Ewch i’r prif gynnwys

Archif Sefydliadol

Mae ein Harchif Sefydliadol yn casglu cofnodion a grëwyd gan Brifysgol Caerdydd neu sy’n ymwneud â’r Brifysgol er mwyn cadw cof corfforaethol y Brifysgol yn barhaol a’i wneud yn hygyrch.

Mae Casgliadau’r Archifau Sefydliadol yn cynnwys cofnodion Prifysgol Caerdydd a’i ragflaenwyr, gan gynnwys:

  • Coleg y Brifysgol, Caerdydd (Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, gynt)
  • Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru
  • Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.

Mae’r casgliadau yn cynnwys llyfrau llythyrau, ffotograffau, toriadau papur newydd, gweithredoedd, siarteri, llyfrau cofnodion, cynlluniau, cyfrifon, ffeiliau a chyhoeddiadau swyddogol fel prosbectysau a rhaglenni.

Mae gan yr Archif nod hirdymor i gwrdd â Safonau’r Archifau Cenedlaethol ar gyfer Storfeydd Cofnodion ac Archifau

Polisi Caffael

Y Polisi Sefydliadol ynghylch Caffael yr Archif

Pwrpas y polisi yw disgrifio’r categorïau o gofnodion a fydd yn cael eu casglu a’u cadw gan yr Archif Sefydliadol.