Ewch i’r prif gynnwys

Interniaethau Ymchwil yr Haf ym maes Seryddiaeth Tonnau Disgyrchiant

Mae ein rhaglen interniaethau yn rhoi’r cyfle i israddedigion o bob cwr o'r byd ymchwilio gyda'r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant yn ystod gwyliau'r haf.

Fel arfer, gall ymgeiswyr llwyddiannus dreulio hyd at wyth wythnos yma yng Nghaerdydd yn gwneud ymchwil gyda mentor yn y grŵp.

Mae'n agored i israddedigion ledled y byd sydd bellach yn cwblhau eu hail, trydedd neu bedwaredd flwyddyn o astudio.

Mae'r rhaglen hon er cof ein cyfaill a'n cydweithiwr Leonid Grishchuk, a oedd am flynyddoedd lawer yn aelod ysbrydoledig o'r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant.

Pynciau ymchwil

Ymhlith y pynciau ymchwil posibl y mae:

  • modelu orbitau tyllau du deuaidd a’r tonnau disgyrchiant y maen nhw’n eu creu
  • profion maes cryf ym maes disgyrchiant
  • datblygu technegau i ganfod tonnau disgyrchiant uwchnofâu neu lwybrau mewnol sêr niwtronau a thyllau du deuaidd

Hyd a ffioedd

Mae'r cyfnod fel arfer rhwng pedair ac wyth wythnos, ond mae'r amserlen yn hyblyg yn seiliedig ar gytundeb yr ymgeisydd a'i fentor.

Mae'r interniaethau'n cynnwys lwfans cynhaliaeth o £275 yr wythnos.

Sut i wneud cais

Mae’n rhaid i’r ceisiadau gynnwys y canlynol:

  • datganiad answyddogol (sef copi o farciau eich cwrs)
  • curriculum vitae:
  • dau eirda y bydd eich canolwyr yn ddelfrydol yn eu hanfon ar wahân

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 1 Chwefror bob blwyddyn.

Dylid ebostio ceisiadau i gravity@caerdydd.ac.uk.