Ewch i’r prif gynnwys

Ein polisi diogelu data

Mae'r Brifysgol yn cymryd ei chyfrifoldebau o ddifrif wrth brosesu'r data personol mae'n ei gasglu am ei staff, myfyrwyr a phobl eraill mae'n ymwneud â nhw.

Mae Prifysgol Caerdydd yn Rheolydd Data at ddibenion deddfwriaeth diogelu data ac yn gofrestredig gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Data personol yw unrhyw ddata y gellir ei ddefnyddio fel ffordd o adnabod unigolyn byw. Caiff prosesu data personol ei gwmpasu gan ddeddfwriaeth diogelu data sy'n cynnwys y Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu fframwaith i sicrhau bod sefydliadau'n prosesu data personol mewn modd agored a thryloyw gydag ystyriaeth ddyledus i hawliau a rhyddid unigolion.

Ein polisi diogelu data

Polisi diogelu data

Polisi diogelu data

Ein hysbysiadau preifatrwydd

I'ch helpu chi i ddeall sut y caiff eich data personol ei brosesu, yn ei hysbysiadau diogelu data rydym yn egluro

  • pa wybodaeth rydym yn ei dal
  • pam fod ei hangen
  • y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
  • i bwy y gellir trosglwyddo'r data hwnnw.

Gallwch weld hefyd sut caiff eich gwybodaeth ei sicrhau ac am ba mor hir y caiff ei chadw.

Eich hawliau diogelu data

Eich hawliau diogelu data

Os hoffech chi weld y data personol sydd gan Brifysgol Caerdydd amdanoch chi, gallwch wneud cais dan y Ddeddf Diogelu Data.

Hysbysiad diogelu data i staff

Hysbysiad diogelu data i staff

Yn ystod y broses recriwtio a thrwy gydol eich cyflogaeth gyda ni, bydd Prifysgol Caerdydd yn casglu, defnyddio a storio (h.y. prosesu) eich data personol.

Hysbysiad diogelu data i fyfyrwyr ac ymgeiswyr

Hysbysiad diogelu data i fyfyrwyr ac ymgeiswyr

Fel myfyriwr yng Nghaerdydd, bydd ychydig o'ch data personol yn cael ei storio a'i brosesu gan y Brifysgol.

Hysbysiad diogelu data ymholwyr a phartneriaid proffesiynol

Hysbysiad diogelu data ymholwyr a phartneriaid proffesiynol

Information about data protection when you apply for a programme of study at Cardiff University.

Hysbysiad diogelu data cyfranogwyr ymchwil

Hysbysiad diogelu data cyfranogwyr ymchwil

Mae’r hysbysiad diogelu data cyfranogwyr ymchwil yn nodi sut mae’r Brifysgol yn delio â data personol unigolion sy’n cymryd rhan mewn ymchwil.

Hysbysiadau diogelu data ar gyfer gweithgarwch penodol

Hysbysiadau diogelu data sy'n dweud wrthych sut rydym yn prosesu data personol ar gyfer gweithgareddau penodol y mae'r Brifysgol yn cymryd rhan ynddynt.

Eich hawliau

Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi’r hawl i chi weld pa wybodaeth mae sefydliad yn ei storio amdanoch a gwneud cais am gopïau ohoni yn ogystal â hawliau eraill mewn perthynas â phrosesu eich data personol.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn, ble gallent fod yn gymwys a sut i'w hymarfer yn eich hawliau diogelu data.

Swyddog diogelu data

Rhaid i'r Brifysgol gael swyddog diogelu data y gellir cysylltu â nhw os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, pryderon neu gwynion am y ffordd y caiff eich data personol ei brosesu. Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd yw Andrew Lane.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy ysgrifennu at:

Y Swyddog Diogelu Data
Cydymffurfiaeth a Risg, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol Caerdydd
Ty McKenzie
30-36 Heol Casnewydd 
Caerdydd
CF24 0DE

neu ar yr ebost isod

Gwasanaeth ceisiadau am wybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n gyfrifol am reoleiddio diogelu data yn y DU. Rydym ni'n gobeithio y gallwn ddatrys eich cwestiynau, ymholiadau neu bryderon ond os ydych chi'n dal yn anfodlon gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.