Ewch i’r prif gynnwys
William Ford

Dr William Ford

Senior Lecturer

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Trosolwyg

Cymwysterau

  • BSc Anrh: Gwyddorau Biolegol Cymhwysol
  • PhD: Ffarmacoleg Gardiofasgwlaidd

Aelod o Ddisgyblaeth Ymchwil Ffarmacoleg a Ffisioleg yr Ysgol

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2017

2016

2015

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2005

2002

2001

Erthyglau

Ymchwil

Aelod o Ddisgyblaeth Ymchwil Ffarmacoleg a Ffisioleg yr Ysgol

Diddordebau ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil wedi'u gwasgaru ar draws tri phrif faes gydag llinynnau cyffredin yn plethu trwyddynt. Yn hanesyddol mae fy nghefndir wedi bod ym maes ffarmacoleg gardiofasgwlaidd ac yn fwy penodol mewn anafiadau isgemia-ad-adfer-llif-gwaed myocardaidd (myocardial ischaemia-reperfusion injury). Rwyf wedi astudio sut mae'r system rennin-angiotensin yn effeithio ar adferiad tymor byr a thymor hir wedi anaf isgemia-ac-adfer-llif-gwaed myocardaidd. Yn fwy diweddar, rwy'n ymwneud ag ymchwilio i ymatebion cardiofasgwlaidd i endocannabinoidau ac aminau hybrin. Rwyf hefyd yn ymwneud ag ymchwil ysgyfeiniol lle rydym yn astudio effeithiau addasu cydrannau o’r ymateb i’r llid (gan gynnwys defnyddio endocannabinoidau) i leihau llid a chaethni’r bronci a achosir gan alergenau. Mae astudio'r system endocannainoid hefyd yn sail i gydweithrediad newydd gyda Norgine i astudio clefyd llid y coluddyn.

Cannabinoidau yn y system gardiofasgwlaidd

Mae'r corff yn gallu cynhyrchu a rhyddhau cyfansoddion (endocannabinoidau) tebyg i'r rhai a geir mewn darnau o Ganabis sativa. Yr hyn mae gennym ddiddordeb ynddo yw darganfod pa dderbynyddion sy'n cysylltu'r endocannabinoidau hyn ag ymateb cardiofasgwlaidd. Drwy’n gwaith rydym wedi nodi ymatebion cardiofasgwlaidd yr ymddengys eu bod yn cael eu cyfryngu gan un neu ragor o safleoedd gweithredu newydd. Gan ein bod ni ac eraill wedi dangos bod endocannabinoidau yn cyfryngu ymatebion cardiofasgwlaidd pwysig, megis amddiffyn rhag anafiadau isgemia-ac-adfer-llif-gwaed, mae'r safleoedd gweithredu newydd hyn yn cynrychioli targedau therapiwtig posibl.

Cannabinoidau yn y llwybr gastroberfeddol

Mae arsylwadau yn ymwneud â defnyddwyr canabis yn awgrymu y gallai endocannabinoidau fod â rôl fuddiol i'w chwarae wrth drin clefyd llid y coluddyn (IBD). Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o fanteisio ar y system endocannabinoid ar gyfer trin IBD mewn cydweithrediad â phartner diwydiannol.

Llid yr ysgyfaint

Mae llid ar yr ysgyfaint, sydd heb ei reoleiddio yn sail i glefydau’ ysgyfaint dynol megis asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Mae gennym fodelau o lid guinea-mochyn a achosir gan ovalbumin a llid yr ysgyfaint murine. Yn y ddau fodel hyn gall caethni’r bronci yn ei gyfnod cynnar a’r cyfnod ar ei ddiwedd o ganlyniad i anadlu alergennau gael eu gweld. Yn y mochyn-cwta, rydym hefyd wedi cynhyrchu model o lid yr ysgyfaint o ganlyniad i haint firaol PIV-3 a ffliw yn ogystal â gwaethygiad achosir gan feirws o ran asthma alergaidd (wedi achosi gan ovalbumin). Yn ogystal â nodi priodweddau’r modelau hyn ymhellach, mae gennym ddiddordeb yn effeithiau endocannabinoidau, bradykinin ac oaminau hybrin ar swyddogaeth yr ysgyfaint ac ar lid ar yr ysgyfaint.

ysgogiad β-adrenodderbynyddion ac anafiadau isgema-ac-adfer-llif-gwaed myocardaidd

Mae adrenalin wedi cael ei roi ers blynyddoedd lawer i geisio dadebru cleifion asystolig. Mae'r cyfiawnhad ffarmacolegol dros ymyriad o'r fath yn wan. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn ymchwilio i'r potensial y gall actifadu un neu fwy o β-adrenodderbynyddion amddiffyn y galon rhag anaf isgema-ac-adfer-llif-gwaed. O bosibl, gallai'r ymchwil hon arwain at driniaeth ar gyfer anafiadau isgema-ac-adfer-llif-gwaed myocardaidd.

Cydweithredwyr

  • Rwyf wedi cydweithio â Dr Joachim Bugert yn Adran Microbioleg Feddygol yr Ysgol Meddygaeth ym maes heintiau firaol y llwybrau anadlu. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn heintiau a achosir gan feirws y ffliw a feirws parainffliwensa math 3, gan gynnwys mecanweithiau llid yr ysgyfaint a'i effeithiau ar sut mae’r ysgyfaint yn gweithio.
  • Mae Dr Tony Nials, GlaxoSmithKline, wedi cyd-oruchwylio pedwar myfyriwr PhD â'r Athro Broadley gyda chymorth y cwmni dros y 10 mlynedd diwethaf.
  • Rydym yng nghamau olaf y broses o gyflwyno cynnig gyda Dr Audrey Long, gynaecolegydd ymgynghorol sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro, i astudio rôl canabinoidau mewndarddol mewn achosion o newidiadau a achosir gan feichiogrwydd i gylchrediad y gwaed.
  • Rwyf wedi cydweithio â'r Athro Broadley a Dr Kidd (ymchwil i’r systemau ysgyfeiniol a chardiofasgwlaidd). Rwyf hefyd yn datblygu prosiectau cydweithredol gyda'r Athro Baxter (ymchwil i’r system gardiofasgwlaidd), sydd wedi ymuno â'r Ysgol yn ddiweddar, a Dr Mark Gumbleton (ymchwil i’r bibell gastroberfeddol)

Ôl-ddoethurol: Dr M Akhtar Anwar

Prif arbenigedd

  • Calon Langendorff
  • Swyddogaeth meinwe cyhyrau ynysedig y galon
  • Astudiaeth in vivo o'r system gardiofasgwlaidd
  • Mesur swyddogaeth yr ysgyfaint gan ddefnyddio plethysmograffeg

Cyllid ymchwil

  • Ysgoloriaethau cydweithredol gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (2006-9) i astudio effeithiau sensiteiddio ofalbwmin cronig ar yr ysgyfaint gyda GlaxoSmithKline
  • Ysgoloriaeth gan Sefydliad Prydeinig y Galon (2004-8) i astudio sut mae is-deipiau o β-adrenodderbynyddion yn cael effaith ar ddifrifoldeb anafiadau ischaemia-ad-ddarlifiad myocardiaidd, a grant prosiect (2002-5) i ymchwilio i sut y gallai canabinoidau mewndarddol leihau achosion o anaf ischemia-ad-ddarlifiad myocardiaidd
  • Ymchwil contract ar gyfer Ferring Research i ymchwilio i gyfansoddion gwrthlidiol newydd mewn perthynas â llid ar y llwybr anadlu
  • Ysgoloriaethau a noddir gan ddiwydiant gyda Topigen (2006-9) i ymchwilio i effeithiau cyfansoddion sy’n rhyddhau nitrig-ocsid ar lid ar y llwybr anadlu a Norgine (2008-2011) i astudio rôl bosibl canabinoidau mewndarddol mewn achosion o glefyd llidiol y coluddyn

Addysgu

    • PH1122 Rôl y fferyllydd mewn ymarfer proffesiynol
    • PH1124 Systemau cyrff dynol
    • PH1125  Priodweddau cemegol a biolegol moleciwlau cyffuriau
    • PH2112  Egwyddorion dylunio cyffuriau
    • PH2113 Clefydau a chyffuriau I
    • PH2203 Tueddiadau cyffuriau
    • PH3110  Optimeiddio gofal fferyllol
    • PH3113 Clefydau a chyffuriau II
    • PH3202 Methodoleg ymchwil
    • PH4116 Prosiect ysgoloriaeth neu ymchwil ym maes fferylliaeth
    • PH4118 Gwyddorau Fferyllol, Ymarfer Fferyllol a’r Claf

Bywgraffiad

Proffil gyrfa

  • 2002 - Darlithydd Prifysgol Caerdydd (Caerdydd, y DU) yn Ysgol Fferylliaeth Cymru. (dyrchafwyd yn Uwch-ddarlithydd yn 2010)
  • 1998-2002 - Prifysgol Caergrawnt (Caergrawnt, y DU) Cymrodoriaeth yr Adran Ffarmacoleg. Apwyntiad pum mlynedd gyda grant gweithredu adrannol (£72,000 dros 5 mlynedd). Cyflog: £24,227
  • 1996-1998 - Prifysgol Alberta (Edmonton, Canada): Cymrodoriaeth ôl-ddoethurol gyda Dr BI Jugdutt yn ymchwilio i ffarmacoleg angiotensin II mewn ailfodelu cnawdychiad ôl-fyocardiaidd, anaf isgemia-ac-adfer-llif gwaed a metaboledd is-haen ynni myocardiaidd.
  • 1994-96 - Prifysgol Alberta (Edmonton, Canada): Cymrodoriaeth ôl-ddoethurol Ciba-Giegy gyda Dr AS Clanachan, Dr R Schulz a Dr GD Lopaschuk. Ymchwilio i dderbynnydd adenosin A1 a ffarmacoleg sianel KATPwrth amddiffyn y galon rhag anaf isgemia-ac-adfer-llif gwaed a metaboledd is-haen ynni myocardiaidd.

Gwasanaeth gwyddonol

  • Prif Olygydd Autonomic and Autacoid Pharmacology
  • Aelod o fwrdd golygyddol Autonomic and Autocoid Pharmacology

Anrhydeddau a dyfarniadau

Anrhydeddau a dyfarniadau

Gwobr Robert Beamish, Papur gorau 1998

Enillydd gwobr Robert Beamish am y papur 'Effect of the novel angiotensin II type 1 receptor antagonist L-158,809 on acute infarct expansion and acute anterior myocardial infarction in the dog' a gyhoeddwyd yn y Canadian Journal of Cardiology

Gwobr Cymrodoriaeth Sefydliad Calon a Strôc Canada (1997)

Aelodaethau proffesiynol

    • Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain
    • Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil y Galon
    • Cymdeithas Brydeinig ar gyfer Ymchwil Cardiofasgwlaidd