Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae gennym ystod eang o gyfleusterau a chyfarpar ymchwil o’r radd flaenaf ar gael i gefnogi staff a myfyrwyr gyda’u rhaglenni a’u prosiectau ymchwil.

Mae ein labordai ymchwil yn fodern ac yn cynnig:

  • cyfleusterau delweddu a cytometreg cyfoes
  • labordai ynysu ac ystafelloedd ar gyfer ymchwiliadau procaryotau ac ewcaryotau,
  • cyfarpar cemeg polymer ar gyfer syntheseiddio a nodweddu
  • adnoddau bioleg foleciwlaidd a chelloedd
  • ystafell wltra-allgyrchu pwrpasol
  • offer cromatograffig uwch
  • sbectrosgopeg NMR
  • sbectrometreg màs
  • caledwedd a meddalwedd modelu moleciwlaidd

Trefnir y llwyfannau cyfarpar ac adnoddau cymorth technegol o fewn ein disgyblaethau. Mae’r llwyfannau hyn yn hwyluso ymchwil ryngddisgyblaethol yn yr ysgol yn ogystal ag ymchwil gydag ysgolion eraill ar draws y Brifysgol. Maent hefyd yn hyrwyddo gwaith gyda sefydliadau a chwmnïau masnachol eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

I addysgu ôl-raddedigion, mae gennym ofod a ailadeiladwyd yn ddiweddar i gynnwys chwe ystafell ymgynghori ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag ymarfer fferylliaeth.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cyfleusterau hyn, cysylltwch â:

Denise Barrow

Denise Barrow

Technical Resources Manager

Email
barrowd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5827