Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth ariannol

Cadwodd y Brifysgol ddiffyg gweithredu sylfaenol o £12.7m yn 2022/23, cyn y newid yn narpariaeth pensiynau cynllun USS.

Yn 2022/23 cynyddodd cyfanswm ein hincwm i £636m, i fyny o £634m yn 2021/22. Ein gwariant oedd £639m gan gynnwys credydau cronfeydd pensiwn nad yw'n arian parod o £10m.

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2023

Y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023.

Diffyg sylfaenol

Graff bariau sy’n dangos dadansoddiad o ddiffyg gwaelodol y Brifysgol, sef cyfanswm o 12.7 miliwn o bunnoedd. Mae'n dangos costau gweithredu sy'n cynnwys gwariant net o 639 miliwn o bunnoedd, gan ychwanegu credydau cronfa bensiwn nad yw’n arian parod o 10 miliwn o bunnoedd, sef cyfanswm y costau sylfaenol o 649 miliwn o bunnoedd. Mae hefyd yn dangos incwm o 636 miliwn o bunnoedd.
Zoom inEhangu'r llun
Costau gweithredu(£m)
Gwariant639
Ychwanegu credydau cronfa bensiwn nad ydynt yn arian parod10
Costau Gweithredu Sylfaenol649
Incwm636
Costau Gweithredu Sylfaenol-649
Diffyg sylfaenol-13

Cynhyrchwyd gennym £30m o arian parod yn sgil gweithgareddau gweithredu, gan fuddsoddi £57m i gaffael adeiladau a chyfarpar i staff a myfyrwyr.

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod

Graff bariau sy’n dangos symudiadau yn arian parod y Brifysgol a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn 2022/2023. Y swm ar ddechrau’r flwyddyn oedd £96.4m, cynhyrchwyd 30.3m yn sgil gweithgareddau gweithredu, buddsoddwyd £76.2m a gwariwyd 13.9m ar ariannu.
Zoom inEhangu'r llun
(£m)
Arian parod cychwynnol96.4
Gweithgareddau gweithredu30.3
Buddsoddiad (gweler isod)-76.2
Cyllido-13.9
Arian parod terfynol36.6

Buddsoddiadau

Graff bariau sy’n dangos sut y buddsoddodd y Brifysgol ei harian rhwng 2022 a 2023, gan wario 33.5 miliwn ar dir ac adeiladau, 23 miliwn ar gyfarpar a 19.7 miliwn ar fuddsoddiadau eraill. Y cyfanswm yw 76.2 miliwn o bunnoedd.
Zoom inEhangu'r llun
Gweithgareddau buddsoddi£m
Buddsoddiad mewn tir ac adeiladau33.5
Buddsoddiad mewn cyfarpar23.0
Buddsoddiadau eraill19.7
Cynfanswm76.2

Buddsoddiad mewn Adeiladau

Graff bariau sy’n dangos dadansoddiad o fuddsoddiad y Brifysgol o 33.5 miliwn mewn adeiladau, sef gwariant o 7.42 miliwn ar y Ganolfan Ymchwil Drosi, 8.79 miliwn ar adleoli gofal iechyd a 17.2 miliwn ar fuddsoddi mewn adeiladau eraill.
Zoom inEhangu'r llun
Buddsoddiad mewn Adeiladau£m
Y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH)7.42
Adleoli gofal iechyd8.79
Buddsoddiad mewn adeiladau eraill8.79
Cyfanswm33.50

Buddsoddiad mewn cyfarpar

Graff bariau sy’n dangos dadansoddiad o fuddsoddiad 23 miliwn o bunnoedd y Brifysgol mewn cyfarpar, sef gwariant o 9.49 miliwn ar gyfarpar ymchwil, 5.36 miliwn ar gyfrifiaduron ac 8.15 ar fuddsoddiadau eraill.
Zoom inEhangu'r llun
Buddsoddiad mewn cyfarpar£m
Cyfarpar ymchwil9.49
Cyfrifiaduron5.36
Cyfarpar arall8.15
Cyfanswm23.00

Parhaodd y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023 i’n herio, o ystyried bod heriau economaidd newydd wedi cyrraedd lefelau chwyddiant nas gwelwyd ers yr 1980au, yn enwedig mewn perthynas â chostau ynni.

Cafwyd colledion yng ngwerth ein portffolio buddsoddi ond arweiniodd cyfraddau llog uwch at newidiadau cadarnhaol yn ein rhwymedigaeth o ran pensiynau.

Roedd her chwyddiant yn golygu bod effaith wedi bod ar staff a myfyrwyr fel ei gilydd, ac aethom ati i gynnig cymorth gan wneud (ymhlith pethau eraill) taliadau unwaith ac am byth, dyfarniadau cyflog carlam, a rhagor o daliadau caledi i fyfyrwyr.

Bu gostyngiad hefyd yn incwm y ffioedd dysgu, a hynny’n bennaf o ganlyniad i beidio â chyflawni ein targedau recriwtio tramor, elfen a gafodd ei gwrthbwyso gan gynnydd mewn incwm ymchwil.

O ble y daw ein harian

Cawsom 4.0% yn llai na'r llynedd yn y ffioedd dysgu a chontractau addysg, a chafodd hyn ei wrthbwyso gan ymchwil ac incwm uwch yn ymwneud â gwasanaethau masnachol. Parhaodd y gweithgarwch ymchwil i dyfu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan greu £134 miliwn o incwm.

Cyfanswm yr incwm

Siart gylch sy’n dangos tarddiad cyfanswm incwm y Brifysgol, sef 636 miliwn o bunnoedd. Daw 1.4 miliwn o bunnoedd o roddion a gwaddolion, daw 310.6 miliwn o bunnoedd o ffioedd dysgu a chontractau addysg, 90.2 miliwn o grantiau cyrff cyllido, 113.6 miliwn o grantiau cyrff cyllido, 133.6 miliwn o bunnoedd o grantiau a chontractau ymchwil, 90.9 miliwn o incwm arall a 9.7 miliwn o bunnoedd o incwm buddsoddi.
Zoom inEhangu'r llun
Cyfanswm yr Incwm£m
Ffioedd dysgu a chontractau addysg310.6
Grantiau cyrff cyllido90.2
Grantiau a chontractau ymchwil133.6
Incwm arall90.9
Incwm yn sgil buddsoddiad9.7
Rhoddion a gwaddolion1.4
Cynfanswm636.4

Yr hyn rydym yn gwario ein harian arno

Yn 2022/23, gwariasom £639m o’i gymharu â £607m y flwyddyn flaenorol. Cafwyd cynnydd o £32m, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn gwariant ar eiddo a gwariant academaidd.

Ar gyfartaledd, cynyddodd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn 3%, a hynny’n bennaf mewn meysydd academaidd wrth inni ymdrechu i wella profiad y myfyriwr a chyflawni ein hymrwymiadau ymchwil. Roedd costau staff ar sail cyfran o’r incwm yn cyfateb i 57.1%, sef cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (54.2%).

Cynyddodd y treuliau gweithredu £13.4m i £226.3 miliwn yn ystod y flwyddyn. Rydym yn buddsoddi ymhellach yn y gwaith o gefnogi staff a myfyrwyr yn ogystal â sicrhau campws diogel tra bod amrywolion Covid-19 yn dal i gylchredeg ym mhoblogaeth y DU yn gyffredinol.

Cyfanswm y gwariant

Graff bariau sy’n dangos yr hyn y gwariodd y Brifysgol ei harian arno yn 2022-2023. Mae’n dangos cyfanswm gwariant o 639 miliwn o bunnoedd. Gwariwyd 304 miliwn o’r swm hwn ar wariant academaidd a chysylltiedig, 91 miliwn ar ymchwil, 81 miliwn ar safleoedd, 77 miliwn ar wasanaethau gweinyddol a chanolog, 66 miliwn ar wasanaethau eraill, ac 20 miliwn ar breswylfeydd, arlwyo a chynadleddau.
Zoom inEhangu'r llun

Gwnaethom agor y Ganolfan Ymchwil Drosi yn swyddogol ym mis Mai. Diben craidd y Ganolfan hon yw darparu ymchwil wyddonol sy'n cael ei throi'n gyflym yn gynnyrch a phrosesau newydd sydd o fudd i’r gymdeithas.

Bydd y Ganolfan hefyd yn creu swyddi o safon i raddedigion ac yn rhoi hwb i dwf economaidd yn ein rhanbarth.