Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop sganio laser cydffocal gyda stand gwrthdro

Mae’r microsgop sganio laser cydffocal wedi’i sefyldu o gwmpas stand gwrthdro microsgop (Leica DMIRE2). Mae gan y stand gwrthdro system fagwraeth Solent Scientific gyda rheolaeth tymheredd ar gyfer delweddu celloedd byw. Mae’r microsgop yn caniátau arsylwi epifflworoleuol a maes llachar.

Brand/model System gydffocal Leica TCS SP2 AOBS
Manylion Mae’r system SP2 yn cynnwys microsgop gwrthdro (Leica DMIRE2) gyda system reolaeth amgylcheddol Solent Scientific ar gyfer delweddu celloedd byw.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae gan y microsgop ystod o lensys gwrthrychol sy’n medru chwyddo delweddau rhwng 5x a 63x. Mae gan y system gydffocal SP2 7 llinell laser a 3 chanfodydd ffotoluosogydd sy’n cael eu rhedeg trwy feddalwedd Leica Confocal Software Suite. Mae’r feddalwedd yn cynnwys modiwlau ar gyfer ail-lunio ac animeiddio 3D/4D; sganio sbectrol, dadansoddi a meintoli cyd-leoleiddiad; dad-gymysgu sbectrol a llun-gannu (FRAP, FRET).

Lensys Gwrthrychol

  • HC PL Fluotar 5x/0.15
  • HC PL Fluotar 10x/0.30
  • HC PL Fluotar 20x/0.50
  • HCX PL APO 40x/1.25 olew
  • HCX PL APO 63x/1.40-0.60 olew

Laserau

  • Deuod 405nm (20mW)
  • Argon aml-linell: 458/476/488/514nm (100mW)
  • HeNe 594nm (1.5mW)
  • HeNe 633nm (10mW)

Canfodyddion

  • 3 ffotoluosogydd golau fflworoleuedd

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Leica TCSSP2 Confocal’

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch Dr Ewan Fowler:

Dr Ewan Fowler
E-bost: FowlerED@caerdydd.ac.uk
Ffon: +442920874105

I gael manylion am hyfforddiant, cysylltwch Dr Ewan Fowler:

Dr Ewan Fowler
E-bost: FowlerED@caerdydd.ac.uk
Ffon: +442920874105

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Yn ogystal, mae rhaid i ddefnyddwyr y microsgopau cydffocal sganio laser:

  1. Gael hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
  2. Darllen yr Asesiad Risg diweddaraf ar gyfer yr Hwb Bioddelweddu a’i ddeall
  3. Llenwi ffurflen Cofrestru Gweithiwr Laser (Registration of Laser Worker form)

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni’i gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Ewan Fowler

Email
fowlered@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4105

Lleoliad

BIOSI 3: 4.11
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu allan - i’r oriau hyn, bydd rhaid cael hawliau mynediad ar gerdyn.