Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn angerddol am y proffesiwn fferylliaeth. Mae ein treftadaeth gyfoethog yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer ein hymchwil flaengar a'n hymagwedd arloesol at addysg

Myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ymchwilwyr
Addysgir ein myfyrwyr gan dîm o ymchwilwyr sy’n arwain y byd.

Yn ein Hysgol o’r radd flaenaf a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae gennym ymchwilwyr blaenllaw sy’n gwneud gwaith i ddarganfod, datblygu a defnyddio cyffuriau a meddyginiaethau i fynd i’r afael â rhai o’r cyflyrau meddygol mwyaf gwanychol sy’n bygwth bywyd, megis Clefyd Alzheimer, Clefyd Parkinson, canser, diabetes a chlefydau heintus.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, daeth yr Ysgol Fferylliaeth yn gydradd gyntaf yn y wlad. Mae ein hymchwilwyr ymroddedig yn paratoi’r ffordd ar gyfer creu dulliau newydd ac effeithiol i ddarparu’r cyffuriau hyn, ac yn edrych ar sut y gellir eu defnyddio i drin clefydau’n well. Yr un tîm o ymchwilwyr, yn ogystal ag ymarferwyr arbenigol allanol, sy'n addysgu fferyllwyr y dyfodol.

Y peth gorau am y rhaglen MPharm yw cael eich addysgu gan staff sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang yn eu meysydd priodol. Cawn siarad â phobl sy’n llywio’r byd fferylliaeth, ac sy’n cynnal ymchwil a datblygiad a fydd yn sail i driniaethau'r dyfodol. Rwyf wedi cael y cyfle i dreulio amser dramor, cael fy newis am sawl gwobr a chynrychioli ein corff proffesiynol, sef y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS). Rwyf wedi cael amser gwych yma.

Mark Sweeney, myfyriwr MPharm

Rydym yn cydweithio

Gan ein bod yn rhan o Brifysgol sefydledig, nid ydym yn gweithio mewn modd ynysig.​ ​​Mae gennym gydweithrediadau ymchwil sylweddol gyda’n cydweithwyr ar draws Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd y Brifysgol ac y tu hwnt iddo, yn ogystal â phartneriaid yn y GIG a’r sector diwydiannol gwyddor bywyd. Gyda'n gilydd, gallwn gyflawni llawer mwy, wrth ddefnyddio ein harbenige​dd cyfunol. ​

Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa ar y cysylltiadau cryf hyn ar draws y Brifysgol. Mae ein hymrwymiad i addysg ryngbroffesiynol ac sy'n canolbwyntio ar gleifion yn golygu eu bod yn cael mewnwelediad gwerthfawr a phrofiad o bob rhan o'r proffesiynau gwyddor bywyd a gofal iechyd sy’n eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Rydym yn falch o gael ein cydnabod yn fyd-eang am ragoriaeth barhaus wrth ddatblygu gwybodaeth, ddarparu darganfyddiadau sylweddol newydd o fudd i gymdeithas, a meithrin graddedigion hynod werthfawr, arloesol a mentrus sy'n addas ar gyfer ymarfer a chyflogaeth.

Yr Athro Mark Gumbleton, Pennaeth yr Ysgol

Rydym ni'n sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer eu gyrfa

Myfyrwyr yn dysgu wrth wneud gwaith ymarferol
Our students benefit from patient-focused education.

Rydym wedi ein rhestru yn The Complete University Guide 2020 fel yr Ysgol orau sy’n cynnig rhaglen MPharm ledled Cymru a Lloegr.

Rydym yn falch dros ben o’r ffaith bod mwy na 85% o'n myfyrwyr sy’n sefyll arholiad cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn llwyddo’r tro cyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol. Ers sawl blwyddyn, mae 100% o'n graddedigion sydd wedi gwneud cais ar gyfer hyfforddiant fferylliaeth cyn cofrestru wedi llwyddo i gael lle yn yr hyfforddiant.

Mae ein myfyrwyr yn magu hyder a’r gallu i ddod yn ymarferwyr fferylliaeth proffesiynol rhagorol, yn ogystal ag yn gadael fel graddedigion cyflogadwy iawn gyda'r angerdd, y sgiliau a'r ddawn i wneud cymaint mwy.

Rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen MPharm i Israddedigion

Rydym yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer astudio ôl-raddedig neu ymchwil

Rydym yn falch o gynnig rhaglenni ôl-raddedig proffesiynol i fferyllwyr cymwys ochr yn ochr â rhaglenni ychwanegol ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd eraill a gwyddonwyr biofeddygol.

Rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni a addysgir i ôl-raddedigion

Mae gennym hefyd enw da am ansawdd yr ymchwil rydyn ni’n ei chynnal ac am ddenu grantiau ymchwil helaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Ar unrhyw adeg, mae gennym tua 60 o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster PhD drwy ymchwil.

Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil i ôl-raddedigion gyda ni.

Rydym yn cynnwys y cyhoedd yn ein gwaith

Ar wahân i'n swyddogaethau ymchwil ac addysgu, rydym yn ymdrechu i gynnwys y cyhoedd yn ein maes arbenigedd. Rydym yn trefnu llu o weithgareddau i’r cyhoedd gymryd rhan ynddynt, o’n prosiect Pharma Bees. Rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i ymgysylltu â’r cyhoedd

Rydym yn gymuned Ysgol ofalgar

Rydym yn falch o’n cymuned glos o fewn yr Ysgol. Mae gennym gymdeithas myfyrwyr israddedig hynod weithgar a chroesawgar, Cymdeithas Myfyrwyr Fferylliaeth Cymru, yn ogystal â chymdeithas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Mae ein tîm o staff yn cynnwys dros 66 aelod o staff academaidd ac addysgu, yn ogystal â gweithwyr y gwasanaethau proffesiynol. Gwahoddir yr holl staff a myfyrwyr i amrywiaeth eang o seminarau ymchwil, ac mae hefyd croeso i ymwelwyr allanol.

Myfyrwyr yn cerdded ger yr Adeilad Redwood
Mae ein myfyrwyr yn mwynhau cymuned gefnogol yr Ysgol Fferylliaeth yn Adeilad Redwood.

Rydym yn croesawu chi i ymuno â ni

P’un a ydych yma i astudio’r rhaglen MPharm fel myfyriwr israddeidg, i ddatblygu eich addysg drwy astudiaeth ôl-raddedig, neu i ymuno neu gydweithio â'n tîm o ymchwilwyr sy’n arwain y byd , byddwch yn geithio gyda ni i lywio'r proffesiwn Ferylliaeth a gwella bywydau cleifion.