Ewch i’r prif gynnwys

Rheoliadau Academaidd

Pwrpas rheoliadau academaidd yw i sicrhau safonau academaidd ac i wneud yn siŵr bod ein holl fyfyrwyr yn cael eu trin mewn ffordd sy'n gyson ac yn deg.

Mae myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen gyda ni yn cytuno i gadw at ein rheoliadau a gweithdrefnau academaidd.

Rheoliadau academaidd 2023/2024

Yn amlinellu ein rheoliadau academaidd ar gyfer rhaglenni ac astudio, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.

Mae'r ddogfen hefyd yn amlinellu ein hymagwedd tuag at newid trefniadau rhaglenni a chyfleoedd ymchwil mewn amgylchiadau eithriadol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â newidiadau rhesymol y gallwn o bosibl eu gweithredu er mwyn darparu profiad cystal neu well i'n myfyrwyr.

Sylwch bod y rheoliadau academaidd yn destun i adolygiad blynyddol a byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw newidiadau fel y bo'n briodol.