Ewch i’r prif gynnwys

Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru

Rydym yn gweithio gyda Chydlynydd Epidemoleg Deintyddol Cymru er mwyn cynllunio a darparu Rhaglen Arolwg Ddeintyddol y GIG ar gyfer Cymru.

Rydym yn cydweithio â Chydlynydd Epidemioleg Deintyddol Cymru, Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a Llywodraeth Cymru i gynnal yr arolygon.

Mae’r dull tîm integredig hwn yn sicrhau bod y safonau sicrhau ansawdd uchaf yn cael eu cyflawni yn y rhaglen epidemioleg plentyndod.

Amcanion

Mae ein huned yn darparu’r canlynol ar ran Llywodraeth Cymru, wedi’u comisiynu drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:

  • cyngor proffesiynol annibynnol
  • sicrhau ansawdd
  • glanhau data
  • dilysu data
  • dadansoddi data
  • gwasanaeth adrodd

Prosiectau

Rhaglen epidemioleg geneuol

Mae arolygu iechyd y geg plant ac oedolion yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio a gwerthuso gwasanaethau.

Mae’r arolygon rydym yn eu cefnogi yn gymaradwy ledled Cymru ag arolygon blaenorol diweddar ac ardaloedd eraill o’r DU lle mae arolygon tebyg yn cael eu cynnal trwy ddilyn canllawiau’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol (BASCD).

Arolwg o blant blwyddyn un

Casglodd arolwg Cymru gyfan 2022/23 ddata clinigol ar nifer yr achosion o bydredd mewn sampl o blant ysgol blwyddyn un o bob rhan o Gymru, a difrifoldeb yr achosion hyn, rhwng hydref 2022 a gwanwyn 2023:

Grŵp oedranBlwyddyn yr arolwgDogfen
Plant 5 oed2022/23Adroddiad arolwg

Cynhaliwyd arolwg hefyd yn 2015/16, a cheir rhagor o wybodaeth am hyn isod:

Grŵp oedranBlwyddyn yr arolwgDogfen
Plant 5 oed2015/16Adroddiad arolwg
Plant 5 oed2015/16Protocol arolwg
Plant 5 oed2015/16Adroddiad data

Arolwg o blant blwyddyn saith

Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer yr arolwg iechyd y geg Cymru gyfan nesaf a fydd yn canolbwyntio ar blant ym mlwyddyn saith mewn ysgolion canol neu uwchradd ledled Cymru, rhwng hydref 2023 a gwanwyn 2024.

Cynhaliwyd arolwg hefyd yn 2016/17, a cheir rhagor o wybodaeth am hyn isod:

Grŵp oedranBlwyddyn yr arolwgDogfen
Plant 12 oed2016/17Adroddiad arolwg 
Plant 12 oed2016/17Protocol arolwg 
Plant 12 oed2016/17Adroddiad data

Adroddiadau blynyddol wedi'u harchifo

Adroddiadau blynyddol y rhaglen epidemioleg geneuol

Grŵp oedranBlwyddynDogfen
Pobl ifanc rhwng 18 ac 15 oed2020Adroddiad llawn
Pobl ifanc rhwng 18 ac 15 oed2019Adroddiad llawn
Plant pump oed2014/15Adroddiad llawn
Plant pump oed2011/12Adroddiad llawn
Plant tair oed2013/14Adroddiad llawn
Plant pump oed2007/08Adroddiad llawn
Plant pump oed2005/06Adroddiad llawn
Plant pump oed2003/04Adroddiad llawn
Plant deuddeg oed2008/09Adroddiad lawn
Plant deuddeg oed2004/5Adroddiad llawn
Plant deuddeg oed2012/13Adroddiad llawn

Proffiliau iechyd y geg Byrddau Iechyd 2014

Gwnaethom baratoi proffiliau ar gyfer data iechyd y geg plant ym mlwyddyn ysgol un ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Gwnaethom gymharu canlyniadau arolygon a gwblhawyd yn 2007/2008 a 2011/2012:

BlwyddynBwrdd Iechyd
2014Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
2014Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
2014Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
2014Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
2014Bwrdd Iechyd Cwm Taf
2014Bwrdd Iechyd Hywel Dda
2014Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Proffiliau iechyd y geg Byrddau Iechyd 2012

Mae’r proffiliau iechyd y geg hyn yn rhoi trosolwg o iechyd y geg ar gyfer y saith bwrdd iechyd lleol ledled Cymru.

Maent yn cynnwys tueddiadau mewn clefyd y geg a phydredd dannedd ymhlith plant 5-12 oed, anghydraddoldebau o ran iechyd y geg ymhlith plant, Cynllun Gwên, iechyd y geg mewn oedolion a'r defnydd presennol o wasanaethau mewn perthynas ag angen.

BlwyddynDogfen
2012Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
2012Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
2012Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
2012Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
2012Bwrdd Iechyd Cwm Taf
2012Bwrdd Iechyd Hywel Dda
2012Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Adroddiadau monitro blynyddol y Cynllun Gwên

BlwyddynDogfen
2018/19Adroddiad
2017/18Adroddiad
2016/17Adroddiad
2015/16Adroddiad
2014/15Adroddiad
2013/14Adroddiad

Arolwg Deintyddol Cartrefi Gofal Cymru

Dilynodd arolwg 2010-2011 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru arolwg 2006-2007 o reolwyr cartrefi gofal drwy archwilio sampl o breswylwyr i gael data ar nifer yr achosion o glefydau deintyddol, y mathau o ymyriadau y gallent elwa arnynt a’r anawsterau o ran darparu’r gofal deintyddol sydd ei angen.

Fe'i cynlluniwyd i fod yn arolwg atodol i'r Arolwg Iechyd Deintyddol Oedolion Cenedlaethol (ADHS) 2009 a, lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiodd yr un meini prawf methodolegol.

Diben yr adroddiad yw cefnogi byrddau iechyd lleol yng Nghymru i ddefnyddio gwybodaeth o'r arolwg i gynllunio’r ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol.

BlwyddynDogfen
2012Arolwg Cartrefi Gofal 2010-2011
2012Protocol yr Arolwg
2006/07Protocol Cartrefi Gofal 2006-07
2006/07Adroddiad polisi iechyd y geg cartrefi nyrsio a phreswyl
2002Gwella ansawdd data deintyddol
2002Dull tîm integredig i wella ansawdd data deintyddol

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.