Ewch i’r prif gynnwys

Temlau Ashapuri

An archtectural drawing of the Temple of Ashapuri, India.

Mae Cronfa Henebion y Byd (WMF) wedi llofnodi contract gyda'r Brifysgol er mwyn i PRASADA gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyfer adfer, cadwraeth a chyflwyno chwech ar hugain o demlau canoloesol adfeiliedig yn Ashapuri.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o Brosiect Henebion Madhya Pradesh, partneriaeth rhwng yr WMF a Llywodraeth Madhya Pradesh. Mae PRASADA hefyd yn cynnal astudiaeth gyfochrog, wedi'i hariannu gan Gangen INTACH-UK (Ymddiriedolaeth INTACH-UK gynt), o arwyddocâd Ashapuri yn hanes pensaernïol canolbarth India.

Mae’r deml yn dal i fod yn Ashapuri, dan amddiffyniad Cyfarwyddiaeth Archaeoleg, Archifau ac Amgueddfeydd, Llywodraeth Madhya Pradesh. Mae’n deyrnged i ddinas ffyniannus rhwng cyfnodau Pratihara a Paramara, ac yn ganolfan ddiwylliannol bwysig. Bu llawer iawn o adeiladu temlau yno rhwng y 9fed a’r 12fed ganrifoedd. Ddegawd yn ôl, nifer fach o demlau canoloesol adfeiliedig oedd i’w gweld, ac amgueddfa fach yn arddangos rhannau o gerfluniau a phensaernïaeth. Roeddent o safon ryfeddol o hardd o ystyried pa mor anghyfarwydd oedd y safle. Ers hynny, mae llawer mwy o demlau wedi'u lleoli a'u cloddio, a’r mwyafrif o’r rheiny ar fryn y tu allan i’r pentref, sy’n edrych dros danc. Mae achos y dinistr yn dal i fod yn ddirgelwch.

Yn sgîl gwaith cloddio diweddar, mae cannoedd o dameidiau o waith pensaernïol a cherfluniau wedi’u gosod ar y safle, ac mae llawer o rai eraill yn dal i fod mewn pentyrrau.

Ceir llu o demlau adfeiliedig yng nghanolbarth India, ond go brin bod safle arall sydd â chymaint o olion cain a themlau amrywiol. Does dim un teml yn gyflawn. Ychydig iawn sydd yn dal i fod â phileri a thrawstiau. Yn hyn o beth, mae Ashapuri yn her o ran sut y dylid ei amddiffyn, a sut i roi gwerth ac ystyr haeddiannol i olion canolfan bwysig o ran celf temlau canoloesol yn India.

Cefndir y Prosiect

Mae Adam Hardy wedi dangos diddordeb mewn Ashapuri ers ei ymweliad cyntaf yn 2000 gyda Meera Dass (PhD, PRASADA 2001), a oedd yn gynullydd INTACH ar gyfer cylch Bhopal bryd hynny. Dychwelodd yn 2007, a bryd hynny, dangosodd Dr O. P. Mishra o Gyfarwyddiaeth Archaeoleg Madhya Pradesh iddo’r pentyrrau o olion teml oedd wedi’u darganfod yn ddiweddar ar fryn ger y pentref.

Yn 2012 arwyddodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru femorandwm cyd-ddealltwriaeth (MoU) gydag Ysgol Cynllunio a Phensaernïaeth (SPA), Bhopal, o dan ei Chyfarwyddwr yr Athro Ajay Khare (PhD, PRASADA 2004), a phenderfynwyd mai Ashapuri fyddai ffocws eu cydweithrediad ymchwil cyntaf. Drwy gymrodoriaeth yr Ymddiriedolaeth Nehru, ymwelodd Dr Vishakha Kawathekar o SPA â Chaerdydd yn ystod haf 2012. Roedd hyn o gymorth o ran cynllunio prosiectau i’r dyfodol.

Fis Mai 2012 derbyniodd Adam grant gan Gangen INTACH-UK (Ymddiriedolaeth INTACH-UK gynt) er mwyn cynnal astudiaeth gychwynnol ar y safle, gan ganolbwyntio'n bennaf ar arwyddocâd Ashapuri i hanes pensaernïol canol India. Mae hyn wedi bod o fudd o ran ategu’r prosiect cadwraeth a gomisiynwyd gan Gronfa Henebion y Byd.

Yn 2011, daeth Llywodraeth Madhya Pradesh i gytundeb â Chronfa Henebion y Byd (WMF), i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cadwraeth ar gyfer 43 o safleoedd o arwyddocâd pensaernïol ac archeolegol yn y dalaith. Nodwyd Ashapuri ac Orchha yn safleoedd â blaenoriaeth. Cyhoeddwyd hyn mewn datganiad i'r wasg (PDF) ym mis Ebrill 2012. Sefydlodd WMF ei Brosiect Treftadaeth Ddiwylliannol Madhya Pradesh, a phenodwyd Menter Cadwraeth Adnoddau Diwylliannol (CRCI) yn Dîm Cydlynu Prosiectau.

Ym mis Ebrill 2013, llofnododd WMF gontract â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer Ymchwilio, Ysgrifennu Dogfennaeth a Pharatoi Adroddiadau Dichonoldeb (Cam 1) ar gyfer Grŵp o Demlau a Henebion eraill, Ashapuri, Ardal Raisen, Madhya Pradesh, India. Dyma’r cyntaf o’r tri cham a gynlluniwyd, a’i brif ffocws yw tri o’r temlau cynharach (cyfnod Pratihara).

Amcanion

Dyma rai o amcanion contract PRASADA ag WMF:

  • arolygu a mapio'r safle a'r ardaloedd cyfagos, gan nodi safleoedd o arwyddocâd archeolegol
  • lluniadau manwl o rannau o'r temlau sydd wedi goroesi
  • dogfennaeth ffotograffig fesul darn gyda mesuriadau allweddol
  • dogfennaeth ffotograffig (elfen yn ôl elfen) ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd, gyda mesuriadau sylfaenol, i greu trosolwg a sicrhau bod modd adnabod darnau coll
  • monitro prosesau adfer archeoleg Adran Archaeoleg MP
  • darluniau manwl yn nodi sut allai’r temlau edrych ar ôl eu hail-adeiladu, gyda dadansoddiad eglurhaol ac opsiynau amgen os nad yw’r dyluniad cychwynnol yn sicr
  • cronfa ddata electronig
  • astudiaeth/adroddiad dichonoldeb, gan gynnwys opsiynau ar gyfer trefnu, arddangos, ail-adeiladu (yn rhannol neu’n llwyr) y temlau dan sylw, a strategaeth gychwynnol ar gyfer arddangos a dehongli’r safle yn ei gyfanrwydd a datblygiad seilwaith

Ashapuri yn hanes pensaernïol

Ochr yn ochr â'r prosiect a gomisiynwyd gan yr WMF rydym yn ymchwilio i sut mae'r temlau yn Ashapuri yn debyg i'r traddodiadau rhanbarthol ehangach o ran arddull, cyfansoddiad y deml ac eiconograffiaeth, ac yn ystyried eu harwyddocâd i hanes pensaernïaeth temlau India yn gyffredinol. Cefnogwyd yr agwedd hon ar y prosiect gan grant gan Gangen INTACH-UK (Ymddiriedolaeth INTACH-UK gynt) ar gyfer astudiaeth o'r enw Ashapuri a Chreu Pensaernïaeth Teml Bhumija.

Mae Ashapuri yn safle allweddol ar gyfer deall hanes pensaernïol canol India yn y cyfnod canoloesol. Mae wedi’i leoli 6km o deml Shiva, Bhojpur, sy’n enwog a heb ei chwblhau (man cychwyn ein prosiect The Indian Temple a ariannwyd gan AHRC), a briodolir i Bhoja (oddeutu 1020-55). Dim ond wrth ystyried y ddau gyda’i gilydd y mae modd deall arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol llawn y safleoedd hyn. Pan adeiladwyd yr argae enfawr yn Bhojpur, a dechrau’r gwaith o adeiladu'r deml enfawr ar y creigiau moel, Ashapuri fyddai wedi bod yr anheddiad trefol mawr gerllaw. Mae hynodrwydd o ran arddull yn olion Ashapuri yn awgrymu mai o fan hyn y daeth y seiri maen i adeiladu Bhojpur.

Hyd at yr 11eg ganrif, mae arddulliau pensaernïol canol India yn gyson, gyda thrawsnewidiad graddol o gyfnod Gupta. Mae hyn hefyd yn wir am demlau Nagara yn y rhanbarth a all gael eu galw yn ‘Pratihara’, yn ôl y label dynastaidd. Yn unol â datblygiadau tebyg yng ngorllewin India, newidiodd y ffurf Ladina unedig ar demlau Nagara i fod yn ffurfiau cyfansawdd (anekandaka) o oddeutu dechrau’r 10fed ganrif. Yn y pen draw, gelwir hyn yn ffurf Shekhari, a oedd yn gyfarwydd yn Khajuraho. Prin iawn yw’r dystiolaeth o’r cam trawsnewidiol. Mae'n gyffrous darganfod shikharas bach yn arddull 'Pratihara' yn Ashapuri, tystiolaeth o arbrofi gyda ffurfiau anekandaka. Felly, mae’r safle’n bwysig er mwyn deall dyfodiad hwyr y traddodiad Nagara yn y rhanbarth (‘Traddodiad A’).

Mae adfeilion Ashapuri hefyd yn cynnwys cliwiau hanfodol ac i bob pwrpas, rôl allweddol, o ran y newid arddull radical yng nghanol India yn yr 11eg ganrif, gan gyd-fynd ag ymddangosiad ffurf neu ‘fath’ newydd o deml, y Bhumija.

Gwelir y math hwn am y tro cyntaf oddeutu troad yr 11eg ganrif. Yn wahanol i fathau eraill o demlau, mae’r Bhumija fel ei bod wedi’i dyfeisio, yn hytrach nac esblygu dros amser. Malwa yw ei chadarnle, a dyna oedd math teml dewisol y Paramaras yn fanno. Nid yn unig y mae’r temlau Bhumija sydd wedi goroesi ym Malwa yn rhai math newydd, ond maent hefyd yn meddu ar arddull newydd (‘Traddodiad B’). Mae’n glir i’w weld o nodweddion y mowldin a’r manylion, yn wahanol i’r prif draddodiad rhanbarthol (‘Traddodiad A’). Mae gan yr arddull newydd gysylltiadau clir â Deccani-Dravida. Mae Traddodiad B yn cynnwys gweithdai crefft sy'n arbenigo yn y math Bhumija. Mae'r olion yn Bhojpur, a'r darluniau llinell yno, yn cynrychioli cyflwyniad y Traddodiad B newydd (ni waeth a fwriadwyd i'r brif deml fod yn un Bhumija ai peidio).

Yn y cyd-destun hwn, mae’r diddordeb mawr mewn Ashapuri ynghylch y ffaith ei fod yn cynnwys temlau o Draddodiad A a Thraddodiad B, gan gynnwys cyfnod pan ymddengys bod y ddau wedi cydfodoli a rhyngweithio. Mae hyn yn awgrymu bod cynnydd yn nifer y grwpiau newydd o grefftwyr, o Deccan neu’n gysylltiedig â’r lle, a ddaeth yn arbenigwyr Bhumija neu’n rhai a ddylanwadodd ar yr arddull newydd o leiaf. Er bod temlau Bhumija sydd wedi goroesi mewn mannau eraill ym Malwa yn perthyn i Draddodiad B, dyma dystiolaeth o demlau Bhumija, efallai o ddiwedd y 10fed ganrif, sy'n ymddangos yn drosiannol o ran cymeriad, gydag agweddau ar y ddau draddodiad.

Mae’n bosibl bod Bhumija wedi deillio o Ashapuri, ac wedyn bod Bhojpur wedi parhau â’r fenter ar raddfa fawr. Unwaith y sefydlwyd Traddodiad B yn Ashapuri, mae’r safle’n cynrychioli’r meddylfryd yn Samaranganasutradhara, y testun canonaidd a briodolir i Bhoja, gan arddangos ymwybyddiaeth o fathau gwahanol o deml a thraddodiadau rhanbarthol amrywiol, gan gynnwys cysyniad o bensaernïaeth teml Dravida, fel y’i nodir mewn rhai manylion ‘Dravida’ hynod ddiddorol a welir yn Ashapuri.

Canlyniadau cyntaf

Dulliau a chanlyniadau cyntaf: Ailddarganfod Teml 5

Y deml gyntaf i ni ei hastudio yw Teml 5. Mae platfform wedi’i fowldio (pitha) wedi goroesi, a rhan fwyaf y rhannau wedi’u gosod gyda’i gilydd. Nes y bydd yr holl elfennau wedi’u sortio, mae’n anochel y bydd deunydd o demlau eraill yno hefyd. Mae digon o olion o Deml 5 wedi goroesi er mwyn gallu pennu dyluniad mulaprasada. Gall cyfran y darnau cerfiedig sydd wedi goroesi fod yn llai nag 20% o'r darnau cerfiedig gwreiddiol.

Mae gwaith pellach ar y gweill i bennu dichonoldeb gwahanol raddau o ailadeiladu a'r opsiynau ar gyfer arddangos y deunydd yn ystyrlon.

An architectural drawing of the side view of the Temple of Ashapuri

Teml 5 yw’r deml Pratihara fwyaf moethus yn Ashapuri, er ei bod yn gymedrol o ran graddfa. Mae’r gwaith cerfio ynddi’n dal i fod yn ffres ac yn gain, yn union fel y traddodiad Nagara o ganol India, a oedd yn 300 oed ar y pryd, a’i greodd. Er hyn, mae ganddi raddfa ddigynsail o ymlediad yn ei chynllun pancharatha (â 5 elfen). Ein cred yw ei bod wedi’i hadeiladu tuag at ddiwedd y 9fed ganrif neu ddechrau’r 10fed ganrif.

Mae gan Deml 5 shikhara fechan ar ben y bhadra, sy’n creu math o deml llai yn dod i’r amlwg yn y canol. Mae hyn yn rhagflaenydd hyfryd o'r cysyniad anekandaka (llawer o bigdyrau). Prin iawn yw’r temlau sy’n debyg i Deml 5, ac mae’n cynrychioli cyfnod unigryw yn natblygiad y traddodiad.

Ym mis Ebrill 2014 cwblhawyd yr adroddiad dichonoldeb ar gyfer Teml 17, y cynharaf o'r grŵp yn ôl pob tebyg. Roedd modd dyddio’r deml hon yn ôl i ddechrau’r 9fed ganrif. Mae llawer iawn o’r deunydd gwreiddiol wedi goroesi, ac felly bydd y deml hon yn ddelfrydol ar gyfer ei hail-adeiladu.

Process of research - Temple of Ashapuri project

The process of research to undertake a total station survey of the entire temple site and surrounding villages and areas of archaeological significance.

Arweinydd y prosiect

Yr Athro Adam Hardy

Yr Athro Adam Hardy

Emeritus Professor

Email
hardya@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5982

Prif ymchwilydd

A profile image of Vishakha Kawathekar smiling.

Vishakha Kawathekar

School of Planning and Architecture, Bhopal

Tîm y prosiect

  • Ramesh Bhole a Shweta Vardia (penseiri cadwraeth)
  • Kshama Puntambekar (cynllunydd, crëwr cronfa ddata)
  • Apoorv Srivastava (peiriannydd)

Arbenigwyr perthnasol

  • Shri M.M. Kannade (cyn-Archeolegydd a Pheiriannydd Arolygol)
  • Shri C.V. Kand (arbenigwr strwythurol a geodechnegol)
  • Shri Narayan Vyas (archeolegydd)
  • Dr O. P. Mishra (archeolegydd)