Ewch i’r prif gynnwys

Adolygu a gwella blynyddol

Mae'r broses flynyddol o adolygu a gwella (ARE) yn rhoi’r cyfle i bob ysgol, coleg a phrifysgol oedi a myfyrio ar ein darpariaeth addysg - beth sydd wedi gweithio'n dda a pha newidiadau sydd angen eu rhoi ar waith?

Cydlynir y broses ar lefel coleg ac fe’i datblygir o gwmpas portffolio o dystiolaeth sy'n gysylltiedig â gofynion rheoleiddiol sylfaenol a gweithgareddau gwella sefydliadol. Mae ein dull diwygiedig yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

Mae'r broses yn defnyddio amrywiaeth o ddata sy'n sail i bob maes ffocws, gan eich galluogi i gael dull gweithredu strategol a lleol i adolygu a datblygu. Byddwch yn gallu trafod y data yr adeg mae'n dod ar gael gan roi'r cyfle i chi wneud argymhellion a gweithrediadau pan fydd yn cael y mwyaf o effaith.

Dyluniwyd y broses i gyfrif am faint a siâp pob ysgol - nid dull ‘un maint i bawb’ yw hwn. Mae'n bwysig o hyd eich bod yn myfyrio ar yr holl ddata, ond ni fydd angen i chi ddarparu cynlluniau gweithredu oni bai bod y data’n nodi bod y canlyniadau'n ffiniol neu’n is na’r meincnod yn unig.

Yn hytrach na llunio un adroddiad ARE ysgol bob blwyddyn, ail-luniwyd y broses er mwyn galluogi trafodaethau pan fydd y data'n dod ar gael. Mae hyn yn osgoi unrhyw achosion o ddyblygu ymdrechion a gellir rhoi trafodaethau canlyniadau ar waith heb orfod aros tan ddiwedd y cylch academaidd.

Mae'r meysydd ffocws ARE yn adlewyrchu'r materion nodweddiadol sy'n cael eu trafod ar lefel ysgol a bydd yn adlewyrchu'r cylch nodweddiadol o fusnes ar gyfer y Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, Byrddau Astudiaethau a Phwyllgorau Ymchwil Ôl-raddedig ysgol.

Mae Grŵp Goruchwylio Perfformiad Addysg (EPOG) wedi'i sefydlu gan y Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr i graffu canlyniadau arolwg myfyrwyr, nodi meysydd ar gyfer cefnogi a monitro gwell, ac adolygu cynlluniau gweithredu a'u cyflawni i wella profiad myfyrwyr.

Ar wahân i rôl EPOG wrth graffu ar ganlyniad arolwg myfyrwyr a chynlluniau gweithredu ysgolion islaw trothwy, mae'n ofynnol o hyd i ASQC gael sicrwydd gan y colegau bod pob ysgol wedi cytuno ar gynlluniau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd ar gyfer gwella sy'n deillio o drafodaethau ar feysydd ffocws ARE.

Meysydd ffocws

Caiff y meysydd ffocws eu hadolygu bob blwyddyn gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac mae cysylltiadau clir â gofynion rheoleiddiol allanol a gweithgaredd gwella sefydliadol.