Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
Rydym yn un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU. Mae ein haddysgu yn cael ei lywio a'i gefnogi gan ein hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae'n caniatáu i fyfyrwyr archwilio gwahanol agweddau ar fferylliaeth fodern.
Rydym yn falch o ddathlu yn diweddar ein 100 mlynedd gyntaf o ragoriaeth addysgu ac ymchwil. Mae ein hymrwymiad i wella’r proffesiwn, i ymateb i anghenion gofal iechyd newidiol y boblogaeth, ac i wella bywydau cleifion yn parhau.