Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Ein nod yw gwella canlyniadau iechyd cleifion. Beth am ymuno â ni?

Os hoffech gychwyn ar radd ymchwil sy'n rhoi'r rhyddid i chi ymchwilio i bwnc arloesol sy'n ymwneud â gwyddoniaeth meddyginiaethau, rydych chi wedi dod i'r lle iawn. Mae ymchwil ôl-raddedig yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddarganfod, datblygu a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posib o feddyginiaethau a therapiwteg i fynd i'r afael â rhai o glefydau mwyaf gwanychol a bygythiol y byd.

Darganfyddwch pa gyfleoedd PhD cyfredol sydd ar gael gyda ni trwy ddewis ‘Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd’ o dan ‘Adran’ ar dudalen ysgoloriaethau a phrosiectau PhD.

Two female students in a lab with test tubes

Lle mae ymchwil o’r radd flaenaf yn disgwyl amdanoch

Pan fyddwch yn ymuno â ni i ymgymryd â PhD neu MPhil, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr o'r radd flaenaf mewn ysgol groesawgar, gefnogol, gyda mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf.

Rydym yn falch o'n treftadaeth sy'n cynnwys dros 100 mlynedd o ragoriaeth addysgu ac ymchwil ac mae gan ein Hysgol enw da am ansawdd yr ymchwil rydym yn ei chynnal.  Rydym yn denu grantiau ymchwil mawr o amrywiaeth o ffynonellau ac, ar unrhyw un adeg, mae gennym tua 60 o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster PhD.

Mae ein hamrywiaeth eang o ymchwil yn cwmpasu pob maes gwyddoniaeth sy'n gysylltiedig â fferylliaeth – o ddarganfod cyffuriau a chemeg feddygol i ymarfer fferylliaeth a fferylliaeth glinigol.  Ein nod yw rhoi cyfle i chi gynnal ymchwil yn y maes sy'n gweddu orau i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol.

Dysgwch fwy am ein cyfleoedd ar gyfer ymchwil ôl-raddedig

'The postgraduate research community was incredibly friendly and inviting. It was great to get involved in activities and I had a brilliant time being on the student-staff panel which I chaired for 18 months. I had brilliant support from my supervisory team at the School, especially with regards to writing my thesis in the last nine months of my PhD and the viva process.'

Dr Alex Voisey

Themâu ein hymchwil

Mae ymchwil o fewn ein Hysgol yn rhyngddisgyblaethol ac yn dod o fewn dwy thema gyffredinol sy'n gorgyffwrdd

  1. Darganfod Cyffuriau, Gwyddorau Fferyllol a Therapiwteg Arbrofol (DDPSET) a
  2. Optimeiddio Meddyginiaethau a Chanlyniadau Gofal Iechyd (MOHO)

Mae amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil ôl-raddedig ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno ymchwilio i'r themâu hyn.

Ein gwahanol ddisgyblaethau ar gyfer graddau PhD ac MPhil

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n angerddol am wyddoniaeth meddyginiaethau. Mae gennym bortffolio ymchwil amrywiol i chi ei ystyried wrth wneud cais am radd PhD neu MPhil yn ein Hysgol.  Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys:

Cyflenwi Cyffuriau a Microbioleg (PhD/MPhil)

O fewn y maes ymchwil hwn, rydym yn cynnal prosiectau sy'n cynnwys deall natur rhwystrau biolegol a datblygu systemau datblygedig i wella’r ddarpariaeth therapiwteg. Rydym hefyd yn archwilio strategaethau goroesi microbaidd, halogiad microbaidd mewn cynhyrchion fferyllol, rheoli haint microbaidd mewn amgylcheddau gofal iechyd.

Dysgwch fwy am ein cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig ar gyfer Cyflenwi Cyffuriau a Microbioleg (PhD/MPhil)

Cemeg Feddyginiaethol (PhD/MPhil)

Drwy’r ddisgyblaeth hon, gallwn gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol, y byd academaidd neu mewn gofal sylfaenol/eilaidd. Mae ein prosiectau ymchwil yn cynnwys modelu moleciwlaidd a phrogyffuriau niwcleotidau ("Protidau") yn enwedig fel cyfryngau gwrthganser a gwrthfeirysol.

Dysgwch fwy am ein cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig ar gyfer Cemeg Feddyginiaethol (PhD/MPhil)

Ffarmacoleg a Ffisioleg (PhD/MPhil)

Mae astudiaeth ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys datblygu eich dealltwriaeth o reoleiddio ffisiolegol a phrosesau clefyd, nodi a dilysu targedau cyffuriau newydd ac archwilio mecanweithiau gweithredu cyffuriau.

Dysgwch fwy am ein cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig ar gyfer Ffarmacoleg a Ffisioleg (PhD/MPhil)

Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol (PhD/MPhil)

Os ydych am ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant fferyllol, y byd academaidd neu mewn gofal sylfaenol/eilaidd, mae'r ddisgyblaeth ymchwil ôl-raddedig hon yn cynnig cyfoeth o brosiectau i'w hystyried. O lywio a dylanwadu ar ymarfer fferylliaeth a datblygu polisi ar ddefnyddio a chymeradwyo meddyginiaethau i ganfyddiad cleifion ac ymchwil economaidd-gymdeithasol – gallwn gynnig prosiect i gyd-fynd â'ch diddordebau.

Dysgwch fwy am ein cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig ar gyfer Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol (PhD/MPhil)

pharmacist and patient

Ein cyfleusterau

Fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig, byddwch yn elwa ar ystod eang o offer a chyfleusterau ymchwil o ansawdd uchel sy'n cefnogi eich ymchwil a'ch astudiaethau, gan gynnwys y cyfleusterau delweddu a cytometreg diweddaraf, ystafell allgyrchu uwch bwrpasol, ystafell GMP ar gyfer gwaith llunio treialon clinigol a llawer mwy.

Dysgwch fwy am ein hoffer a'n cyfleusterau

Ein Hacademi Ddoethurol

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer eich PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch ymuno â'n Hacademi Ddoethurol.  .

Dysgwch fwy am ein Hacademi Ddoethurol

Ein cefnogaeth i'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig

Ynghyd â'r Academi Ddoethurol, mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant sylfaenol mewnol ar y sgiliau ehangach y bydd eu hangen arnoch fel ymchwilydd. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys paratoi poster, cyflwyno eich ymchwil mewn cynhadledd, ysgrifennu eich papur cyntaf ac adolygu llawysgrif.

Ein cymuned

Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn rhan annatod o gymuned ein Hysgol ac rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau i ddod â nhw at ei gilydd a rhoi’r cyfle iddynt elwa ar brofiad ei gilydd. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys ein Diwrnod Ymchwil Ôl-raddedig poblogaidd iawn a digwyddiadau eraill lle gall myfyrwyr gyflwyno eu gwaith a chael gwybodaeth gan eu cyfoedion a staff academaidd.  Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad croesawu, digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys hufen iâ ym Mharc Bute, a mwy.  Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hefyd yn elwa ar Banel Myfyrwyr Staff lle gallant gyflwyno sylwadau ac awgrymiadau ar y ffordd y mae ein Hysgol yn gweithio gyda myfyrwyr ôl-raddedig ac yn cefnogi ymchwil ôl-raddedig.

Students by poster boards at postgraduate research poster day

Sut i wneud cais

Os hoffech ymuno â ni ar gyfer ymchwil ôl-raddedig, cymerwch olwg ar y nodiadau canllaw hyn a'r ddolen i'r ffurflen gais ar-lein.

Derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae gennym bedwar dyddiad derbyn y flwyddyn ym mis Hydref, Ionawr, Ebrill a Gorffennaf.

Mae angen i ni dderbyn eich ffurflen gais wedi'i chwblhau cyn y gallwn ystyried eich cais a bydd angen i chi hefyd gyflwyno dau eirda a phrawf o gymwysterau cyn y gallwn wneud cynnig i chi.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!

"Rwy'n cael fy ariannu'n llawn gan Cancer Research Wales. Roedd fy ngradd flaenorol ar brosiect tebyg i'm un cyfredol. Fodd bynnag, mae gwneud PhD yn hollol wahanol i wneud gradd meistr. Mae myfyriwr PhD yn teimlo'n fwy aeddfed i ymgymryd â chyfrifoldebau ac wynebu heriau. Hefyd, yn y lefel astudio hon mae gan fyfyriwr rôl weithredol ac weithiau ef yw'r un sy'n rhedeg y sioe!

Dionysia Lymperatou, Fferyllfa PhD

Ymholiadau

Os hoffech wybod mwy am ymuno â ni ar gyfer ymchwil ôl-raddedig, cysylltwch â ni.

Wendy Davies

Wendy Davies

Postgraduate Research Administrator

Email
pharmacypgr@caerdydd.ac.uk