Ewch i’r prif gynnwys

Pwyllgorau

Manylion pwyllgorau’r brifysgol, eu haelodau, amserlen o gyfarfodydd 2023/24 a chofnodion y tair blynedd academaidd ddiwethaf.

Pwyllgorau a chysylltiadau

Mae'r tîm Llywodraethu Corfforaethol yn gwasanaethu'r cyfarfodydd pwyllgor allweddol ar draws y brifysgol. Er mwyn dysgu rhagor am bwyllgorau’r brifysgol neu os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â phwyllgorau, cysylltwch â thîm Cefnogi Pwyllgorau:

Cefnogi pwyllgorau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, y corff ymgynghorol i’r Llywydd a’r Is-Ganghellor, cysylltwch â Tom Hay:

Tom Hay

Vice-Chancellor's Office

Aelodaeth o bwyllgorau

I ddarganfod pwy sydd ym mhwyllgorau'r brifysgol, , lawrlwythwch ein rhestr aelodaeth. Mae'r ddogfen hon hefyd yn cynnwys ein strwythur pwyllgorau cyffredinol.

Gall aelodaeth newid yn aml, felly cysylltwch â Chefnogi Pwyllgorau os oes gennych gwestiynau am y rhestr hon.

Cofnodion y pwyllgorau

Rydym yn cyhoeddi cofnodion pwyllgorau’r flwyddyn bresennol a’r tair blwyddyn academaidd flaenorol yn unol â chyfansoddiad a Chynllun Cyhoeddi’r brifysgol. Os oes angen cofnodion nad ydynt wedi’u rhestru yma, cysylltwch â’r tîm Cefnogi Pwyllgorau:

Calendr pwyllgorau

I weld beth sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, gweler ein calendr pwyllgorau sy'n rhestru'r holl gyfarfodydd sydd i ddod.

Cyflwyno papur i Bwyllgor

Cysylltwch â Chefnogi Pwyllgorau os hoffech chi gyflwyno papur i’w gynnwys mewn cyfarfod o’r Pwyllgor. Sylwch fod agendâu yn cael eu cytuno tua saith wythnos cyn cyfarfod o bwyllgor, a bydd angen cytundeb y Cadeirydd i ychwanegu papur ar ôl y cyfnod hwnnw.

Mae’n rhaid cyflwyno papurau ar gyfer pwyllgorau i committees@caerdydd.ac.uk erbyn hanner dydd ar y dyddiad bythefnos cyn y cyfarfod (e.e. ar gyfer cyfarfod a gynhelir ar 16 Mehefin, byddai rhaid cyflwyno’r papur erbyn 12:00pm ar 2 Mehefin).

Mae angen i unrhyw bapurau a gyflwynir gynnwys tudalen glawr. Caiff rhif ei roi i’r papur ar ôl ei dderbyn, ond bydd rhaid i awdur y papur lenwi gweddill y dudalen glawr. Gwnewch yn siŵr fod yr unigolyn/unigolion sy’n cyflwyno’r papur i bwyllgor wedi cymeradwyo’r papur.

Dod i Gyfarfodydd

Mae’n bosibl dod o hyd i wybodaeth benodol am hygyrchedd ystafelloedd cyfarfod Prifysgol Caerdydd yn y wybodaeth am hygyrchedd adeiladau. Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, neu fynediad nad ydym yn ymdrin â nhw yn y wybodaeth uchod, cysylltwch â’r tîm cyn gynted ag y bo modd.