Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop Cydffocal Disg Troelli

Mae’r labordy delweddu celloedd byw yn yr Hwb Ymchwil Bioddelweddu yn gartref i system ficrosgop cydffocal sy’n defnyddio disg sy’n troelli ar gyfer prosesau delweddu treigl-amser a chyflym.  Mae’r system yma’n paratoi delweddau cyflym, fflworoleuedd aml-liw ac aml-safle (x,y,z) . Ar ben hynny, mae systemau ategol gyda’r labordy ar gyfer delweddu celloedd byw (h.y. nwy a magwrydd).

Brand/model Microsgop gwrthdro modurol Olympus IX71
Manylion Delweddydd cydffocal Crest Optics X-Light V2; Banc laser tair llinell Cairn Research (405nm; 488nm; 561nm); camera digidol Hamamatsu ORCA Flash 4 CMOS gyda holltydd delwedd M-View Gemini
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae i’r system wrthrychiaduron x4, x10, x20, x40, x60 (olew) a x100 (olew) a hidlyddion RGB ar gyfer delweddau epifflworoleuol. Mae iddo blât archwilio, wedi’i fotoreiddio (x,y,z) PriorScan II, twred hidlo a chaead modurol gyda hidlyddion ar gyfer delweddu DAPI, FITC, TRITC, CFP, YFP a RFP. Mae iddo hefyd sganiwr laser cydffocal disg troelli Crest Optics X-Light V2, banc laser tair llinell (405nm, 488nm, 561nm) a chamera digidol monocrom Hamamatsu ORCA 4.0 Flash 4.0 CMOS gyda optegau hollti delwedd M-View Gemini. Meddalwedd microsgopeg awtomatig Molecular Devices MetaMorph ynghyd â meddalwedd dadansoddi delweddau sy’n rheoli’r microsgop.

Gwrthrychiaduron

  • 4x/0.13 UPlan FLN
  • 10x/0.30 UPlan Fl
  • 20x/0.45 LUCPlan FLN
  • 40x/0.60 LUCPlan FLN
  • 60x/1.42 PlanApo N Oil
  • 100x/1.40 UPlanSApo Oil

Laserau

  • Diode 405nm (100mW)
  • Diode 488nm (150mW)
  • Diode 561nm (100mW)

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Olympus IX71 live cell system’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Arweinydd Academig ar gyfer Delweddu:

Yr Athro Pete Watson

E-bost: watsonpd@caerdydd.ac.uk

Ffôn: +44 (0)29 2087 9042

I gael manylion am hyfforddiant, cysylltwch â’r Arweinydd Academig ar gyfer Delweddu:

Yr Athro Pete Watson

E-bost: watsonpd@caerdydd.ac.uk

Ffôn: +44 (0)29 2087 9042

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio’r system a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’i ddefnyddio.

Mae’n rhaid i ddefnyddwyr:

  1. Dderbyn hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
  2. Darllen yr Asesiad Risg diweddaraf ar gyfer yr Hwb Bioddelweddu a’i ddeall
  3. Llenwi ffurflen Cofrestru Gweithiwr Laser

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r system ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster– dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Peter Watson

Email
watsonpd@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9042

Lleoliad

E/3.15
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu allan i’r oriau hyn, bydd rhaid cael hawliau mynediad ar gerdyn (cysylltwch â swyddfa Ysgol y Biowyddorau i drefnu).

Adnoddau