Ewch i’r prif gynnwys

Ansawdd a safonau

Mae rheoli ansawdd yn disgrifio’r prosesau a ddefnyddiwn i sicrhau bod ein safonau’n cael eu cynnal a bod ansawdd y profiad addysgol a gaiff ein myfyrwyr yn cael ei gynnal a’i wella.

Ein fframwaith

Byddwn yn gwneud penderfyniadau ac yn monitro ein prosesau drwy bwyllgorau. Y Senedd yw prif awdurdod academaidd y Brifysgol. Dyma’r corff sy’n gyfrifol am reoleiddio a chyfarwyddo gwaith academaidd y Brifysgol.

Dan awdurdod ddirprwyedig y Senedd, mae gan nifer o bwyllgorau gyfrifoldeb dros agweddau ar reoli ansawdd a phrofiad dysgu myfyrwyr. Mae’r pwyllgorau sefydliadol hyn yn llywio busnes ar lefel y Colegau a’r Ysgolion.

Mae’r Tîm Ansawdd a Safonau yn rhoi cymorth a chanllawiau ar yr holl brosesau rheoli ansawdd. Mae Swyddogion Ansawdd Coleg ym mhob un o’r tri Choleg i sicrhau y rhoddir cymorth ac arweiniad, ac mae cyfrifolaeth a chymesuredd yn nodweddion blaenllaw yn yr holl brosesau gwneud penderfyniadau.

Ein dull reoli ansawdd

Mae ein prosesau ar gyfer rheoli ansawdd a safonau wedi'u nodi yn ein Rheoliadau Academaidd, a'r Polisïau a’r Gweithdrefnau ategol. Mae’r dogfennau hyn yn amlinellu ein disgwyliadau o ran y ddarpariaeth sylfaenol, ond maent hefyd yn annog cyfleoedd i ddatblygu a gwella arferion.

Mae ein dull o reoli ansawdd wedi’i ategu gan yr elfennau craidd canlynol:

Dibyniaeth ar egwyddorion academaidd cadarn wrth ddylunio a darparu dysgu ac addysgu cynhwysol.

Gall hyn olygu defnyddio ymchwil addysgol gyffredinol i gyflwyno’r achos dros dull penodol o ddysgu ac addysgu, neu gall fod ynghylch defnyddio ymchwil mewn disgyblaeth. Ceisia’r Brifysgol nodi’r fframwaith sefydliadol ar gyfer rheoli ansawdd, ond mae hefyd yn parchu gwahaniaethau disgyblaethol pan wneir achos a ategir yn dda.

Mae gennym Siarter Myfyrwyr sy’n nodi ymrwymiad ar y cyd y staff a’r myfyrwyr a’n disgwyliadau cyffredin. Un ohonynt yw cydnabod rôl myfyrwyr fel partneriaid sy’n cyfrannu at y gymuned academaidd.

Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn aelodau ar holl Bwyllgorau’r Brifysgol. Mae myfyrwyr hefyd yn rhoi adborth drwy holiaduron gwerthuso modiwl ac ystod o arolygon sefydliadol a chenedlaethol gan gyfrannu at nifer o brosesau rheoli ansawdd fel adolygiadau cyfnodol, adolygu a gwella blynyddol, cymeradwyo rhaglenni a digwyddiadau cymeradwyo darpariaeth academaidd.

Mae’r pwyslais ar lais gwybodus myfyrwyr drwy gynnwys myfyrwyr fel partneriaid academaidd i sicrhau bod ganddynt gyfleoedd i gyfrannu at lunio’u dysgu eu hunain.

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar adolygu gan gymheiriaid gan gydweithwyr mewn sefydliadau academaidd eraill, cyrff proffesiynol, diwydiant a masnach.

Mae’n hanfodol i’n dull o gynnal gwaith ymchwil, fel sefydliad ymchwil-ddwys, mae adolygu gan gymheiriaid hefyd yn ategu ein dysgu a’n haddysgu.

Fe’i defnyddiwn mewn sawl ffordd e.e. mewn arholiadau allanol, mewnbwn allanol i gymeradwyo a datblygu rhaglenni ac adolygu cyfnodol a thrwy achredu proffesiynol. Mae hefyd dulliau adolygu gan gymheiriaid mewnol sy’n galluogi trafodaeth ragweithiol ac anogaeth â chydweithwyr drwy’r Coleg/Ysgol neu bwyllgorau neu baneli sefydliadol.

Mae strategaeth y brifysgol yn amlinellu'r egwyddorion allweddol ar gyfer y ffordd rydym yn rhoi gweledigaeth ar waith, ac mae'n cynnwys 11 dangosyddion perfformion a fydd yn ein helpu ni i fesur ein cynnydd.

Mae ein strategaeth addysg yn seiliedig ar yr angen am gysondeb ac ystwythder yn y cyd-destun presennol sy'n newid yn gyflym. Mae'n seiliedig ar weledigaeth glir o'r hyn y mae profiad addysg a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig ac yn canolbwyntio ar feysydd allweddol, sef gweithgarwch, datblygiad a chryfder.

Adolygiadau polisi mawr, datblygu ein sicrwydd ansawdd yn barhaus ac mewn modd strwythuredig a pholisïau a phrosesau gwella.

Caiff y dewis o’r mentrau hyn yn aml ei lywio gan flaenoriaethau strategol y Brifysgol, datblygiadau cenedlaethol ac ymarfer newidiol yn y sector, ond gallai’r themâu posibl eraill ddeillio o ddeialog barhaus y Brifysgol â chynrychiolwyr myfyrwyr, canlyniadau prosesau rheoli ansawdd rheolaidd y Brifysgol ac ymarfer da a nodir ar lefel y Coleg/Ysgol.

Ymrwymiad i alinio sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd yn nulliau rheoli ansawdd ein rhaglenni.

Fel sefydliad gyda mecanweithiau sicrhau ansawdd aeddfed ac enw da cadarn am ansawdd profiad ei myfyrwyr, mae’r Brifysgol yn canolbwyntio ar roi strwythurau rheoli ansawdd ar waith sy'n cynnal safonau academaidd, ond hefyd yn pwysleisio'r broses o fyfyrio hunan-werthusol sy'n ategu gwella a datblygu parhaus.

Ystyr hyn yn ymarferol yw edrych ar y prif brosesau ar gyfer rheoli ansawdd ynghyd â’r elfennau sy’n pwysleisio sicrhau safonau sylfaenol. Mae yna bwyslais ar ddatblygiad a gwellhad parhaus bob amser.

Rydym yn ymrwymedig i brosesau rheoli ansawdd effeithlon ac effeithiol sy’n sicrhau bod y lefel uchaf posibl o adnoddau ar gael i barhau i sicrhau profiad dysgu cyffredinol rhagorol i fyfyrwyr. Cyflawnir hyn yn bennaf drwy ddull cymesur seiliedig ar risg o ymdrin â rheoli ansawdd.