Ewch i’r prif gynnwys

Treftadaeth

Yn 2019-20, roeddem yn falch iawn i ddathlu ein canmlwyddiant cyntaf o ragoriaeth addysg ac ymchwil.  Mae ein hanes a treftadaeth wedi helpu ni i feithrin enw da yn rhyngwladol.

100 years of Cardiff School of Pharmacy logo

Mae llawer wedi newid ym mhroffesiwn Fferylliaeth ers i ni ddechrau addysgu ym mis Hydref 1919.  Ond yr hyn sydd heb newid yw ein penderfyniad a’n hymrwymiad i wella’r proffesiwn, i ymateb i anghenion gofal iechyd newidiol y boblogaeth, ac i wella bywydau cleifion.

Am mwy na chant o flynyddoedd, rydym wedi bod yn cynhyrchu graddedigion rhagorol, sy’n barod i gael gyrfa, a buom yn arloesi er budd y proffesiwn.  Heddiw, rydym mor ymroddedig ag erioed i’r amcanion hynny.

Ochr yn ochr ag ymfalchïo wrth ddathlu ein cyflawniadau yn ystod y ganrif ddiwethaf, felly, ein nod yw defnyddio’n treftadaeth i helpu i ddylanwadu ar ddyfodol fferylliaeth yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Rydym yn falch o'n hanes a'n treftadaeth. Maent wedi ein helpu i ddatblygu enw da rhyngwladol am ein dysgu a’n haddysgu.

Ein hanes

Ym mis Hydref 1919, agorodd Coleg Fferylliaeth Cymru fel adran o Goleg Technegol newydd Caerdydd. Yn y flwyddyn gyntaf honno, dysgwyd 88 o fyfyrwyr gan ddau aelod o staff mewn dwy ystafell ddarlithio a dau labordy yn yr hyn sydd bellach yn Adeilad Bute. Gallent astudio amser llawn neu ran-amser ar gyfer diplomâu a thystysgrifau a osodwyd gan y Gymdeithas Fferyllol a Chymdeithas yr Apothecari. Symudodd yr Ysgol yn gyflym i gynnig gradd BPharm allanol Prifysgol Llundain o 1927, a sefydlu gradd Prifysgol Cymru o 1936.

First intake of students
Our first intake of students and staff photographed outside the Technical College (now Bute Building) in August 1920.

Erbyn diwedd y 1950au, roedd yr Ysgol yn tyfu'n rhy fawr i'w chyfleusterau, ac ym 1961 agorwyd yr Adeilad Newydd (Redwood bellach) yn swyddogol gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin. Yn wreiddiol yn gartref i Cemeg, Bioleg a Llywio ochr yn ochr â Fferylliaeth, roedd yn cynnig cyfle i gynyddu nifer y myfyrwyr a'r staff, ac i wneud datblygiadau sylweddol mewn addysgu ac ymchwil. O’i myfyrwyr PhD cyntaf ym 1961 i ddarganfyddiadau arloesol yn ystod y degawdau mwy diweddar, mae ymdrechion gwyddonol yr Ysgol wedi parhau i fod yn sail i addysgu israddedig.

Themâu allweddol trwy gydol hanes yr Ysgol yw cefnogaeth y gymuned fferylliaeth leol a'r hoffter mawr sydd gan gyn-fyfyrwyr. Mae'r ddau yn golygu bod yr Ysgol wedi bod yn ganolog i fferyllfa Cymru am fwy na chan mlynedd.

Os hoffech gael gwybod rhagor am hanes ein Hysgol, edrychwch ar ein llyfr '100 Years (1919-2019): Cardiff University School of pharmacy and Pharmaceutical Sciences' a gomisiynwyd i nodi ein canmlwyddiant.

Black and White image of the redwood building
The Redwood Building became home to the School of Pharmacy and Pharmaceutical Sciences on 2 June 1961. Credit: Glamorgan Archives