Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu

Ymchwilio ffurf, swyddogaeth ac effaith iaith a chyfathrebu.

Mae gan y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu (CLCR) traddodiad cryf o feithrin gwybodaeth ddamcaniaethol a’i chymhwyso i gyd-destunau dilys.

Yn ein hymchwil, rydym yn ffafrio heriau a phryderon o'r 'byd go iawn', gan weithio ar y cyd â buddiolwyr i baru ymchwil â’i gymwysiadau galledig. Mae buddiolydd ein ymchwil wedi cynnwys y proffesiwn cyfreithiol, gofal iechyd, a chymunedau lleiafrifoedd ethnig a chymunedau dan anfantais gymdeithasol. O'r herwydd, mae llawer o'n hymchwil yn arwain at effaith sylweddol ar y gymdeithas.

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

Yn yr ymarfer diweddaraf, gosodwyd ein hysgol yn y 5 uchaf am effaith ymchwil a phŵer a’r 4 uchaf am effaith ar gymunedau ehangach (REF 2021). ar gyfer prosiectau ymchwil rydym naill ai wedi’u harwain neu wedi bod yn bartneriaid ynddynt.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn rhan o geisiau llwyddiannus grantiau gwerth cyfanswm o £1,300,000 ar gyfer prosiectau ymchwil yr ydym naill ai wedi’u harwain neu wedi bod yn bartneriaid ynddynt.

Ymchwil

Iaith ac Ieithyddiaeth

Ieithyddiaeth Corpws

Mae gennym amrywiaeth eang o ddiddordebau sy'n ymwneud â ieithyddiaeth corpws. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • creu a casglu corpws
  • dadansoddiad disgwrs wedi’i liwio gan corpws
  • anodi a thagio cropws
  • ymchwil amlffurf yn seiliedig ar gorpws

Rydym hefyd yn defnyddio corpora i archwilio:

  • y berthynas rhwng iaith, disgwrs a diwylliant
  • cyfathrebiaeth proffesiynol, gweithle a chyhoeddus
  • trosiad
  • ieitheg a patrymmau mewn gramadeg geiriau
  • y rhyngwyneb rhwng Ieithyddiaeth Weithredol Systemig (SFL) ac ieithyddiaeth corpws

Iaith Fformiwläig

Rydym yn astudio’r ffordd y mae pobl yn cyflawni pethau mewn cyfathrebu gan ddefnyddio unedau iaith cyffredin uwchlaw lefel geiriau, gan gynnwys:

  • idiomau a diarhebion
  • troadau ymadrodd cyffredin
  • termau aml-air
  • iaith ailadroddus mewn dementia
  • sut mae'r ymadroddion hyn yn newid dros amser ac yn adlewyrchu newid cymdeithasol
  • tebygrwydd a gwahaniaethau ar draws ieithoedd
  • rôl iaith fformiwläig mewn hyfedredd ail iaith
  • iaith fformiwläig mewn cyfathrebu proffesiynol

Goslef a Strwythur Gwybodaeth

Rydym yn astudio sawl maes yn ymwneud â swyddogaeth llafaredd, gan gynnwys:

  • y system tôn fel adnodd rhyngbersonol
  • defnyddio acenion traw i ddangos trawsnewidiadau annisgwyl mewn disgwrs
  • defnyddio acenion traw i nodi ffocws
  • sut mae prosodi, rhythm, trefn geiriau, cyfeiriadaeth a semanteg yn gwthio'r neges ymlaen

Caffael Iaith (Cyntaf ac Ail)

Rydym yn astudio caffael iaith gyntaf ac ail iaith, gan edrych ar agweddau megis datblygiad ffonolegol, gramadegol, pragmatig, semantig a geirfaol, a'r goblygiadau ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwil mewn:

  • datblygiad ffonolegol babanod o'r cyfnod cyn geni hyd at ddiwedd eu babandod
  • dysgu ac addysgu ail iaith (neu iaith ychwanegol).
  • ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy'n effeithio ar ddatblygiad iaith plant
  • plant yn caffael iaith safonol ac ansafonol
  • cymhwysedd sosioieithyddol Saesneg fel lingua franca
  • anhwylderau iaith datblygiadol

Disgrifiad Iaith

Rydym yn disgrifio gramadeg, geirfa, ffonoleg a semanteg iaith o amrywiaeth o safbwyntiau, yn cynnwys:

  • categorïau swyddogaethol
  • newid diacronig a defnydd ac amrywiadau cydamserol
  • gramadegol
  • enwau ac nominaliaeth
  • semanteg geirfaol
  • theori ramadegol
  • teipoleg iaith
  • strwythur gwybodaeth
  • enwoldeb ac uniondeb ystyr

Amrywiad a Newid Iaith, ac Ieithyddiaeth Hanesyddol

Rydym yn astudio sut mae amrywiad ieithyddol cyfredol wedi'i gysylltu'n gynhenid â'r dadansoddiad o newid iaith a'i berthynas ag amser, a sut mae canfyddiadau un maes yn llywio rhai'r llall. Mae ein diddordebau iaith ac amser yn cynnwys:

  • newid ar lefelau ieithyddol (geirfa, morffosyntactig, ffonolegol, disgwrs)
  • rhyngweithio rhwng ffactorau mewnol ac allanol mewn newid iaith
  • cyswllt iaith a sifft iaith
  • sosioieithyddiaeth hanesyddol
  • arddulliau hanesyddol
  • agweddau tuag at iaith a defnydd iaith
  • newid mewn iaith fformiwläig

Astudiaethau Geirfa

Rydym yn astudio ffurf a swyddogaeth geiriau a'u perthynas â gramadeg, er enghraifft:

  • patrymau gramadegol geirfa
  • newid geirfa dros amser o ganlyniad i gyswllt iaith
  • sut rydyn ni'n dysgu geiriau mewn iaith gyntaf neu ail iaith
  • sut mae ystyr gair yn cael ei ddylanwadu gan ei berthynas â geiriau eraill
  • dadansoddiad geirfaol swyddogaethol
  • dadansoddiad patrymau gyda corpws

Ethnograffeg Ieithyddol

Rydym yn defnyddio dulliau ethnograffig i ymchwilio i arferion cyfathrebol mewn ystod o gyd-destunau cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyd-destunau meddygol a gofal iechyd megis nyrsio, a rhoddi organau
  • cyd-destunau cyhoeddus megis siopau, llyfrgelloedd a hyfforddiant chwaraeon
  • cyd-destunau cyfryngau cymdeithasol fel gemau ar-lein, Facebook, cymunedau YouTube
  • cyd-destunau cyfreithiol fel gorsafoedd heddlu a chyngor cyfreithiol
  • trefniadaeth gymunedol a rheoli adnoddau
  • trosiad

Rydym yn astudio ffurfiau geiriol a gweledol/amlfoddol o drosiadau, gan gynnwys:

  • cyfathrebu yn y gweithle
  • cyfathrebu gofal iechyd
  • gwrthdaro a disgwrs
  • cartwnau gwleidyddol
  • darluniau, comics, nofelau graffig, a naratifau graffig
  • disgwrs ar y cyfryngau

Sosioieithyddiaeth

Mae’r ymchwil yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar sosioieithyddiaeth amrywiol a rhyngweithiol, gan edrych ar sut mae iaith yn cael ei heffeithio gan gymdeithas a diwylliant, ac yn effeithio arnynt.Mae hyn yn cynnwys ymchwil i mewn i:

  • amrywiaeth teipograffeg a sillafu yn y cyfryngau
  • coruwchamrywiaeth a thrawsieithu
  • amlieithrwydd
  • acenion a thafodieithoedd
  • agweddau ac ideolegau ieithyddol
  • iaith a rhywedd
  • hunaniaethau a chymunedau sefydliadol

Ieithyddiaeth Swyddogaethol Systemig, Gramadeg Swyddogaethol Systemig

Rydym yn trin gramadeg a geirfa fel adnoddau ar gyfer gwneud ystyron cymdeithasol fel disgwrs. Rydym yn archwilio dimensiynau canlynol Ieithyddiaeth Weithredol Systemig:

  • theori gramadegol
  • disgrifiadau gramadegol o Saesneg ac ieithoedd eraill ac amrywiadau cofrestr/tafodieithol
  • gramadeg geirfa
  • strwythur gwybodaeth a thestun
  • erchfynedigaeth a chyflwr gweithredol
  • math llenyddol, cywair a chyd-destun
  • dadansoddi testun
  • agwedd, gwerthuso a safiad
  • rhyngdestunolrwydd
  • theori actor cymdeithasol

Ac rydym yn defnyddio'r theori a'r disgrifiad yn y meysydd canlynol:

  • teipoleg drawsieithyddol
  • cyfreithlondeb a llais
  • ieithyddiaeth corpws
  • addysg
  • anhwylderau cyfathrebu
  • arddulleg
  • dadansoddiad disgwrs critigol (CDA)
  • ymarfer proffesiynol

Cyfathrebiaeth

Ieithyddiaeth Gymhwysol, Addysg Iaith, Saesneg ar gyfer ddibenion penodol

Rydym yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â dysgu, addysgu a defnyddio iaith, a dyma gasgliad ohonynt:

  • addysgu cyfathrebu proffesiynol
  • saesneg fel lingua franca mewn cyd-destunau proffesiynol
  • dysgu ac addysgu ail iaith
  • prosesau ysgrifennu
  • addysgu Saesneg i bwrpasau penodol
  • dulliau o ddysgu ac addysgu gramadeg, geirfa a disgwrs

Dadansoddi Disgwrs, Dadansoddi Disgwrs Beirniadol, Dadansoddi Disgwrs wedi'i Gyfarwyddo â Chorpws

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu offer, damcaniaethau a fframweithiau methodolegol ar gyfer dadansoddi disgwrs, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • diffinio a dadansoddi cyd-destun
  • cyfathrebu yn y gweithle
  • dadansoddiad disgwrs aml-foddol
  • dadansoddi sgyrsiau
  • iaith ac ystum a ddefnyddir mewn lleoliadau naturiol
  • ymchwil amlfodd yn seiliedig ar gorpws
  • testun a chyd-destunau cymdeithasol
  • dadansoddi disgwrs digidol
  • disgwrs a hunaniaeth
  • cynrychioliadau ac ideolegau

Ieithyddiaeth fforensig / Iaith a'r Gyfraith

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau, methodolegau a dulliau i archwilio iaith a chyfathrebu am y gyfraith mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfreithiol a pharagyfreithiol. Rydym hefyd yn cyfrannu canfyddiadau cymhwysol ein hymchwil i ymarferwyr ar draws amrywiaeth o sefydliadau. Rydym yn gweithio ar draws y system gyfreithiol yn y meysydd canlynol:

  • cgluro'r gyfraith mewn cyd-destunau megis cadw mewn dalfra
  • datganiadau tystion ac arferion cyfweld
  • yr heddlu'n delio â chwynion a chymryd galwadau
  • cyfathrebu â phoblogaethau diamddiffyn gan gynnwys plant a'r rhai ag anhwylder cyfathrebu
  • cynrychiolaeth a lluniad hunaniaeth yn iaith y gyfraith
  • ymadrodd a chyfreitheg
  • iaith carchar a chyfiawnder adferol
  • tystiolaeth ac arbenigedd ieithyddol gan gynnwys: priodoli awduraeth, dadansoddiad nod masnach, a labeli rhybuddio
  • dehonglwyr ac eiriolwyr iaith
  • naratif yn y broses gyfreithiol
  • perswadio yn y broses gyfreithiol
  • moeseg drafodol a'r broses gyfreithiol
  • cyfarwyddyd ac ideoleg rheithgor

Cyfathrebu Gofal Iechyd, Anhwylderau Cyfathrebu, Dementia a Chyfathrebu, Cyfathrebu Hyd Oes

Rydym yn astudio defnydd penodol iaith yng nghyd-destun gofal iechyd, yn rhychwantu cyfathrebu iechyd a chyfathrebu gydol oes. Gall hyn gynnwys anawsterau cyfathrebu chaffaeledig a sut mae iaith yn newid wrth i ni heneiddio, yn ogystal â phynciau fel:

Trosiad gweledol mewn ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus

  • trosiad mewn gofal diwedd oes
  • salwch fel trosiad
  • cyfathrebu iechyd mewn ysbytai
  • alzheimers a dementia
  • cyfathrebu â phobl â dementia
  • cyfathrebu gweithwyr iechyd proffesiynol
  • anhwylderau cyfathrebu sy'n deillio o anableddau cynhenid a chaffaeledig
  • cynrychioliadau o heneiddio
  • meddygaeth graffeg
  • gwahaniaethau rhwng patrymau iaith pobl iau a hŷn
  • cynrychioliadau'r cyfryngau o salwch, heneiddio a hyd oes

Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol

Mae gennym ddiddordeb mewn archwilio critigol i mewn i gysyniadau ac ymagweddau at ddiwylliant a chyfathrebu rhyngddiwylliannol mewn amrywiaeth o gyd-destunau a chydag amrywiaeth o fethodolegau. Mae ein hymchwil yn archwilio’r meysydd canlynol, ymhlith eraill:

  • cyfathrebu rhyngddiwylliannol yn y gweithle
  • cysyniadau o ‘ddiwylliant’ mewn cyd-destunau sefydliadol
  • critigo hanfodaeth, stereoteipiau ac ethnocentriaeth
  • defnyddio ieithyddiaeth corpws mewn dadansoddiad rhyngddiwylliannol a diwylliannol
  • cyfathrebu rhyngddiwylliannol a llais
  • cyfathrebu rhyngddiwylliannol a moeseg drafodol
  • defnydd o adnoddau cyfathrebol amlfodd mewn cyfarfyddiad rhyngddiwylliannol

Cyfryngau (Newydd), Comics/Nofelau Graffeg

Mae gennym amrywiaeth eang o ddiddordebau yn y meysydd hyn, gan gynnwys hunaniaeth, perfformiad ac ideolegau, ac rydym yn archwilio sut y gellir cymhwyso ein canfyddiadau y tu hwnt i’r byd academaidd:

  • adeiladu a thrafod hunaniaeth
  • cymunedau practis ar gyfryngau cymdeithasol
  • creadigrwydd, newid a theipograffeg yn iaith y cyfryngau newydd
  • moeseg ymchwil rhyngrwyd
  • cynrychioliadau, ideolegau, a'r cyfryngau
  • adrodd straeon hunangofiannol trwy gomics
  • meddygaeth graffeg
  • agweddau a pherfformiad iaith ar Twitter

Disgwrs Proffesiynol a Chyfathrebu yn y Gweithle

Rydym yn dadansoddi rhyngweithiadau mewn cyd-destunau proffesiynol a gweithle, er enghraifft sgwrs darlledu, rhyngweithio mewn llys barn a chyfarfodydd busnes. Mae llawer ohonom yn defnyddio dull ‘cymhwysol’, gan archwilio sut y gall ein canfyddiadau fwydo’n ôl i’r rheini yn y gweithle er mwyn gwella arferion. Mae ein gwaith yn cynnwys trafodaethau a chyfathrebu proffesiynol llafar, ysgrifenedig, amlfodd ac ar-lein:

  • cyfathrebu proffesiynol cyfreithiol
  • cyfathrebu lleyg-cyfreithiol
  • disgwrs fforensig
  • disgwrs wleidyddol yn y cyfryngau
  • gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, disgwrs a siarad ar gyfer darlledu
  • trafodaeth cyfryngau newyddion a chyfathrebu
  • rhyngweithio rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion-proffesiynol
  • amgylcheddau iechyd amlieithog
  • cyfathrebu rhyngddiwylliannol mewn gweithleoedd
  • iaith cyfarfodydd busnes
  • eglurhad yng nghyd-destun y gweithle
  • llythrennedd mewn gweithleoedd
  • cyfathrebu mewn cyd-destunau peirianneg

Cyfathrebu Gweledol ac Amlfoddol, Cyfathrebu Di-eiriau

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu offer, damcaniaethau a fframweithiau methodolegol ar gyfer dadansoddi gweledol ac amlfodd gyda ffocws penodol ar y meysydd canlynol:

  • tirweddau ieithyddol
  • iaith ac ystum mewn cyd-destunau naturiol
  • delweddau hysbysebu
  • trosiad gweledol/amlfoddol ac eironi
  • cyfathrebu di-eiriau yn y gweithle
  • adnoddau trawsieithu a chyfathrebu
  • ymchwil amlfodd yn seiliedig ar gorpws

Digwyddiadau

Mae Cyfres Digwyddiadau CLCR yn cynnwys ystod eang o gynulliadau academaidd ac academaidd-gysylltiedig. Un o'n prif weithgareddau yw Rhwydweithio Bord Gron sy'n cynnig cyfle ar gyfer trafodaeth grŵp o ddiddordebau a phrosiectau posibl yn y dyfodol ar thema gyffredin. Mae enghreifftiau o'n digwyddiadau eraill yn cynnwys "minilloquia", mini-colloquia, a "sliminars", seminarau bach, fformatau sy'n caniatáu i sawl siaradwr gyflwyno eu hymchwil neu feddylion i gynulleidfa eang. Rydym hefyd, o bryd i’w gilydd, yn cynnal digwyddiadau tebyg i seminarau ymchwil mwy confensiynol lle bydd aelodau o gynulleidfa gwahoddedig o bob rhan o’r Brifysgol yn cyfoethogi trafodaethau.

Darganfyddwch mwy am rhaglen eleni

Digwyddiadau'r Gorffennol

Digwyddiad Dathlu CLCR: 25 Mai 2023.  Dathliad o gyfeiriadau Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Caerdydd yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Daganfyddwch mwy am digwyddiadau'r gorffenol

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.