Ewch i’r prif gynnwys

Y gymdeithas sifil a chymunedau

Civil society and communities

Ein nod yw deall a dadansoddi cymdeithasau sifil a'r cymdeithasau sy'n rhan ohonynt.

Mae prosiect blaenllaw, Newid Cymdeithasol ac Economaidd a Thirluniau Lleol a Rhanbarthol Cymdeithas Sifil, yn cael ei arwain gan yr Athro Ian Rees-Jones mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, er mwyn deall natur newidiol cymdeithas sifil yng nghyd-destun llywodraethau datganoledig.

Mae prosiect ar y cyd â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yr 'Arsyllfa Cyfryngau Cymdeithasol Cydweithredol' (COSMOS) yn fuddsoddiad ar y cyd o £500,000 gan ERSC a JISC, yn dod â chymdeithasegwyr a chyfrifiadurwyr ynghyd er mwyn ymgysylltu â dimensiynau methodolegol, damcaniaethol a pholisi 'data cymdeithasol mawr'. Mae prosiectau'n cynnwys cyd-ariannu â Google, Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil a'r Adran Iechyd. Cafodd COSMOS ei ddewis hefyd fel astudiaeth achos allweddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel Rhyngwyneb Rhaglennu Ceisiadau.

Mae angen i gymunedau allu cynnal eu hunain, yn nhermau mynediad at fwyd a chynllunio dinasoedd a chytrefiadau, yn enwedig yn sgîl newid hinsawdd. Mae ymchwilwyr yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi datblygu adnoddau sy'n cyfuno dadansoddiad gofodol ag economeg, er mwyn helpu llywodraethau i gynllunio dinasoedd a chynlluniau dylunio trefol yn well. Mae' Ysgol hefyd yn ystyried strategaethau gwrth-dlodi a bwyd-amaeth: cafodd ei ymchwil ei ddefnyddio mewn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae arbenigedd ein Hysgol Cyfraith wedi helpu gwella'r fframwaith y mae cymdeithas yn cael ei lywodraethu ganddynt, yn y DU a thramor. Mae'r mewnbwn yn cynnwys cynghori Cyngor Ewrop am hawliau a statws cyfreithiol plant, darparu cyngor i Weinyddiaeth Materion Tramor y Weriniaeth Tsiec yn ystod arlywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y wlad, a chynghori'r Senedd Ewropeaidd ar orfodi rhwymedigaethau'r UE.

Cafodd ein harbenigedd cyfreithiol ei ddyfynnu yn Y Goruchaf Lys yn yr UDA a Seland Newydd, gan y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd a Goruchaf Lys y DU. Rydym yn bartneriaid yn y Ganolfan Rhagoriaeth Cyfraith Deuluol drwy ein cyfranogiad yn y Rhwydwaith Teulu, Rheoleiddio a Chymdeithas sydd â grant Rhwydwaith Rhyngwladol Leverhulme o £1m.

Rydym yn archwilio'r ffyrdd y mae cymunedau'n cyfathrebu gyda'u gilydd a rôl crefydd a'r cyfryngau o fewn y rhyngweithio hwn.

Mae Canolfan y Cyfryngau Digidol a Chymdeithas yn archwilio i bŵer y cyfryngau cymdeithasol i naill ai amharu ar neu gryfhau ymarferion cyfathrebu presennol a chysylltiadau cymdeithasol. Mae'r ymchwil presennol yn ymwneud â newyddiaduraeth ddigidol, hactifiaeth, prosiectau digidol a democratiaeth a chyfranogiad. Mae diddordeb mewn newyddiaduraeth gymunedol wedi arwain at ddatblygiad Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, sy'n cyfuno ymchwil ac agweddau ymarferol.

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Islam yn archwilio i fywydau cymunedau Mwslimiaid ym Mhrydain, ac yn derbyn dros £1miliwn o'r Rhaglen Ysgoloriaeth Jameel er mwyn cefnogi ymchwilwyr doethuriaeth ac ôl-doethuriaeth. Mae ymchwil Ysgol y Gyfraith wedi arwain at nodi'r angen ar gyfer Cyfamod Cymundeb Anglicanaidd, ac mae'r Athro Norman Doe wedi ymgymryd â drafftio ac eiriolaeth y dogfennau hyn.