sydd wedi pasio allan o yfed cwrw
I lawer, mae goryfed mewn pyliau yn dal i fod yn ddefod o dramwy.

"Mae lle gwerthfawr i dafarndai traddodiadol, megis y rhai sy'n cynnal cerddoriaeth fyw neu’n darparu ar gyfer teuluoedd. Mae hyn, fwy nag unrhyw beth, yn fy atgoffa bod alcohol wedi chwarae rhan bwysig yn draddodiadol yn ein cymunedau, ac un peth sy’n effeithio ar iechyd, yn enwedig yn yr henoed, yw ddiffyg cysylltiad cymdeithasol.

"Mae fy agwedd bellach wedi datblygu fel mod i’n cydnabod yr angen i dargedu'r rhai sy'n yfed yn ormodol, ond ar yr un pryd yn cydnabod yr angen am gadw lle unigryw tafarndai Prydain sydd mewn dwylo da, lle gall pobl o bob cefndir roi’r byd yn ei le."

Cwrdd yr tîm

Cysylltiadau allweddol