Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Gwyliwch ein myfyrwyr yn egluro pam eu bod wedi dewis astudio Fferylliaeth yng Nghaerdydd

Rydym yn falch o fod yn hyfforddi fferyllwyr y dyfodol. Ein cenhadaeth yw rhoi i’n myfyrwyr y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i lwyddo yn eu dewis o yrfa.

Enw’r radd Côd UCAS
Athro mewn Fferylliaeth (MPharm) B230

Beth mae fferyllwyr heddiw yn ei wneud?

Bu fferyllwyr yn arbenigwyr ym maes cyffuriau a meddyginiaeth erioed, a gallant ymwneud ag unrhyw agwedd ar baratoi a defnyddio cyffuriau. Mae hynny’n cynnwys darganfod meddyginiaethau, cael hyd i’r ffordd orau o weinyddu cyffuriau, eu cyflenwi i gleifion, a hyd yn oed optimeiddio therapi cyffuriau.

Darganfyddwch beth mae fferyllwyr modern yn ei wneud.

Mae rôl fferyllydd yn mynd ymhell y tu hwnt i gownter y fferyllfa. Ac mae hynny wedi dod yn fwyfwy gwir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae llawer o fferyllwyr heddiw hefyd wedi cymhwyso i ragnodi meddyginiaeth yn annibynnol ar feddyg, ac maent yn rheng flaen y ddarpariaeth gofal iechyd - boed hynny mewn ysbyty neu leoliad cymunedol, gan gynnwys meddygfeydd a chanolfannau iechyd. Mae ganddynt rôl hanfodol wrth gefnogi cleifion a gwella’u hiechyd a’u llesiant.

Gallwch lawrlwytho ein canllaw defnyddiol, ‘Dyfodol ym maes Fferylliaeth’, sy’n trin a thrafod y gyrfaoedd y gall fferyllwyr eu dilyn:

Dyfodol mewn fferylliaeth

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod, wedi ei gyflwyno gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn fferyllydd?

Os ydych yn meddwl yr hoffech chi ddod yn fferyllydd, lawrlwythwch ein 'Pasbort i Fferylliaeth' am lawer o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu ar eich ffordd.

Pasbort I Fferylliaeth

Beth sydd rhaid i mi ei wneud i fod yn eryllydd?

Rhesymau dros astudio Fferylliaeth gyda ni

Rydyn ni’n cael ein hystyried yn un o’r Ysgolion Fferylliaeth gorau yn y Deyrnas Unedig o flwyddyn i flwyddyn, ac mae 97% o’n myfyrwyr mewn cyflogaeth a/neu’n gwneud astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio (Source: HESA Destination of Leavers in Higher Education Survey 2018/19). Felly, os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes fferylliaeth, gallen ni fod yn ddewis perffaith i chi. Dyma pam:

Myfyrwyr yn yr ystafell ymghynghori
Caiff myfyrwyr eu harfogi â nifer o'r sgiliau bydd angen arnynt ar gyfer uwch-ymarfer fferyllol.

Ein cymuned

Pan gerddwch chi drwy ddrysau Adeilad Redwood, cewch eich hun mewn amgylchedd cynnes, croesawgar, sy’n eich gwneud yn gartrefol. Mae ein Hysgol glos hefyd yn gymuned gefnogol, lle mae staff a myfyrwyr yn cydweithio’n agos.

Fel myfyriwr, gallwch chi gael arweiniad gan eich Tiwtor Personol, Mentor sy'n Fyfyriwr, a thrwy ein Panel Staff a Myfyrwyr effeithiol.  Mae gennym hefyd Uwch-swyddog Cynghori Tiwtoriaid sydd wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon yn ystod eu hamser gyda ni.

Ar ben hynny, mae cymdeithas myfyrwyr fywiog, actif a difyr ar waith yn yr Ysgol, sef WPSA, sy'n cynnal llawer o ddigwyddiadau elusennol, chwaraeon a chymdeithasol ar gyfer yr holl fyfyrwyr Fferylliaeth sydd yma.

Myfyrwyr yn astudio yn Adeilad Redwood
Myfyrwyr yn astudio yn Adeilad Redwood, sef lleoliad yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Ein harbenigedd

Rydyn ni wedi bod yn hyfforddi fferyllwyr, ac yn helpu i ddylanwadu ar y proffesiwn, ers 100 mlynedd.

Gan fod rôl y fferyllydd yn cymryd camau breision ymlaen yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mae ein rhaglen MPharm hefyd yn esblygu’n barhaus i adlewyrchu’r datblygiadau hyn. Bydd eich cyfnod gyda ni yn eich paratoi ar gyfer y cyfleoedd cyffrous sydd o’ch blaen.

Ein lleoliadau gwaith

Rydyn ni am i chi gael profiad ymarferol, bywyd go iawn, fel eich bod yn gwbl barod i ymgymryd â rôl fferyllydd. Dyna pam mae ein lleoliadau yn rhan mor hanfodol o’n rhaglen, ac yn cychwyn yn wythnos gyntaf un ein astudiaeth.

Bydd ein lleoliadau yn rhoi cyfle i chi ryngweithio â chleifion a gofalwyr, y cyhoedd, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill mewn amrywiaeth o leoliadau. Byddwch nid yn unig yn cael cyfle i arsylwi rôl y fferyllydd a dod i ddeall sut mae gofal fferyllol yn cael ei optimeiddio, byddwch hefyd yn cael chwarae rhan weithredol yn y lleoliadau hyn, gan helpu i feithrin eich sgiliau a’ch hyder wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs.

Yn ystod eich pedair blynedd, cewch eich hun ym mhob un o’r prif leoliadau iechyd, gan gynnwys fferyllfa gymunedol, fferyllfa ysbyty, a gofal sylfaenol meddygfeydd teulu. Byddwch yn cwrdd ag ystod eang o gleifion sydd â sbectrwm amrywiol o gyflyrau iechyd ac yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr gofal iechyd i gefnogi cleifion a mwyafu effaith eu meddyginiaethau.

A chan fod rôl fferyllydd yn esblygu, rydyn ni’n sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cwblhau lleoliadau mewn mannau sy’n adlewyrchu’r newidiadau hynnny, er enghraifft mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel gwasanaeth gwirfoddoli’r ysbytai, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Cartrefi Gofal, a Gweithredu Caerdydd a’r Fro ar Iechyd Meddwl. Bydd y lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i chi feithrin a datblygu eich sgiliau ymgynghori, rhywbeth sy’n hanfodol i lawer o fferyllwyr heddiw.

Mae ein lleoliadau yn nodwedd hynod boblogaidd o’n cwrs, ac rydym yn datblygu ein rhaglen lleoliadau yn barhaus er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer y cam nesaf yn yr yrfa o’u dewis.

Myfyrwyr yn sgwrsio ag arbenigwyr gofal iechyd ar leoliad gwaith
Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith lle maent yn dysgu i weithio fel rhan o dîm gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Yn ogystal â’n rhaglen lleoliadau, mae ein myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol drwy ymweld ag UDA, Uganda a Sambia er mwyn ennill profiad rhyngwladol.

Mae lleoliadau wedi bod yn rhan hollbwysig o’r cwrs ers y flwyddyn gyntaf. Yn yr ail flwyddyn y cefais fy lleoliad gorau, pan ymwelais ag uned asesu gofal yr henoed. Roedd gwerthfawrogi safbwynt y claf a gwerth tîm amlddisgyblaethol ar adeg mor gynnar yn y cwrs yn amhrisiadwy ac yn rhywbeth y bydda i’n ei gofio am byth. Mae rhoi gwybodaeth dwi wedi’i dysgu mewn darlithoedd a gweithdai ar waith ar leoliad wastad yn gyffrous ac mae cael y cyfle i rannu’r wybodaeth hon â chleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn golygu bod yr holl waith caled werth yr ymdrech.’

Ella Jenkins, Myfyriwr MPharm

Ein darpariaeth addysg ryngbroffesiynol

Rydym yn ffodus bod yr ystod lawn o alwedigaethau gofal iechyd yn cael eu cynrychioli yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd - gan gynnwys Meddygaeth, Deintyddiaeth, Optometreg, Seicoleg, Nyrsio, Ffisiotherapi a mwy.

Byddwch chi’n ymgymryd â sesiynau addysg rhyngbroffesiynol gyda myfyrwyr o Ysgolion eraill y Coleg er mwyn cael profiad hollbwysig o weithio mewn tîm aml-ddisgyblaeth. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n falch o’i gynnig fel rhan o’n rhaglen, gan ein bod yn gwybod y bydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer eich gyrfa i’r dyfodol.

Students learning CPR

Ein cyfleusterau

Mae gennym ni gyfleusterau ardderchog yn yr Ysgol sy’n hunan-gynhaliol:

  • labordai modern ar gyfer arbrofion
  • ystafelloedd ymgynghori newydd sydd ag union yr un cyfarpar â’r hyn y byddech yn disgwyl ei weld mewn fferyllfeydd go iawn
  • Labordy Ymarfer Fferylliaeth (sy’n cynnwys cypyrddau gweinyddu ac argraffyddion labeli cyffuriau er mwyn ymarfer gweinyddu)
  • Ystafell efelychu ysbyty lle gall myfyrwyr ennill profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg i ysbyty
  • ystafelloedd tawel lle gall myfyrwyr astudio
  • man cymdeithasol gyda gwasanaeth hunan-wasanaeth.

I gael gwybod sut rydym yn defnyddio ein cyfleusterau i roi addysg o safon uchel i chi a’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, gwyliwch daith ein myfyrwyr MPHarm blwyddyn olaf, Hannah a Luke, o gwmpas Adeilad Redwood.

Gwyliwch y daith o amgylch yr Ysgol

Ein hangerdd ynghylch gwyddoniaeth a gwaith ymchwil

Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein gwaith ymchwil, ac rydyn ni’n falch iawn o’r amrywiaeth o brosiectau ymchwil blaengar sydd ar waith yma ar hyn o bryd.

Fel myfyriwr israddedig yn ein Hysgol, byddwch chi’n elwa o’n hangerdd ynghylch gwyddoniaeth a gwaith ymchwil, oherwydd bod ein tîm o ymchwilwyr, sydd ymhlith y gorau yn y byd, yn llunio ac yn addysgu’r rhaglen MPharm. O fioleg folecwlaidd i gemeg feddyginiaethol, gwyddor meddygaeth sy’n greiddiol i’r hyn rydym ni’n ei addysgu, a thrwy astudio yma, byddwch yn dod i gysylltiad â’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil fferyllol.

100 years of Cardiff School of Pharmacy logo

Ein hymrwymiad i addasu i anghenion newidiol proffesiwn fferylliaeth

Mae ein rhaglen MPharm yn cael ei adolygu yn rhan o’n hymrwymiad parhaol i wella ein cwrs er mwyn iddo adlewyrchu’r newidiadau mewn ymarfer fferylliaeth a sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnynt ar eu cam nesaf yn eu gyrfaoedd ym maes fferylliaeth.

Yn 2021, cyflwynodd y corff rheoleiddio ar gyfer fferyllwyr, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, safonau newydd ar gyfer addysg a hyfforddiant fferylliaeth i sicrhau bod fferyllwyr sydd newydd gymhwyso nid yn unig yn cadw sylfaen wyddonol gref ond bod ganddynt y sgiliau a'r profiad clinigol i gefnogi cleifion ag amrywiaeth ystod o anghenion iechyd.

Mae'r safonau newydd hyn yn cyd-fynd â'n hathroniaeth ein hunain ar gyfer addysg a hyfforddiant fferylliaeth fel bod ein MPharm yn datblygu i adlewyrchu newidiadau mewn arferion fferylliaeth bywyd go iawn.

Gan elwa ar ddegawdau o brofiad mewn datblygu sgiliau clinigol y gweithlu fferylliaeth, ynghyd â'n perthynas waith agos â rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol mewn addysg a hyfforddiant fferylliaeth, rydym mewn sefyllfa unigryw i integreiddio'r safonau newydd hyn o fewn MPharm Caerdydd.

Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol drawsnewidiol ar gyfer ymarfer fferylliaeth wedi'i integreiddio o fewn y tîm gofal iechyd ehangach ac ni fu erioed amser mwy cyffrous i ddechrau ar yrfa fferylliaeth.

Yng Nghaerdydd byddwch yn dod o hyd i amgylchedd dysgu ysgogol, cydweithredol a fydd yn datblygu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ac yn eich galluogi i gyfrannu'n gadarnhaol at ofal iechyd cleifion.

Pharmacist blood pressure in a pharmacy

Cymhwyso i fod yn Fferyllydd

Ar ôl cwblhau ein gradd MPharm, gallwch wneud cais am y flwyddyn cyn cofrestru. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn honno yn llwyddiannus, a phasio asesiad cofrestru GPhC, byddwch yn gymwys i gofrestru fel fferyllydd cymwysedig.

Rydym yn falch dros ben o’r ffaith bod mwy na 85% o'n myfyrwyr sy’n sefyll arholiad cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn llwyddo’r tro cyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol..

Bydd yr MPharm hefyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd eraill posibl ym maes iechyd, gwyddoniaeth neu addysg.

Rhagor am ein rhaglen MPharm gan gynnwys trosolwg o’r cwrs, nodweddion allweddol, gofynion mynediad a rhagolygon gyrfa.