Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio mewnol

Rôl y tîm archwilio mewnol yw rhoi sicrwydd annibynnol i Uwch Reolwyr y Brifysgol a'r Cyngor bod trefniadau rheoli risg, llywodraethu a phrosesau rheolaeth fewnol y sefydliad yn gweithio'n effeithiol.

Archwilwyr mewnol yn ymdrin â materion sy'n sylfaenol bwysig i oroesiad a ffyniant sefydliad. Yn wahanol i archwilwyr allanol maen nhw'n edrych y tu hwnt i risgiau a datganiadau ariannol i ystyried materion mwy eang fel enw da'r sefydliad, twf, ei effaith ar yr amgylchedd, a'r modd mae'r sefydliad yn trin ei weithwyr.

Mae'r tîm archwilio mewnol yn gweithio gyda Chôd Ymarfer Archwilio CCAUC, a nodir yn y Côd Rheolaeth Ariannol a'r Safonau Rhyngwladol ar gyfer Ymarfer Archwilio yn Broffesiynol

Cynigir y gwasanaeth archwilio mewnol ym Mhrifysgol Caerdydd gan dîm mewnol yn bennaf, gyda chefnogaeth ychwanegol gan ddarparwr allanol ar gyfer meysydd arbenigol fel archwiliadau TG.

Cysylltwch a ni

Faye Lloyd

Uned Archwilio Mewnol ar y Cyd
Prifysgol Caerdydd
Friary House, 2il Lawr
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AE