Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau hyfforddiant pwrpasol

Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau i ddatblygu a sicrhau datrysiadau dysgu perthnasol, pwrpasol a chost-effeithiol o safon uchel.

Gallwn greu gweithgareddau hyfforddi a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Siaradwch â ni am sut y gallwn greu rhaglen bwrpasol neu fewnol ar eich cyfer chi.

Beth gallwn ni gynnig i'ch busnes

Rydym yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i ddatblygu a chyflwyno atebion dysgu pwrpasol, cost-effeithiol, perthnasol ac o ansawdd uchel. Gallwn:

  • gyflwyno cyrsiau o’n rhaglen bresennol yn benodol ar gyfer eich sefydliad
  • teilwra cynnwys o’n cyrsiau sy’n addas i’ch busnes
  • dylunio rhaglen neu weithgaredd hyfforddiant gwbl bwrpasol i fodloni amcanion eich sefydliad.

Mae’r dysgu’n ymarferol a rhoddir pwyslais penodol ar drafod a rhyngweithio, a chael gwybod sut y gall sgiliau a gwybodaeth newydd gael eu defnyddio yn y gweithle. Ein nod yw sicrhau y gall gweithwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau i’r eithaf, a fydd yn helpu sefydliadau i fod yn arloesol, yn gystadleuol ac yn gyfoes bob amser.

Caiff ein darpariaeth hyfforddiant ei diweddaru’n gyson i adlewyrchu anghenion busnes a’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.

Ategir ein cyrsiau gan ymchwil o’r radd flaenaf ac arbenigedd addysgu, a chânt eu llywio gan ein cysylltiadau agos â diwydiant, cyrff proffesiynol a’r sector cyhoeddus.

Yn dibynnu ar amcanion a phynciau, mae gweithgareddau DPP ar gael mewn ystod o fformatau – mae hyn yn cynnig hyblygrwydd ac yn bodloni gofynion unigol eich busnes.

Arbenigedd ar draws tri choleg

Mae’r Uned DPP yn gweithio gydag academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant ar draws 24 o Ysgolion o fewn tri Choleg y Brifysgol.

Mae gennym dri Rheolwr Datblygu Busnes, ac mae pob un ohonynt yn gweithio’n agos gydag un o’r Colegau:

  • Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - Phil Swan
  • Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd - Charlotte Stephenson
  • Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg - Kate Sunderland.

Uned DPP bwrpasol

Bydd yr Uned DPP yn borth ar eich cyfer ac yn eich cefnogi chi a’ch busnes i fanteisio ar arbenigedd ac ymchwil blaenllaw y Brifysgol ar draws ystod o ddisgyblaethau.

Byddwn yn cydweithio â chi, drwy’r broses o adnabod problem eich busnes hyd at ddylunio’r cwrs a gwerthuso’r hyfforddiant.

Mae hyn yn sicrhau ein bod yn deall eich busnes drwyddi draw, ac yn cynnig hyfforddiant sydd wedi’i deilwra’n benodol i ofynion eich sefydliad. Mae gweithio yn y ffordd hon yn ein galluogi i drin eich hyfforddiant mewn modd ymarferol a chreu canlyniadau pendant a allai gael effaith ar eich busnes ar unwaith.

Gallwn gynnig fersiynau wedi’u teilwra o gwrs byr neu raglen, neu ddatblygu rhywbeth yn benodol i’ch sefydliad drwy fanteisio ar arbenigedd y Brifysgol mewn ystod o ddisgyblaethau.

Customer Service Excellence

Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid® nodedig sy'n golygu gallwch fod yn sicr bod eich profiad gyda ni yn gadarnhaol a chyfeillgar.

Manylion cyswllt

Os hoffech drafod sut gall gweithio gyda ni fod o fudd i'ch busnes, ffoniwch neu ebostiwch ni i gael sgwrs anffurfiol gychwynnol neu llenwch ein ffurflen gofynion penodol.

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus