Ewch i’r prif gynnwys

Geometry, Algebra, Mathematical Physics and Topology Research Group

Yn unol â llawer o fathemateg fodern, mae'r grŵp hwn yn gyfuniad o fathemategwyr pur a ffisegwyr damcaniaethol.

Mae ein diddordebau'n cwmpasu ystod eang o bynciau, o algebra, geometreg, topoleg, gan gynnwys algebrâu gweithredydd, a geometreg nad yw'n gymudol, mewn mathemateg bur, i theori algebraidd a chydymffurfiol maes cwantwm, theori gwybodaeth gwantwm, a mecaneg ystadegol integradwy mewn ffiseg fathemategol.

Ymchwil

Prif feysydd ymchwil y grŵp presennol yw:

Mathemateg Bur

  • Cyfuniadeg algebraidd a rhifol
  • Geometreg algebraidd
  • Cynrychioliadau grŵp Braid
  • Problemau categoreiddio, cymesuredd drych, mannau moduli
  • Categorïau-DG a chategorïau deilliedig yn gysylltiedig ag amrywiadau algebraidd
  • Theori-K – gan gynnwys fersiynau cyfrodedd a chywerth
  • Categorïau tensor ac ymasiad modiwlaidd
  • Algebrâu gweithredydd a geometreg nad yw’n gymudol
  • Orbiffoldau a’r gyfatebiaeth McKay mewn Geometreg Algebraidd a Theori Is-ffactorau
  • Cymesureddau cwantwm: is-ffactorau, categorïau tensor, algebrâu Hopf, grwpiau cwantwm
  • Cynrychioliadau Quiver mewn Geometreg Algebraidd a Theori Is-ffactorau
  • Is-ffactorau ac algebrâu planar.

Ffiseg fathemategol

  • Theori Algebraidd Maes Cwantwm
  • Theori Meysydd Cydffurfiol
  • Gwybodaeth gwantwm
  • Mecaneg ystadegol: systemau integradwy clasurol a chwantwm
  • Cyfnodau mater topolegol.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.