Ewch i’r prif gynnwys

Arwain a rheoli yn y sector cyhoeddus yn Tsieina

Rhaglen ddwys, rhyngweithiol, pythefnos o hyd ar gyfer mynychwyr o Tsieina, a ddarparwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd gyda chyfraniadau gan brifysgolion eraill o Gymru.

Cynrychiolwyr o Tsieina yn ymweld ag Ysgol Busnes Caerdydd
Cynrychiolwyr o Tsieina yn ymweld ag Ysgol Busnes Caerdydd 10 Tachwedd 2015

Mae Chengdu Administration Institute yn adran israddol o lywodraeth drefol Chengdu, a’i dasg yw hyfforddi gweision llywodraeth trefol a gweision sifil dinas elfennol. Mae’r sefydliad yn rhoi pwysigrwydd mawr ar addysgu a gwaith ymchwil gydag athrawon dethol yn cael eu hanfon dramor ar gyfer hyfforddiant a chyfnewid academaidd rhyngwladol bob blwyddyn.

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Roedd y rhaglen yn defnyddio ymchwil ac arbenigedd Ysgol Busnes Caerdydd mewn arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector cyhoeddus yn y DU, gyda ffocws penodol ar rai o’r heriau a’r blaenoriaethau a wynebir, a sut y gellir defnyddio’r rhain mewn cyd-destun Tsieinëaidd.

Yn ogystal â’r ddarpariaeth ffurfiol, trefnwyd cyfres o giniawa rhwydweithio ac ymweliadau ymarferol i wella profiad personol a phroffesiynol y mynychwyr tra yng Nghymru.

Darpariaeth gydweithredol

Darparwyd y rhaglen ar y cyd rhwng Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn manteisio i’r eithaf ar y sesiynau, cyflwynwyd yr addysgu yn ddwyieithog yn Saesneg a Tsieinëeg.

Adborth rhagorol

Roedd ymateb i’r rhaglen yn gadarnhaol iawn. Roedd cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi elwa ar y safbwyntiau gwahanol a gynigiwyd gan y cydweithredu, a bod yr arddulliau dysgu ac addysgu amrywiol a rhyngweithiol wedi gwella’r profiad.