Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Careers Psychology student

Mae astudio seicoleg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Bydd gradd mewn seicoleg yn apelio at lawer o ddarpar gyflogwyr am ei bod yn dynodi addysg prifysgol sy’n datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae 92% o’n graddedigion mewn swydd neu’n gwneud astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio, sy’n dangos pa mor gryf yw ein rhaglenni gradd.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Rydym yn cynnig sesiynau rheoli gyrfaoedd a sgyrsiau cyffredinol am yrfaoedd ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf bob blwyddyn. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynd i gyrsiau a gymeradwywyd gan y Brifysgol sy’n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd ac Undeb y Myfyrwyr, sy’n canolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy.

Llwybrau gyrfa ym maes Seicoleg

Gall gradd mewn seicoleg roi amrywiaeth o opsiynau i chi o ran gyrfa, ac mae mwy a mwy o Seicolegwyr yn cael eu cyflogi yn fwy eang yn y gwasanaeth addysg, cymdeithasol ac iechyd.

Rydym wedi llunio rhestr i chi o’r llwybrau gyrfa posibl sydd ar gael gyda gradd mewn Seicoleg, ac mae fideo YouTube yn cyd-fynd â rhai swyddi penodol er mwyn rhoi cipolwg gwell i chi o’r maes penodol hwnnw.

Mae’r rolau swyddi yn cynnwys: