Ewch i’r prif gynnwys

Newport Wafer Fab Ltd

Mae academyddion o'n Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi cynnal cwrs byr 10 gwaith i 80 o staff yn Newport Wafer Fab Ltd.

Roedd yr hyfforddiant yn caniatáu i staff o bob rhan o'r sefydliad wella eu dealltwriaeth o electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac o gynhyrchu ffotoneg.

Mae Newport Wafer Fab yn rhagori mewn saernïo wafferi silicon (h.y. lled-ddarglududd), a hefyd yn ganolfan ddatblygu ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd a chynhyrchu ffotoneg.

Comisiynwyd yr hyfforddiant hwn i roi trosolwg i'w weithwyr o electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a ffotoneg, er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o'r modd y gellid integreiddio'r technolegau hyn yn llwyddiannus â phrosesau presennol y sefydliad.

Creu rhaglen hyfforddi bwrpasol

Yn ystod y misoedd cyn y cwrs, ymwelodd academyddion o'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd â 'Fab' y cwmni (amgylchedd ystafell lân dosbarth 1) a chyfarfod â rheolwyr adrannau amrywiol, er mwyn deall eu rolau o ddydd i ddydd a'r hyn sydd ei angen arnynt ar gyfer y cwrs. Helpodd ein staff o'r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i hwyluso hyn am ein bod wedi sefydlu perthnasoedd gydag academyddion a staff addysgu'r Brifysgol.

Yn ogystal, rhoesom gefnogaeth rheoli prosiect a chefnogaeth weinyddol.

Cynnwys y cwrs

Roedd y cwrs undydd hwn yn cynnwys tair prif sesiwn.

Sesiwn un

Trosolwg o arbenigedd presennol Newport Wafer Fab a gweithdrefnau cynhyrchu cyfredol, wedi'i gynnal gan uwch-beirianwyr y cwmni.

Sesiwn dau

Cyflwyniad i broses gynhyrchu electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi'i gynnal gan uwch-academydd o Ysgol Peirianneg Caerdydd. Cynnwys y sesiwn:

  • Y diffiniad o led-ddargludydd cyfansawdd,
  • Sut mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn wahanol i silicon (h.y. deunydd lled-ddargludyddol),
  • Y gwahanol fathau o ddeunyddiau lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd ar gael, eu manteision, eu priodweddau a sut mae pob un ohonynt yn perfformio mewn cylchedau electronig integredig,
  • Y defnydd o wahanol ddeunyddiau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y farchnad,
  • Y cyfleoedd, yr heriau a'r risgiau yn sgîl cyflwyno deunydd lled-ddargludyddion cyfansawdd i Newport Wafer Fab a'u prosesau cynhyrchu electronig presennol.

Sesiwn tri

Cyflwyniad i broses gynhyrchu ffotoneg, wedi'i gynnal gan ddarlithydd profiadol yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd. Roedd y sesiwn hon yn cwmpasu'r canlynol:

  • Beth yw silicon ffotoneg?
  • Beth yw'r cymwysiadau presennol ar gyfer y farchnad, a pha gyfleoedd fydd ar gael yn y dyfodol ar gyfer ffotoneg silicon?
  • Pam defnyddio silicon fel deunydd ffotoneg a beth yw ei fanteision ac anfanteision?
  • Deall dulliau goddefol o'u cymharu â gweithgareddau yn y broses ffotoneg silicon
  • Beth yw blociau adeiladu ffotoneg silicon, gan gynnwys: canllawiau tonnau, cyplyddion gratio, cyseinydd, hidlyddion, a switshis a throsiaduron?

Diolch i Brifysgol Caerdydd am gynnal hwn yn ardderchog. Mae'r rheini oedd yn bresennol wedi dweud wrthyf mai hwn yw un o'r cyrsiau technegol gorau iddynt fynd iddo. Mae lefel y wybodaeth a'r cyflymder yn dda, ac mae'r mynegiant yn hamddenol. Mae staff yn teimlo'n gyfforddus i ofyn cwestiynau a mwynhau'r diwrnod.

Joanne Daniels Partner Busnes Dysgu a Datblygu, Newport Wafer Fab Ltd

Ynghylch Newport Wafer Fab Ltd

Newport Wafer Fab Ltd yw canolfan lled-ddargludyddion mwyaf y DU, sy'n gwneud tua 8,000 o wafferi bob wythnos. Silicon yw ei sylfaen; maent yn cymryd wafferi silicon ac yn eu datblygu'n gynnyrch wafferi ar gyfer amrywiaeth o sectorau, fel y diwydiannau moduro, meddygol, diwydiannol a defnyddwyr. Maent yn arbenigwyr mewn cynhyrchion MOSFET pŵer, a ddefnyddir yn eang mewn cyfleusterau switsio. Newport Wafer Fab hefyd yw ffowndri cyntaf y byd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd wyth modfedd ar sglodyn silicon, ac mae'n ganolfan ddatblygu ar gyfer cynnyrch cyfansawdd ar silicon ac ar gyfer ffotoneg. Mae'n aelod o CS Connected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd.

Ynghylch y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS)

Mae'r Sefydliad yn Gyfleuster Cynhyrchu Mynediad Agored lle mae'n rhaid talu i'w ddefnyddio, a bwriedir iddo fod ar gyfer ymchwil Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae ganddo academyddion cyswllt yn Ysgol Peirianneg Caerdydd ac Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd fel ei gilydd, ac yn canolbwyntio ar ddeunydd Lled-ddargludyddion ac ymchwil i ddyfeisiau. Fel rhan o'r Clwstwr Lled-ddargludyddion, ei nod yw creu canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesedd technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Ar hyn o bryd mae'r Sefydliad yn cynnal ymchwil ar ddatblygu technoleg y genhedlaeth nesaf sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer rhwydweithiau ffôn symudol 5G a 6G, cylchedau integredig ffotoneg ar gyfer cymwysiadau e.e. cyfathrebiadau data a LiDAR, y defnydd o synwyryddion ym maes gofal iechyd a chymwysiadau ynni, a datblygu systemau radar uwch (ymhlith defnyddiau eraill). Mae'n bartner craidd yn CS Connected. Bydd canolfan arloesol yn gartref i'r Sefydliad, a bydd yn rhan o Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd.

Mae buddsoddi yn sgiliau pobl yn hanfodol o ran twf y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd yma yn Ne Cymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Newport Wafer Fab ar nifer o lefelau, a'm gobaith yw y bydd hwn yn ddechrau partneriaeth hir a chynhyrchiol.

Yr Athro Peter Smowton Cyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Gwaith arall ar y cyd rhwng y Brifysgol a Newport Wafer Fab Ltd

Mae cwrs byr hwn wedi arwain at weithgareddau cydweithredol eraill rhwng y ddau sefydliad. Mae Newport Wafer Fab wedi cytuno i ariannu tri myfyriwr PhD ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20. Mae’n rhoi cefnogaeth barhaus i'r Brifysgol o ran cyfleoedd hyfforddi ar gyfer myfyrwyr MSc a PhD, ac yng nghais llwyddiannus y Brifysgol yn ddiweddar am Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) a ariennir gan yr EPSRC mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Mae Newport Wafer Fab yn gweithio gydag Ysgol Peirianneg Caerdydd ac Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd i gynnal gweithgareddau lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf, yn ogystal â theithiau tywys o amgylch eu Fab. Mae'r cwmni hefyd yn bwriadu gweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd, fydd yn datblygu rhaglen arweiniad newydd, a'i chynnal ar gyfer uwch-aelodau o'i staff.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi drafod cyfleoedd hyfforddi pwrpasol ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar. Rydym yn gweithredu fel porth i fusnesau gysylltu ag arbenigedd academaidd ar draws y Brifysgol, a gallwn weithio gyda chi i greu rhaglen sy'n gweithio i chi.

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus