Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae ein hymchwil sy'n arwain y byd ym meysydd ffiseg ac astroffiseg yn ein helpu i ddeall y byd ffisegol o'n cwmpas yn well ac yn llywio addysg ein myfyrwyr i sicrhau ein bod yn cynhyrchu graddedigion sy’n eithriadol o gyflogadwy.

Rydym yn ceisio sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r byd o’n cwmpas a chynnig atebion i’r heriau pwysig sy’n wynebu gwyddoniaeth a chymdeithas. Rydym yn gweithio o fewn amgylchedd ymchwil ysgogol a deinamig, gyda chymorth cyfleusterau ymchwil modern o ansawdd uchel a staff ymchwil sy’n enwog yn rhyngwladol.

Ein myfyrwyr

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol i’n myfyrwyr. Ein nod yw eu trwytho yn egwyddorion ffiseg a seryddiaeth. Rydym yn eu herio i ddatrys problemau ymarferol a dyfnhau eu dealltwriaeth o wyddoniaeth er mwyn cyfleu cyffro a phwysigrwydd chyffredinol y pwnc i gymdeithas a'r gymuned ehangach.

Cydnabyddiaeth annibynnol

Mae ein myfyrwyr hefyd yn gosod gwerth ar ein haddysgu a’n cyfleusterau. Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2022, roedd 100% o'n graddedigion Seryddiaeth a 93% o’n graddedigion Ffiseg yn fodlon yn gyffredinol ar ein cyrsiau gradd. Mae’r arolwg annibynnol hwn yn dangos bod ein myfyrwyr yn mynegi lefelau uchel o foddhad yn gyson.

Cawsom statws Ymarferydd Juno gan Banel Asesu Juno y Sefydliad Ffiseg, i gydnabod ein harferion cydraddoldeb ac amrywiaeth.