Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth

Dyluniwyd y gronfa ddata hon i'ch annog i rannu offer a chyfleusterau ymchwil yn y Brifysgol.

Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon, bydd mwy yn defnyddio'r offer a gellid sefydlu cydweithrediadau ymchwil newydd.

Ar y tudalennau hyn gall ymchwilwyr:

  • Chwilio am offer a chyfleusterau
  • Gweld manylion technegol yr offer
  • Cysylltu â pherchnogion yr offer yn uniongyrchol i drafod argaeledd yr offer ac os oes yna bosibilrwydd i gydweithio.

Ceisiadau am arian

Bydd yn rhaid i ymchwilwyr sy'n paratoi ceisiadau am arian allanol sy'n cynnwys cais am offer ymchwil newydd, gadarnhau nad yw'r offer hwn yn eiddo i'r Brifysgol eisoes.

Os bydd y Brifysgol yn berchen ar yr offer, bydd angen dangos nad oes yna ddigon o gapasiti neu nid oes modd addasu'r offer i'w ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil arfaethedig.

Gall ymchwilwyr ddefnyddio'r gronfa ddata hon i ddarganfod os oes offer ar gael yn y Brifysgol neu i gael tystiolaeth nad yw'n eiddo i'r sefydliad eisoes.

Cyfrannu

Os hoffech chi awgrymu eitemau neu gyfleusterau arall i'w cynnwys yn y gronfa, cysylltwch os gwelwch yn dda:

Offer ymchwil