Ewch i’r prif gynnwys

Gweld y casgliadau

Gall ymchwilwyr bona fide weld casgliadau’r Archifau Sefydliadol, drwy apwyntiad, yn Ystafell Seminar y Casgliad Arbennig sydd wedi ei leoli yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Bydd staff archif proffesiynol wrth law i’ch helpu chi i gael mynediad at y cofnodion.

Rhaid i drefniadau i weld cofnodion gael eu gwneud o leiaf wythnos ymlaen llaw drwy gysylltu â Rheolwr Cofnodion y Brifysgol.

Cyfyngiadau mynediad

Efallai y bydd mynediad at rai cofnodion wedi ei gyfyngu unol ag egwyddorion diogelu data.

Llungopïo

Gellir darparu cyfleusterau llungopïo ar gyfer ymchwilwyr. Er budd diogelwch a chadw’r casgliadau mewn cyflwr da, mae’r holl waith copïo yn cael ei wneud gan staff yr is-adran Llywodraethu a Chydymffurfio.

Nid yw pob casgliad yn addas ar gyfer pob math o gopïo, ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod gwasanaethau lle bydd y broses yn achosi difrod.

Yn ogystal, dim ond os ydyn nhw yn unol â chyfraith hawlfraint gyfredol y Deyrnas Unedig y gellir prosesu archebion copïo.