Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn un o ganolfannau seicoleg mwyaf y DU ac yn cynnig amgylchedd ysgogol a gwerth chweil i weithio ac astudio ynddo.

Rydym wedi'n lleoli yng nghanol Caerdydd, sy'n brifddinas fywiog sy’n tyfu, gyda harddwch naturiol eithriadol o’i chwmpas. Ein Hysgol ni yw un o'r mwyaf yn y DU ac fe'i gosodwyd yn 9fed am Seicoleg yn y Complete University Guide 2024.

Rydym ni wedi ein sefydlu ers tro byd ac mae gennym lawer o adnoddau ac enw da o fri rhyngwladol. Mae ein maint a'n graddfa yn golygu fod yr addysgu a'r ymchwil yn cwmpasu ehangder llawn seicoleg ac rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd israddedig, ôl-raddedig a hyfforddiant.

Sgan MRI yn CUBRIC
Ymchwil niwroddelweddu yn ein labordy MRI

Ein gwaith ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil sy’n flaenllaw yn rhyngwladol yn datblygu gwybodaeth ac yn gwella ansawdd bywyd trwy lywio polisi cyhoeddus a gwella canlyniadau i iechyd.

O ymchwil arobryn ar benderfyniadau gan ddiffoddwyr tân a arweiniodd at newid polisi cenedlaethol, ymchwil o'r radd flaenaf sy'n llywio polisi amgylcheddol a hinsawdd, i gynhyrchu'r delweddau mwyaf manwl o'r ymennydd, ategir ein hymchwil eang drwy ganolfannau ymchwil, partneriaethau amlddisgyblaethol a chydweithio cryf gyda defnyddwyr, diwydiant, y GIG, elusennau a'r cyhoedd.

About us
Tiwtorial seicoleg israddedig.

Ein haddysgu

Rydym yn addysgu cyrsiau israddedig, MSc a doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn ogystal â hyfforddi cymuned gref o fyfyrwyr PhD. Ar bob lefel, gall myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau gwaith proffesiynol gydag ystod eang o bartneriaid.

Dyfarnwyd dosbarthiad Arian i addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) diweddaraf, sy'n golygu ein bod yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau o ansawdd uchel i'n myfyrwyr. Rydym yn sgorio'n uchel yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS), gyda sgôr boddhad myfyrwyr o 86% ar gyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf (2017 — 2021).

Ein hamgylchedd gwaith

Mae gennym agwedd gynhwysol at fywyd academaidd, a byddwn yn eich cefnogi'n llawn i gyflawni eich nodau academaidd a'ch dyheadau o ran gyrfa. Mae gennym gymuned fywiog a rhyngwladol o fyfyrwyr a staff sy'n sylfaen i'n llwyddiant. Ym mha bynnag gapasiti y gallech chi ymuno â ni, gallwch fod yn sicr y byddwn yn darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i chi ynghyd â'r cyfle i gyflawni eich potensial llawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn ymdrechu i ddangos yr arferion gorau ym mhob un o’n gweithgareddau.

Ein lleoliadau

Byddwch yn cael eich lleoli mewn un o bedwar lleoliad. Mae gan bob un o’n hadeiladau gyfleusterau gwych a phwrpasol ar gyfer meysydd penodol o seicoleg – gyda phob un o fewn pellter cerdded rhwydd i’w gilydd.

Adeilad y Tŵr yw ein prif ganolfan seicoleg, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol campws Parc Cathays
Adeilad y Tŵr yw ein prif ganolfan seicoleg ac mae wedi'i leoli yng nghanol campws Parc Cathays.

Adeilad y Tŵr

Mae ein prif ganolfan seicoleg sydd yng nghanol campws Parc Cathays yn cynnwys amrywiol fannau ar gyfer addysgu, ymchwil a labordy. Dyma lle mae'r rhan fwyaf o'r addysgu ac ymchwil israddedig ac ôl-raddedig yn digwydd. Mae hefyd yn gartref i'n canolfan ymchwil deallusrwydd artiffisial a roboteg, IROHMS, a thimau’r graddau proffesiynol mewn seicoleg (Seicoleg GlinigolTherapïau Gwybyddol Ymddygiadol)

CUCHDS
Cardiff University Centre for Human Developmental Science (CUCHDS)

Canolfan Gwyddorau Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS)

CUCHDS yw ein cyfleuster datblygiadol pwrpasol ac mae i'w ganfod drws nesaf i Adeilad y Tŵr. Mae'r cyfleuster datblygiadol pwrpasol hwn yn cynnwys gofod labordy wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y myfyrwyr hynny ar y cwrs MSc mewn Anhwylderau Seicolegol Plant, y cwrs Doethuriaeth Seicoleg Addysgol a'n myfyrwyr ymchwil datblygiadol.

Climate Change and Social Transformations in the Social Science Research Park video

Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK)

Mae ein Canolfan ESRC ar Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST) werth £5 miliwn yn rhan o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf yn y byd, sy'n dod ag ymchwilwyr ar draws y gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd mewn amgylchedd pwrpasol i gynhyrchu gwybodaeth newydd a datblygu datrysiadau newydd i broblemau cymdeithasol mawr.

Cardiff University Brain Research Imaging Centre (CUBRIC) video

Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Mae ein cyfleuster delweddu'r ymennydd werth £44 miliwn yn cynnig amgylchedd ardderchog i staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n dymuno gwneud ymchwil mewn niwrowyddoniaeth. Yn CUBRIC ceir amrywiaeth eang o gyfleusterau delweddu datblygedig, gan gynnwys un o sganwyr yr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop.