Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop sganio laser cydffocal gyda gallu cyd-raniad tra-fanwl

Mae’r system Zeiss LSM880 Airyscan Fast yn ficrosgop cydffocal tra-fanwl newydd sbon (cydraniad 140nm ochrol a 400nm echelinol) sy’n sganio’n gyflym (18 ffrâm/eiliad ar 512 x 512 picsel sianel sengl, 5 ffrâm/eiliad ar 512 x 512 picsel sianel driphlyg).

Mae’n cynnwys Zeiss Axio Imager 2 unionsyth ac wedi’i fotoreiddio’n llawn gyda gwrthrychiaduron 10x, 20x, 40x a 63x (gweler isod) sy’n hwyluso microsgopeg epifflworoleuedd, maes llachar a chyferbyniad ymyrraethol wahaniaethol Nomarski.

Mae i’r stand unionsyth system fagwraeth Solent Scientific gyda rheolaeth tymheredd sy’n galluogi delweddu deunydd byw yn ogystal â deunydd biolegol, sefydlog wedi’i lafnu.

Mae gan y system LSM880 8 llinell laser ac ystod o chanfodyddion thra-sensitif gan gynnwys canfodydd Airyscan gyda modiwl Fast sy’n cael ei redeg trwy blatfform meddalwedd Zen 2 LSM.

Brand/model Microsgop cydffocal unionsyth Zeiss LSM880 gyda Airyscan
Manylion System gydffocal sganio cyflym diweddaraf, tra-fanwl ar gyfer delweddu sbectrosgopeg cydberthyniad fflworoloeuedd (FCS) a delweddu oes fflworoleuedd (FLIM).
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae’r meddalwedd yn cynnwys modiwlau ar gyfer ail-lunio ac animeiddio 3D/4D; sganio sbectrol, dadansoddi a meintoli cyd-leoleiddiad, dad-gymysgu sbectrol, teilio blaengar, sbectrosgopeg cydberthyniad fflworoleuedd (FCS) a llun-gannu (FRAP). Yn ogystal, mae’r system yn cynnig delweddu oes fflworoleuedd (FLIM) trwy fodiwl Picoquant.

Gwrthrychiaduron

  • Plan Neofluar 10x/0.3
  • Plan Apochromat 20x/0.8 aer
  • Plan Neofluar 40x/1.3 olew
  • C-Apochromat 40x/1.1 dwr
  • Plan-Apochromat 63x/1.4 olew
  • C-Apochromat 63x/1.2 dwr
  • Cyferbyniad ymyrraethol wahaniaethol ar wrthrychiaduron 20x, 40x, 63x

Mae gan y system LSM880 8 llinell laser ac ystod o ganfodyddion uwch-sensitif gan gynnwys modiwl canfod Airyscan sy’n cael eu rhedeg trwy blatfform meddalwedd Zen 2 LSM.

Laserau

  • Deuod 405nm ton ddi-dor
  • Deoud 440nm patrwm curiad
  • Deuod 483nm patrwm curiad
  • Argon aml-linell 458/488/514nm (25mW)
  • DPSS 561nm (20mW)
  • HeNe 594nm (5mW)
  • HeNe 633nm (2mW)

Canfodyddion

  • 2 x ffotoluosogydd
  • 1 x canfodydd arae GaAsP (32 sianel)
  • 2 x ganfodydd BiG ar gyfer cyfrif ffotonau
  • Canfodydd Airyscan gyda modiwl Fast
  • Canfodydd golau wedi’i drawsyrru

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – E/0.03 – Confocal Microscopy/Lightsheet’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@cardiff.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Uned, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Canllawiau i'r defnyddiwr

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Yn ogystal, mae rhaid i ddefnyddwyr y microsgopau cydffocal sganio laser:

  1. Gael hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
  2. Darllen yr Asesiad Risg diweddaraf ar gyfer yr Hwb Bioddelweddu a’i ddeall
  3. Llenwi ffurflen Cofrestru Gweithiwr Laser (Registration of Laser Worker form)

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni’i gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.03
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu allan i’r oriau hyn, bydd rhaid cael hawliau mynediad ar gerdyn – cysylltwch â Anthony Hayes (hayesaj@caerdydd.ac.uk) i drefnu.

Adnoddau