Ewch i’r prif gynnwys

Cyflog yr Is-Ganghellor

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch cyflogau uwch aelodau’r staff, gan gynnwys yr Is-Ganghellor, ac rydym yn cyhoeddi’r rhain bob blwyddyn yn natganiadau ariannol y brifysgol.

Cyflog yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner yw £290,000 y flwyddyn.

Mae cyflog sylfaenol yr Is-ganghellor, a'r gymhareb cyflog sy'n deillio o hynny o ran cymedr cyflogau’r staff, wedi'i feincnodi yn unol â’r Grŵp Russell, lle mae'r cyflog sylfaenol cyfartalog oddeutu £370,000 y flwyddyn, gan gynnwys taliadau sy’n cymryd lle pensiynau.

Adolygiad o’r cyflogAdolygiad blynyddol o’r cyflog sylfaenol mewn perthynas â'r farchnad yn rhan o’r Adolygiad o Gyflogau Uwch Aelodau o Staff (SSR)
Dyfarniad Cyflog CenedlaetholYn berthnasol ac yr un fath ag ar gyfer staff eraill
Adolygu’r perfformiad bob dwy flyneddWedi'i gynnwys yn yr adolygiad o’r perfformiad yn yr Adolygiad o Gyflogau Uwch Aelodau o Staff (SSR) (bob 2 flynedd).
PensiwnYn berthnasol i’r sawl sy’n Aelod o Gynllun Pensiwn y Prifysgolion
Gofal iechyd preifatYn berthnasol, a'r teulu wedi'i gynnwys
LletyYn berthnasol
Lwfans adleoliLwfans di-dreth o £8,000 yn unol â’r trefniadau safonol ar gyfer Athrawon/ Uwch Aelodau eraill o’r Staff, ynghyd â lwfans adleoli rhyngwladol y mae Cadeirydd y Cyngor wedi cytuno arno
CarGellir defnyddio un o geir y Brifysgol sydd hefyd ar gael i’r sawl sy’n Aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol
Treuliau ar gyfer teithioDosbarth teithio a rheoliadau fel y rheini ar gyfer staff eraill
Manteision eraillDim
Cyfnod SabotholFel ar gyfer staff eraill
Taliadau ar gyfer cyfrifoldebau allanolHyn yn cael ei ystyried fesul achos a’i gymeradwyo gan Gadeirydd y Cyngor
Dyddiad dechrau01 Medi 2023
TymorAm gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd o 01/09/23 hyd at 31/08/28. Gellir ymestyn y cyfnod yn y swydd am gyfnod o 5 mlynedd hyd at 31/08/33, yn dilyn adolygiad gan yr Is-Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor ar ddiwedd mis Chwefror 2027 neu cyn hynny.

Pennwyd ar y pecyn tâl hwn yn ôl sawl ffactor gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • brofiad yr Is-Ganghellor yn y sector addysg uwch o ran arwain, rheoli, ac yn academaidd.
  • ystod eu cyfrifoldebau arwain dros un o brifysgolion mwyaf y DU, sy’n cynnwys 33,985 o fyfyrwyr a 5,945 o staff cyfwerth ag amser llawn; yn ogystal â chymuned fyd-eang o 205,000 o gynfyfyrwyr ar draws mwy na 200 o wledydd;
  • y cyfrifoldebau ariannol ar gyfer sefydliad sydd ag incwm blynyddol o dros £625 miliwn; ac sy'n cyfrannu mwy na £3.7 biliwn i economi'r DU, gan gynhyrchu £6.40 am bob £1 a wariwn ac sy'n cefnogi 1 o bob 135 o swyddi yng Nghymru

Y Pwyllgor Taliadau sy’n pennu ar gyflogau uwch aelodau’r staff a’r Is-Ganghellor. Mae’r Pwyllgor Taliadau yn rhan o Gyngor y Brifysgol, ei chorff llywodraethu; ymhlith aelodau’r cyngor mae aelodau allanol annibynnol, sydd â gwybodaeth ac arbenigedd masnachol ynghylch cyflogau’r sector cyhoeddus. Gellir gweld eu cylch gorchwyl yn ordiniannau’r brifysgol. Nid yw'r Is-Ganghellor yn bresennol ar gyfer trafodaethau a phenderfyniadau ynghylch eu tâl eu hunain ac nid oes ganddynt unrhyw ran ynddynt.