Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

One of our researchers

Rydym yn enwog am ansawdd ein hymchwil ac am ei effaith ar draws diwydiant, cymdeithas a'r economi.

Mae ein grwpiau ymchwil ar flaen y gad ym maes ymchwil, p’un a ydynt yn ymdrin ag astroffiseg a chosmoleg, tonnau disgyrchol, technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd neu ddelweddu’r ymennydd.

Rydym yn gweithio gyda:

  • nifer o’r arsyllfeydd mawr ar y ddaear ac yn y gofod, sy’n darparu’r offer diweddaraf a ddefnyddir ar gyfer ymchwil astronomeg o’r radd flaenaf
  • y consortiwm byd-eang sy’n defnyddio’r Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LlGO) er mwyn astudio tonnau disgyrchol cosmig
  • Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) sy’n cyfuno arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes mapio'r ymennydd â'r gwaith diweddaraf ym maes delweddu'r ymennydd ac ysgogi’r ymennydd
  • Sefydliad y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd sy’n rhan o gampws ymchwil ac arloesedd newydd £300 miliwn y brifysgol

Gwelsom gyllid ymchwil sylweddol a buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys ystafell microsgopeg electron ynni isel a chyfleusterau i dyfu a nodweddu diemwnt, yn ogystal â’r buddsoddiad diweddar yng nghyfleusterau technoleg newydd lled-ddargludyddion cyfansawdd.