Ewch i’r prif gynnwys

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gwybodaeth amgylcheddol

Cyn cyflwyno unrhyw gais am wybodaeth, rydym yn eich annog i wirio ein cynllun cyhoeddi i wneud yn siŵr nad yw'r wybodaeth eisoes ar gael i'r cyhoedd i arbed amser ac adnoddau.

Os yw eich cais am ddata ystadegol, ystyriwch gysylltu â HESA ac ymgynghori â'u gwefan sy'n cynnig cyfoeth o ddata ar staff a myfyrwyr, yn aml hyd at lefel sefydliadol. Os oes gwybodaeth ar gael drwy HESA, p'un a oes tâl ai dim, byddwn yn eich cyfeirio at eu hadnoddau.

Er mwyn i gais fod yn ddilys o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid iddo:

  • fod yn ysgrifenedig;
  • cynnwys eich enw a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth;
  • disgrifio'r wybodaeth rydych chi'n gofyn amdani.

Anfonwch ebost at geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol i inforequest@caerdydd.ac.uk.

Os nad yw'n glir o'ch gohebiaeth pa wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani, bydd angen i ni ofyn i chi am eglurhad, a gall hyn effeithio ar yr amserlen ar gyfer ymateb. Mae gwybodaeth am y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwneud cais dilys dan y Ddeddf ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwch ddisgwyl ymateb oddi wrthym cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais.

  • cadarnhau a ydym yn cadw'r wybodaeth a
  • naill ai rhoi copi neu grynodeb o'r wybodaeth neu ddweud wrthych pam mae'r wybodaeth wedi'i chadw'n ôl

Eithriadau

Mae sawl math ar wybodaeth y mae'r Brifysgol yn ei dal nad yw'n ofynnol i ni ei rhyddhau. Cyfeirir at y rhain fel eithriadau ac maent yn cynnwys:

  • data personol sy'n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
  • gwybodaeth sydd i'w chyhoeddi yn y dyfodol
  • gwybodaeth a fyddai'n niweidio buddiannau masnachol
  • manylion a gwybodaeth diogelwch a allai beryglu unrhyw berson
  • gwybodaeth a fyddai'n niweidio'r ffordd y rhedir materion cyhoeddus
  • gwybodaeth a gynhyrchwyd yn wreiddiol yn gyfrinachol ac sy'n dal i fod yn gyfrinachol yn gyfreithiol
  • gwybodaeth sydd ar gael yn ein cynllun cyhoeddi.

Mewn rhai achosion mae'n ofynnol i ni ystyried budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth a byddwn yn egluro hyn i chi yn ein hymateb. Lle mae'r Brifysgol yn gwrthod rhyddhau gwybodaeth wrth ymateb i gais byddwn yn nodi pa eithriad sy'n berthnasol ac fel arfer yn rhoi esboniad.  At hynny, mewn rhai amgylchiadau, ni fydd yn rhaid i ni gadarnhau na gwadu a oes gennym y wybodaeth y gofynnwyd amdani a bydd ein hymateb yn nodi ein rhesymau.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wrthod ceisiadau trallodus ac ailadroddus.

Mae rhestr lawn o eithriadau ar gael gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chostau a thaliadau

Gellir codi tâl lle mae costau atgynhyrchu'r wybodaeth ar y fformat y gofynnwyd amdano ac unrhyw ffioedd postio/cludwyr sy'n ofynnol yn gwneud cyfanswm o £10 neu ragor. Fel arfer ni chodir tâl am amser staff wrth ymateb i'r cais.

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth nid yw'n ofynnol i'r Brifysgol ymateb i geisiadau lle byddai'n costio dros £450 mewn amser staff i ni ddod o hyd i'r wybodaeth a'i hadalw.

Pe dewisem ymateb i gais o'r fath, byddai rhybudd ffioedd yn cael ei rhoi i'r sawl sy'n holi gan nodi'r costau a amcangyfrifir sydd ynghlwm wrth y cais. Pan fyddai'r ffi wedi cael ei chasglu'n unig y byddai'r gwaith yn mynd rhagddo. Os nad oedd y ffi wedi'i chasglu cyn pen 60 diwrnod gwaith byddir yn tybio bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Polisi Ffioedd Gwybodaeth.

Ceisiadau adolygu mewnol

Os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich cais, neu'r broses o ymdrin â'ch cais, gallwch gyflwyno cais ysgrifenedig am Adolygiad Mewnol i:

ebost: inforequest@caerdydd.ac.uk neu:

Pennaeth Cydymffurfio a Risg, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol Caerdydd
Tŷ McKenzie
30-36 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0DE

Dylid cyflwyno eich cyflwyniad ar gyfer Adolygiad Mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith i gyhoeddi ein hymateb cychwynnol i'ch cais. Rhowch eich cyfeirnod unigryw o'ch cais, gwybodaeth am pam eich bod yn anfodlon ac unrhyw fanylion yr hoffech i ni eu hystyried fel rhan o broses yr Adolygiad Mewnol.

Byddwn yn ceisio ymateb i'ch cais am Adolygiad Mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn disgwyl i'r adolygiad gymryd mwy nag 20 diwrnod a rhoi dyddiad disgwyliedig i chi i gael ymateb.

Os ydych yn anfodlon â'r canlyniad i'ch cais am Adolygiad Mewnol, mae gennych hawl i wneud cais i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF

Information charging policy (Cymraeg)

Diben y polisi hwn yw egluro'r darpariaethau deddfwriaethol ar godi ffioedd, dyrannu cyfrifoldebau a dyletswyddau'n fewnol a darparu fframwaith cyhoeddus i'r ffioedd sy'n debygol o godi.