Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-dwyll

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal ein busnes mewn ffordd agored, foesegol a thryloyw.

Rydym wedi ymrwymo at ddefnydd cywir o gronfeydd, cyhoeddus a phreifat. O ganlyniad, mae’n angenrheidiol bod staff, myfyrwyr, aelodau o’r Cyngor neu Bwyllgorau a sefydlwyd gan y Cyngor, contractwyr a thrydydd partïon yn ymwybodol o berygl twyll, llygredd, dwyn a gweithgareddau eraill yn sy’n cynnwys anoestrwydd, ym mhob ffurf.

Mae ein Polisïau Gwrth-lwgrwobrwyo a Gwrth-dwyll yn gymwys i holl staff a phobl eraill yn gysylltiedig â’r Brifysgol. Mae’r polisïau yn gweithredu yng nghyd-destun Deddf Twyll 2006, a’r Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010, a’r holl ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r DU sy’n llywodraethu twyll, llwgrwobrwyo a llygredd.

Mae twyll yn cael ei ystyried i fod yn ymgais fwriadol i amddifadu’r Brifysgol (a’i weithgareddau cysylltiedig) o arian neu nwyddau. Mae ymgais o dwyll yn cael ei drin yr un mor ddifrifol â thwyll llwyddiannus.

Mae twyll yn cael ei rannu i dair prif adran:

  • Twyll drwy gynrychiolaeth ffug
  • Twyll drwy fethu â datgelu gwybodaeth; a
  • Twyll drwy gamddefnyddio safle

Mae’n gyfrifoldeb ar bawb yn gysylltiedig gyda’r Brifysgol i gydymffurfio gyda’r polisi hwn a rhoi gwybod am unrhyw amheuon o dwyll neu lygredd. Mae gennym bolisi ‘dim dial’ ar gyfer pobl yn rhoi gwybod am unrhyw amheuon, a gellir codi unrhyw bryderon os oes angen o dan Bolisi Chwythu’r Chwiban y Brifysgol.

Mae ein Polisi Gwrth-Lwgrwobrwyo yn gymwys i'n holl staff ac unrhyw berson arall yn gysylltiedig â'r Brifysgol. Mae'r Polisi yn gweithredu yng nghyd-destun Deddf Llwgrwobrwyo 2017, a holl deddfwriaeth cysylltiedig arall y DU sy'n llywodraethu llwgrwobrwyo a llygredd.

Diffinnir llwgrwobrwyo fel rhoi mantais i rywun, boed yn fantais ariannol neu fel arall, er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau neu ei weithgareddau mewn modd amhriodol, neu wobrwyo'r unigolyn o dan sylw wedi iddo ymddwyn fel hyn. Nid yw llwgrwobr yn gorfod bod yn arian parod ac nid oes rhaid iddi fod wedi'i derbyn; mae cynnig llwgrwobr neu ofyn am un yn ddigon i dorri'r Ddeddf.

Gall llwgrwobr gynnwys ceisio dylanwadu ar unigolyn sy'n gwneud penderfyniad drwy roi mantais ychwanegol iddo ar wahân i'r hyn y gellir ei gynnig yn gyfreithlon yn rhan o broses dendro. Gallai hefyd gynnwys rhoddion a gyflwynir i sefydliad a allai gael eu hystyried fel ymgais i ddwyn perswâd ar ymddiriedolwr neu swyddog i weithredu/penderfynu mewn ffordd benodol.

Ni fwriedir i'r Ddeddf effeithio ar letygarwch dilys na gwariant busnes tebyg, sy'n rhesymol ac yn gymesur. Mae rhwydd hynt o hyd i gyflwyno neu dderbyn treuliau ar gyfer lletygarwch, dibenion hyrwyddo neu wariant busnes arall yn unol â'r canllawiau yn ein Rheoliadau Ariannol.

Am gyngor pellach ac arweiniad ar y ddeddf Gwrth-Lwgrwobrwyo, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaeth Sicrwydd yn yr Adran Cynllunio Strategol a Llywodraethu.

Polisi Gwrth-Lwgrwobrwyo

Polisi Gwrth-Lwgrwibrwyo Prifysgol Caerdydd

Polisi Gwrth-Dwyll

Polisi Gwrth-Dwyll

Rhagor o wybodaeth

Am gyngor ac arweiniad pellach ar y Polisi Gwrth-lwgrwobrwyo, cysylltwch â:

Cydymffurfiaeth a Risg

Am gyngor ac arweiniad pellach ar y Polisi Gwrth-dwyll, cysylltwch â'r Ymgynghorydd Risg:

Laura Hallez