Ewch i’r prif gynnwys

Fflworosbectromedr Nano Drop 3300 Thermo Scientific

Fflworosbectromedr cyfaint micro

Tri deuod golau (LED): Uchafswm cyffroad: Uwch-fioled: 365nm; Glas: 470nm; Gwyn; 460-650nm

Cydraniad sbectrol: 8nm

Amser mesur: 2-10 eiliad

Brand/model Fflworosbectromedr Nano Drop 3300 Thermo Scientific
Manylion Fflworosbectromedr cyfaint micro; Tri deuod golau (LED): Uchafswm cyffroad: Uwch-fioled: 365nm; Glas: 470nm; Gwyn; 460-650nm; Cydraniad sbectrol: 8nm; Amser mesur: 2-10 eiliad
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae’r NanoDrop 3300 yn fflworosbectromedr sbectrwm llydan o’r radd flaenaf sydd yn bennaf ar gyfer mesur meintiau picogram o DNA, RNA a phrotein mewn cyfeintiau micro mor fach â 1ml. Mae’n mesur yn gyflym (<10 eiliad), cynnig ystod lydan o donfeydd (400-750nm), ac yn amlygu llawer of fflworofflorau samplau gyda chydranniad sbectrol o 8nm heb yr angen i newid hidlyddion.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Thermofisher - Manylion

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - NanoDrop 3300’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Yr Athro Pete Watson - WatsonPD@caerdydd.ac.uk

I gael manylion, cysylltwch â’r Yr Athro Pete Watson - WatsonPD@caerdydd.ac.uk

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio’r offer a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Peter Watson

Email
watsonpd@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9042

Lleoliad

BIOSI 2; E/3.27
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00.

Adnoddau

    No results were found